Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Lle Mae'r Strydoedd yn Saith PE gofynnid p'run yw'r dref bwysig fwyaf Cymreig yng Nghymru, fe atebai llawer, a'r rheini heb fod yn perthyn i'r dref ei hun, mai Caernarfon. Ac i brofi'r pwnc buasent yn sôn am gymreictod y ddwy sir sydd o'i chwmpas, ac yn ei chymharu yn hyn o beth â'i chymdogion agosaf, sef Bangor a Biwmares. Ond mi gredaf hefyd y buasai'r gwrth- wynebwyr yn sicr o ofyn a ydyw Caernarfon yn dref bwysig o gwbl; fe nodent nad oes ganddi yr un diwydiant na'r un sefydliad cenedlaethol o'i mewn, ac er ei bod ar lan y môr, nad yw yn gyrchfan llongau masnach na chwaith yn denu ymwelwyr y tywod. Oherwydd hyn fe awgryment nad yw yn bwysig o gwbl, mai un o nifer o drefi bach cj-ffredin Cymru ydyw, ac ymhlith y rhein y ceid digon o rai mwy Cymreig na Chaer- narfon. Tref HanesyddoL Yn ddigon naturiol, prin :v buasai pobl y dref yn dygymod â dehongliad fel hwn, ac y mae'n bosibl y ceisient brofi eu pwnc ymhellach ar bwys hanes y dref, ac vr haerent mai Caernarfon yw'r dref fwyaf hanesyddol yng Nghymru. Nid pob un o'r gwrthwynebwyr a allsai na gwrthbrofi na chydnabod hyn, gan cyn lleied a wyr y rhelyw o Gymry hyd yn oed heddiw am hanes ein trefi. Beth bynnag a ddywedir am y dref, fe saif yn amlwg iawn ymhhth trefi hanesyddol Cymru. Pan geir y guide book hwnnw y soniodd Mr. R. T. Jenkins amdano rywdro. yna fe ddaw Caernarfon i'w hetifeddiaeth. Fe berthyn iddi hanes mwy diddorol nag odid unrhyw dref, ac ofer i neb geisio pwysleisio dim ar ei rhagor- iaethau a'i diddordeb ar wahân i'r hanes hwnnw. Wrth feddwl am hyn rhyfeddaf yn aml na chymerai rhai o bobl dda'r dref at y gwaith o ddwyn allan lawlyfr i gadarnhau eu hymffrost yn ei hanes. Strydoedd hynafol. Oni bai am yr olwg darawiadol a geir ar y Castell wrth ddod i lawr Stryd y Llyn, fe elai pobl y siarabang drwy'r dref heb wybod bod dim hynodrwydd yn perthyn iddi o gwbl, gan fod eu llwybr yn gorwedd yn gyfangwbl yn y rhan ddiweddar ohoni, ac ni all neb ymffrostio dim yn y strydoedd hynny. Ond fel rheol y mae'r olwg ar y castell yn ddigon i atal y prysuraf, ac o aros, buan iawn y darganfyddant yr hen dref, a'i muriau a'i phyrth a thawelwch hynafol rhai o'i strydoedd. Nid gormod sôn am ddwy dref mewn perthynas â Chaernarfon. Gydag eithrio Stryd y Plas, lle y mae'r farchnad, y mae prysurdeb masnachol heddiw wedi crynhoi y tu allan i'r muriau. Prysurdeb o fath arall a geir y tu fewn iddynt; prysurdeb hamddenol swyddfeydd twrneiod, swydd- ogion cyllid, a llys yr ustusiaid, ac yn y dyddiau diwethaf hyn, prysurdeb swydd- Trefi Cymru IV Gan I Owen Parry Twr yr Eryr, Castell Caernarf on. feydd y cyngor sir. Prysurdeb ag oriau penodol iddo ydyw hwn, a phan gilia ar 61 pump yn yr hwyr fe ddisgyn cysgodion y muriau a hen blasau'r ddeunawfed ganrif yn drymach drymach ar y strydoedd a luniwyd saith ganrif a hanner yn ôl. Y ddwy dref. Ar y llaw arall, wedi pump yn yr hwyr yn aml y daw prysurdeb mwyaf i'r strydoedd y tu allan, yn enwedig ar nos Sadwrn, pan ddaw y llanciau a'r llancesi o'r pentrefi i'r dref i rodianna, ac ar noson felly fe deimlai'r mwyaf anystyriol rywbeth o'r ddwy dref pe cerddai o'r Bont Bridd i Stryd y Castell. Diddordeb pennaf hanes Caernarfon ydyw hanes yr hen dref, ei sefydlu, a'r newid a ddaeth drosti pan geisiodd roi gwin newydd cynnydd y ddeunawfed ganrif yn hen gos- trelau dinesig y drydedd ganrif ar ddeg. Y mae'r stori'n dechrau yn 1283, a'r pryd hwnnw mae'n debyg bod gwyr Môn ac Arfon 'yn teimlo bod pethau newydd iawn ar y ddaear yn eu dyddiau hwy. Ond pes gwyddent, nid oedd mor newydd chwaith. Nid dyna'r tro cyntaf y corffor- wyd awdurdod estron mewn meini ardderchog yn eu tir. Ddeuddeg can mlynedd cyn hynny, cododd y Rhufeiniwr ei amddiffynfa o goed ar y codiad tir uwchlaw'r dref a chyn bo hir daeth yn gaer o gerrig. Plannu'r castelL Yn sicr nid y lleiaf o olion hanes sydd yn y dref ydyw olion y gaer honno-Caer Saint, a'r arian a'r darnau llestri a gafwyd ynddi gan gloddwyr ein hoes ni ac sydd yng Gant Oed nghadw yn llyfrgell y dref. Nid oes esgus dros i neb beidio â gwybod y stori erbyn hyn, stori'r trai a'r llanw yn hanes yr ym- herodraeth hynod honno, y perygl beun- yddiol a'r cyfaddawdu â'r brodorion cyn y diwedd. Pwy bynnag a fyn wybod, dar- llened yr hanes yn nhudalennau Dr. Mortimer Wheeler. Plannodd Iorwerth y Cyntaf ei gastell ef wrth ymyl y dŵr rhwng dwy afon, Saint a Chadnant. Y mae'r ddwy afon yn llifo 0 hyd, ond ni welir mo Gadnant bellach gan fod ei gwely cul wedi ei bontio dan siop a stryd. Ac ar fin Menai yng nghysgod y Castell y lluniodd y dref. Yn union felly y digwyddodd gyda Chonwy ac ychydig yn ddiweddarach gyda Biwmares. Y Rhufeiniwr a'r Sais. Yn wahanol i'r Rhufeiniwr yr oedd diogelwch i'r Sais yn y môr; diogelwch noddfa pe delai awr gyfyng arno a hefyd ddiogelwch i lwyddiant masnachol ei dref. Sefydlwyd garsiwn yn y Castell a denwyd bwrdeisiaid i'r dref. Rhoddwyd tiroedd helaeth iddynt y tu allan i'r muriau, a phob mantais fasnachol i ymgyfoethogi. Fe ymgyfoethogasant y mae'n ddiau, ond ddim digon am lawer cenhedlaeth i fedru hepgor y tiroedd a roddwyd iddynt hefyd, ac am amser hir yr oedd trigolion y dref yn llawn cymaint o ffermwyr ag oeddynt o siopwyr. A gellir dychmygu gymaint fu'r golled i bobl felly pan gymerodd Glyn Dŵt bopeth o'u heiddo ond y dref. Erbyn dyddiau Elisabeth, os cywir Speed, nid oedd ond clwstwr o dai y tu allan i'r muriau, rai ohonynt yn y Pendist o gwmpas y Porth Mawr, rhai eraill ar ochr y ffordd a arweiniai i Fangor-Llanvair Lane y gelwid hi yr amser honno, a rhai eraill drachefn ar y ffordd a arweiniai i'r mynyddoedd ac i Lyn. Yr oedd llyn Cadnant yno o hyd a phont o bridd un pen iddo, a maes glas hyd at sawdl y Castell. Taflu'r cofnodion. Ond nid wrth fesur cynnydd y dref y mae deall ei hanes er dyddiau Iorwerth eithr mewn cofnodion gwasgaredig sydd yn dangos y Seisnigo fu ymhlith y Cymry mewn pethau hanfodol eu bywyd ac mewn canlyn- iad i gyfathrachu â'r dref. Ceir cipolwg ar yr hanes yma ac acw, ac fe'i caem yn weddol lawn yn ddiamau oni bai am yr ysfa ofnadwy honno a barodd i rywun daflu'r pentyrrau cofnodion i'r môr gan mlynedd yn ôl. Digon dywedyd bod cymaint o'r gwahan- iaeth rhwng Cymro a Sais wedi diflannu erbyn dyddiau Harri VII nes diddymu'r rhwystrau i Gymry fod yn fwrdeisiaid o'r dref, ac yn ystod helynt Siarl a'r Senedd, (I dudalen 94.)