Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yn agos i ganrif a hanner yn 01 y dech- reuodd yr olwyn gyniaf droi yn öaíri John Horrocks. Bob blwyddyn oddi ar hynny y mae mwy a mwy o olwynion wedi ychwanegu eu cerdd fuddugoliaethus—y mae mwy a mwy o sypynnau o ddefnyddiau gweu coelhlyfn wedi eu hanfon mewn llongau i gwsmer- iaid wedi eu boddhau ymhob cwr o'r byd. A heddiw, pan fo angen defnydd newydd, pan y gellir moderneiddio hen ddefnydd a'i wella Horrockses sydd o hyd yn arwain. Edrychwch am yr enw Horrockses pan fyddwch yn prynu defnddiau. Ar gynfasau, tyweli a chasau gobennydd- ar ddeinyddiau dodrefn—ar frethynau gwisg yn 01 y ffasiwn ddiweddaraf-yna fe gewch sicrwydd am ddefnydd rhagorol a rydd i chwi foddhad parhaol. HORROCKSES HORROCKSES, CREWDSON A'I CWMNI CYF 107, PICCADIUY, MANCEINION Ym Mro y Llynnoedd Dyffryn Eìan, Brycheiniog, a foddwyd gyda maenordy ac eg wys ac amryw amaethdai, i wneuthur cronfa ddwr tref Birmingham. Gan Ralph Wade DYFFRYN ELAN-dyma yn wir fro llynnoedd Cymru. Ni fûm erioed heibio i Lyn Llanwddyn—llyn gwneuthur arall yng Nghymru. Dywedir wrthyf fod harddwch y Llyn hwnnw yn bopeth ellid ddymuno, ond bod y chwaraeon a drefnir i ymwelwyr ar ei lannau yn di-naturioli ychydig ar ei amgylchoedd. Yn Nyffryn Elan chewch chwi ddim ond y sydd yn berffaith naturiol. Fel yn Llanwddyn, felly yn Elan, y mae'r llynnoedd oll yn llynnoedd gwneuthur. Tra mai un llyn a gewch yn Llanwddyn, sy'n darparu dŵr i Lerpwl, fe geir pump o rai enfawr ym Mro Elan, a Chor- fforaeth Birmingham yn gyfrifol am bob un. Y Syniad Cyntaf. Y syniad cyntaf tua diwedd y 19 ganrif oedd adeiladu gwaith dwr yn nyffryn Ithon, eithr fe olygasai hynny ddinistrio pentref eang Llanddewi Ystradenni, a thalu llawer o arian am dir gweddol ffrwythlon. Penderfynwyd felly ar safle arall, y dyffrynnoedd lle'r ymddolennai afonydd Elan a Chaerwen, lle'r oedd y tir yn wyllt ac anial, lle'r oedd y dŵr hefyd yn arbennig bur. Ceisiwyd hawliau gan y Llyw- odraeth a'u cael, ac yn Cabar Coch dyma ddechrau'r gronfa gyntaf. Yma ceir argae mawr iawn yn dal y dŵr ac yn ffurfio'r llyn sy'n ym- estyn oddi yma i'r Clawdd Du Mawr, gwahaniad Elan a Chlaer- wen, ac ymlaen am 3* milltir i fyny Elan ac am ddwy i fyny Claerwen- arwynebedd 0 tua 500 erw. Hen Faenordy. Dan y llyn eang hwn ceir hen faenordy Nant Gwyllt, a Chwm Elan hynafol, a'r hen eglwys ac amryw amaethdai. Deallaf gyda llaw i Brett Young sgrifennu'r gwaith House under the Water ar sail gwneuthuriad llynnoedd Dyffryn Elan, a'r distryw a olyg- odd hynny. Uchder yr argae yw 122 troed- fedd, ac y mae'n rhaid gweled y rhaeadr a achosir gan y dŵr a redir i'r afonydd yn "ddWr iawn- dal cyn y gellir gwerthfawrogi'r olygfa. (I dudalen 95.)