Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

STORI FER X'Y7"EL, Capten Prydderch," meddai'r meddyg, ar ôl ymchwiliad manwl a gofalus o gorff y capten, rhaid imi ddweud y gwir wrthych heb ymdrechu ei gelu. Welais i erioed ddyn â'i galon yn y fath gyflwr, a'r rhannau eraill o'i gorff mor afiach. Y mae'r brwydro trwy'r Rhyfel Mawr, a'r milwrio yn y gwledydd poethion yna wedi chwarae'r andros gyda'ch cyfan- soddiad chwi, ac mae'ch calon ohwi yn "Twt," ebe'r capten ar ei draws, na hidiwch rhyw lu o ffeithiau meddygol, gadewch imi wybod yn blaen a di-lol pa fath drefn sydd arnaf. Gwn yn iawn fod yr hen gorffyn yma mewn stad digon ansicr, dyna'r rheswm dros imi ddyfod i Lyn- lleifiad, at y meddyg gorau yn Rodney Street. Peidiwch ag ofni dweud eich pen- derfyniad,-cofiwch fod bywyd milwrol yn caledu dyn i dderbyn llawer o bethau a ddychrynai ddyn cyffredin. Yn awr, doctor, -allan â fo." O'r gorau, capten," ebe'r meddyg. Y mae'n dda gennyf eich bod yn edrych ar bethau yn y modd synhwyrol yna. Dyma fy marn i, — cymerwch ofal ohonoch eich hunan,-peidiwch â gwneud dim i'ch cyffroi'ch hunan,-cedwch yn dawel ac yn ddistaw, — a byddwch fyw i weld y Nadolig nesaf, a dechrau'r flwyddyn newydd, efallai. Ohd, os cewch chwi'r braw neu'r dychryn lleiaf, ofnaf mai dyna fydd y diwedd i chwi. "Cymerwch ofal yn y modur buan yna sydd gennych, y mae golwg y peiriant, mor foel ac isel a chyflym, yn ddigon i godi ofn ar ddyn, a hefo'r galon yna, a chwithau mor hoff o yrru fel cath i CHWARDDODD Prydderch. ond nid oedd llawer o arabedd yn y chwerthin, na hwyl yn ei lygaid. Sythodd, a chyfarch- odd y meddyg yn y dull milwrol. Diolch, doctor," meddai, dyna be feddyliais y dywedech, gwyddwn fod rhywbeth yn bell iawn o'i le. Daw diwedd ar bopeth rhyw dro, a theimlaf bron yn gyfeillion ag ef,- caf ei adnabod yn well yn y dyfodol agos. Unwaith eto, diolch i chwi am fod mor onest a phlaen." Trodd ar ei sawdl ac aeth allan o'r ystafell, gan adael y meddyg yn edrych ar ei ôl mewn syndod ag edmygedd. Llithrodd y capten i sedd ei fodur, ac mewn eiliad yr oedd i ffwrdd, rhuad brwnt y peiriant yn newid i chwyrnu esmwyth a oedd yn llyncu'r milltiroedd. TRIGAI Huw Prydderch yn Llan-y- creigiau, pentref bach digon dinod ym mryniau Meirion. Ond yr oedd nentydd a llynnoedd campus am bysgod o amgylch, ao aml aderyn i'w gael ar y ffriddoedd, ac yr oédd Prydderch yn ddigon bodlon ag Gan PRYS DARBYSHIRE ROBERT BRAW [F Llun gan R. LL. BDWS. a unigcold a distawrwydd y lIe, ar ôl ei yrta yn y fyddin. Yr oedd wedi prynu bwthyn digon o faint iddo ef ei hun ac wedi ad- newyddu tipyn arno, trigai yno yn ddedwydd, gyda Sam Lloyd, fu'n was iddo yn ei ddyddiau milwrol. Yr oedd y ddau yn ad- nabyddus i'r holl ardal, ac yn hoff gan bawb. Cyrhaeddodd y capten ei gartref, ac wedi cadw'i fodur, aeth i'w dv, i fwynhau'r hwyrbryd a baratowyd iddo gan Sam. Wedi darfod, daeth Sam i fewn i glirio'r bwrdd, ac wrth fynd trwy'r drws, gofyn- nodd a oedd ar ei feistr eisiau rhywbeth yn ychwaneg y noswaith honno. Atebwyd nad oedd angen dim yn rhagor. Gwenodd y capten wrth weld gwedd Sam yn disgleirio pan glywai hyn, oblegid golygai y medrai Sam fynd i Gwm Brwyn i weld ei hoff Olwen, a byddai yno hyd hanner nos. Ymddiddorai Prydderch yn y rhamant hon, a rhoddai bob cynhorthwy i'r cariadon. WEDI i Sam fynd, tynnodd Prydderch ei gadair freichiau at y tân, a thy- walltodd ddiod iddo'i hun, a thanio ysmyglys. Crychodd ei dalcen. a suddai ei ên i'w fynwes mewn myfyrdod. Nid oedd arno ofn marw, ~¾yr oedd wedi wynebu angau'n rhy aml i hynny, — ond yr oedd sicrwydd y peth hyn yn rhoi agwedd wahanol arno. Beth allasai ei wneuthur ? Amhosibl oedd byw o ddydd i ddydd gan ddisgwyl i bob noswaith fod yn un olaf iddo. Rhaid oedd iddo wneuthur rhywbeth neilltuol, rhywbeth na wnaeth erioed o'r blaen, — un gamp fawr, beryglus, anodd,-yna byddai'n fodlon. Gorweddai yn ei gadair, ac nid oedd ond y pyffiau mwg o'i ysmyglys yn dangos ei fod yn fyw o gwbl. O'r diwedd, cododd o'i gadair, a thaflodd ei sigaret i'r tân. Yr oedd gwên ar ei wyneb, ond nid gwên hapus i edrych arni oedd, oblegid yr oedd rhywbeth satanllyd yn nhroad min ei wefusau ac yr oedd golau oer, caled, yn tanio yn ei lygaid,-yr oedd yr olwg arno yn bygwth drwg i rywun. AETH allan o'r bwthyn, a cherddodd draw i'r Bwch. Gwthiodd i mewn i'r ystafell gyhoeddus, gan gyfarch hwn a'r llall. Gofynnodd am gwrw, ac eisteddodd i lawr i sgwrsio. Daeth gŵr y dafarn a'r ddiod iddo, a derbyn ei bres heb ddweud un gair, ond ni chymerodd neb sylw ohono, oblegid gŵr tywyll, cyfrinachlyd ydoedd, wedi dyfod o Loegr i gadw'r dafarn fach yma. Nid ymddiddorai ym mywyd y fro o gwbl, ymfodlonai ar dderbyn pres yr amaethwyr. Dywedai chwedleuwyr yr ardal ei fod wedi hel arian yn o arw, ac yr oedd yn ffaith ei fod wedi rhoi benthyg dau gan punt i Wil Ifan, Cae Draw, ac wedi gwerthu dodrefn tŷ hwnnw pan fethodd dalu'r pres yn ôl ar y diwrnod penodedig. Nid dyn cyfeillgar oedd gŵr y dafarn. Darfu Capten Prydderch ei wydriad, a chododd i fynd allan. Wrth fynd, prynodd ugain o'i hoff sigarets, a chyda Nos da, bawb cysurus, aeth trwy'r drws. Cerddodd tuag adre'n gyflym, ac wedi cyrraedd y tv, edrychodd o'i gwmpas, ac aeth i mewn. Yr oedd yn llwyd dywyll, a chymylau trymion yn bygwth noswaith fel y fagddu. Wedi goleuo'i ystafell, aeth y capten at y cwpwrdd lle cadwai ei daclau pysgota a saethu. O fysg y drylliau, dewisodd un .22, — un o faint a oedd yn boblogaidd yn ddiweddar ymysg bechgyn y wlad, oherwydd ei fod yn saethu'n bell, ac yn ardderchog at ladd hwyaid ar y llyn. Rhaid oedd cael trwydded arbennig i'r math yma o ddryll, ond nid oedd hynny'n rhwystr o gwbl i'r hogiau. GLANHAODD Prydderch ei wn, a rhoddodd ef ar y bwrdd. Edrychodd ar ei oriawT, ac o weld nad oedd ond ychydig wedi deg, eisteddodd i lawr i ddarllen newyddiadur y dydd. Wedi ysbaid, cododd, ac aeth at y ffenestr. Yr oedd y nos cyn dywylled â'r fagddu, heb awgrym am leuad na sêr. Gwenodd y capten, a thynnodd y Uenni'n ôl i'w lIe. Gafaelodd yn ei ddryll a llwythodd ef, ac aeth allan trwy'r cefn, gan adael y golau yn ei ystafell. Cerddodd i fyny'r ardd oedd wrth gefn y tu, a thrwy'r adwy i'r mynydd. Aeth hyd ochr y bryn nes y daeth gyferbyn â'r Bwch, ac eistedd i lawr. Yr oedd rhyw hanner can llath oddi wrth y ty, a bron yn union ar gyfair y llofft gefn. (1 dudalen 96.)