Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ANRHYDEDD FFRENGIG I GYMRAES EI GWR O FEDDYG PRYSUR RSt^Ji^l^gì^YD y gwn i, ni dderbyn- iodd yr un wraig o Fryth- & S-jjjjsssLfl )/ ones ° blaen yr anrhyd- W ■L§fFü I M. edd a roddwyd ar Dr. Mary Williams rai dyddiau yn ô1 drwy gael ei hurddo yn Chevalier de la Légion d'Honneur gan Arlywydd Llywodraeth Ffrainc. Cefais fy ngwadd i'r seremoni, ac yr oedd yn un urddasol dros ben. Consul Ffrainc yng Nghaerdydd oedd y llywydd, ac ef oedd yn urddo Dr. Williams ar ran Arlywydd Ffrainc. Dywedodd y Consul fel y bu i Dr. Mary Williams annog Prifysgol Llundain a Choleg Abertawe i gydweithio â Phrifysgolion Ffrainc a'i bod yn amhosibl i Lywodraeth Ffrainc fethu cymryd sylw o'r fath hyrwyddiad ar heddwch rhwng y ddwy wlad. Wedi i'r Athro Morgan Watkin, Caerdydd, a'r Athro Ruggles Gates, Llundain, annerch ac wedi i Dr. Mary Williams ddiolch, fe aethpwyd i ginio. Cymru a Ffrainc WRTH ddiolch, dyma'r Athro Mary Williams yn dal sylw mor debyg yw'r iaith Ffrangeg a'r iaith Gym- raeg i'w gilydd ac mor fynych y dywedodd ei greddf wrthi fod dolen glos yn cydio'r ddwy wlad wrth ei gilydd. Dyma'r ddolen sy'n gwneud i Gymry deimlo mor gartrefol pan ânt i Ffrainc, a chael cystal croeso yno," meddai Dr. Mary Williams. Yr oedd y ddolen hon yn hynod gre yn yr Oesoedd Canol, a'm pleser i fu efrydu'r cysylltiadau hyn yn llên Cymru ac yn chwedlau Arthur. 'Does yr un wlad yn medru byw ar ei hadnoddau ei hun heddiw. 'Does dim dwy wlad sy'n cyfannu mwy ar ei gilydd na Ffrainc a Phrydain. I sicrhau heddwch, rhaid inni sefyll gyda'n gilydd." Yna fe ddywedodd mor falch ydoedd o'r anrhydedd hon, a roesid ar un nad oedd yn ddeiliad Ffrengig. Yn gwrando arni mi welais ymhlith eraill Faer y dref, yr Henadur W. J. Davies, a'r Faeres a Phrifathro'r Coleg, y Dr. C. A. Edwards a'i wraig. Un o blant Aberystwyth yw Dr. Mary Williams, ac y mae'n chwaer i Miss Jennie Williams, Llundain, sy'n adnabyddus i ddarllenwyr Y FORD GRON drwy ei hysgrifau ar Hwyl y Cymro. UN o brif ddifyrion y Dr. G. Arbour Stephens, sef gŵr Dr. Mary Williams, yw ysgrifennu i'r wasg-erthyglau pwysig ar faterion meddygol gan amlaf, a straeon byrion, chwareus, weithiau. Beth bynnag a sgrifenno, y mae graen ac ôl meddwl ar ei waith. Caiff Dr. Arbour Stephens amser i was- anaethu ar Gyngor Dinas Abertawe-y mae'n Henadur iddo-yn ogystal a sgrifennu i'r wasg, a hynny er gwaethaf prysurdeb ei alwedigaeth feddygol. Ymhlith y swyddi a lenwir gan y Dr- Stephens fe geir cynghorwr ar y galon Gymdeithas y Clwy Gwyn physigwr i Dr. Mary Williams. Ysbytai Ceredigion, Clydach a Llanddyfi Physigwr i Sefydliad Byddariaid Cymru; aelod o Gymdeithas Feddygol Llundain. Y mae hefyd wedi sefydlu dosbarthiadau meddygol o bob math i addysgu'r ieuanc yn elfennau iechyd. Ef oedd un o sefydlwyr Coleg Abertawe, ac y mae'n aelod o Lys y Brifysgol, o'r Llyfrgell Genedlaethol ac o'r Amgueddfa Genedlaethol. Taflu perl I glywais stori ddiddorol y dydd o'r blaen am Syr Arthur Evans, y Cymro adnabyddus o hynafiaethwr, a dderbyniodd bortread ohono'i hun yn ddi- weddar gan Gymdeithas yr Hynafiaethwyr. Fe gofir mai prif enwogrwydd Syr Arthur yw iddo ddarganfod gwareiddiad coll Creta am hyn y'i gwnaed yn farchog yn 1911, ac y'i hanrhydeddwyd gan gymdeithasau dyfn- ddysg o bob gwlad. Yr oedd Syr Arthur Evans unwaith â'i fryd ar wleidyddiaeth, ac ymgynigiodd yn aelod dros Brifysgol Rhydychen. Dim ond ychydig hen ffrindiau a ddaeth i'r cwrdd i'w gefnogi, ac meddai un ohonynt Anfon ein hynafiaethwr pennaf o Knossos i Westminster ? Peidiwch â thaflu perl o flaen gwleidyddion Gwr llawn syniadau WR. llawn o syniadau gwreiddiol," meddai cyfaill o bensaer wrthyf am Syr Evan Owen Williams, y peirian- nydd gwlad ieuanc fu'n gyfrifol am adeiladu Arddangosfa Wembley rai blynyddoedd yn ôl, ag ef ond yn 31 oed ar y pryd. 'Fydd yr un adeilad fu dan ei ofal ef yn fyr o beri dadl a chynnwrf ymhlith adeilad- wyr," meddai fy nghyfaill wedyn. Ef yw un o beirianwyr galluoca'r byd." Dangosodd imi rifyn o'r Architect, lIe rhoed saith tudalen i egluro dulliau chwyl- droadol Syr Evan Owen Williams o adeiladu. Ffatri fawr yn Nottingham, mewn cwncrid gyr, oedd y gwrthrych y tro hwn. Ailadeiladu Llundain NID llai eofn na'i gynlliniau arferol yw Cynllun Syr Owen Williams i ail- adeiladu Llundain. Byddai hyn yn golygu symud afon Dafwys o'i gwely presennol," meddai, a'i harwain drwy gamlas dan y ddaear. Yna gellid codi rhesi ar resi o dai fflatiau. Costiai hyn gannoedd o filoedd o bunnau, ond yn y dyddiau hyn, costau llafur yw'n prif gostau, ac y mae'n gallu llafur yn rhedeg i hadau.' Mab i deulu a symudodd i fyw i Lundain o Sir Gaernarfon yw'r Cymro hwn sy'n addo gwneuthur rhagor eto o wyrthiau gyda chwncrid, dur a gwydr. Cystadleuaeth liwiau NI welais gymaint cystadlu lliwiau ers cryn amser ag a welais yn Neuadd Cymry Ieuainc Llundain, pan oedd y Ddraig Goch sy'n crogi y tu ôl i'r llwyfan yn gefndir i Gôr Telyn Eryri, ar eu hymweliad â Chymdeithas Sir Gaernarfon yn Llundain.