Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Oherwydd fe wisgai'r Côr ei ddillad arferol ­clogau ysgarlad, hetiau-cantal-uchel a mentyll gwyrdd y telynorion. Daethai'r Côr o ganol Cymru, Beddgelert wrth droed yr Wyddfa, ac fe ddygai eu lleisiau fywyd glân a rhydd y mynyddoedd i adfywio archwaeth ddiflas alltudion Llun- dain. Yr oedd Telynores Maldwyn a'i thelyn yno Namora yn adrodd; Llinos Glaslyn, Nesta Wyn ac Elen Eryri yn datganu, a Miss Dilys Jones yn y gadair. Telynores Eryri YMAE Telynores Eryri, a ganai ben- illion i gyfeiliant Telynores Maldwyn, yn un o'n diddorwyr Cymreig pennaf. Ysgafn o gorff, o bryd golau, fe ddaliai sylw'r dyrfa i gyd pan ganai ran mewn cymeriad-gwaith y bydd hi'n tra rhagori ynddo. Fe ychwanegodd Telynores Eryri at gymer- iad arferol gyffyrddiad cywrain o goegni ac arabedd cyfrwys. yn ei chân ddisgrifio 0 hen ferch 30 mlynedd yn ôl. Y mae Telynores Eryri wedi ennill yn yr Eisteddfod ac wedi perfformio gerbron y teulu Brenhinol. Y mae'n gelfydd hyd bennau'i bysedd. Ac felly'r oeddynt oll. o ran hynny. Mr. Arnold Dolmetsch BETH yw'r hud sy'n eiddo cerddoriaeth y dyddiau gynt ? Y mae Mr. Arnold Dolmetsch yn ei ddeall, fel y gwelodd aelodau o Gymdeithas Cymrodorion Llun- dain, yn ystod ei ddarlith yn Seaford House, ar Hen Gerddoriaeth Cymru. Cefais glywed rhan o'r ddarlith. Rhodd- wyd hi yn yr ystafell gerdd hardd, lliw aur a hufen, â goleuadau ambr tawel a ffresgoau Eidalaidd mirain, Ue'r oedd Arglwydd Howard de Walden wedi gwadd y Gym- deithas. Amlwg fod Mr. Dolmetsch wedi treulio'i oes i efrydu hen gerddoriaeth. Diddorwyd pawb ar unwaith, o weld ar y llwyfan, nid y delyn gyngerdd fawr, ond y delyn Geltaidd fach, gyda thôn main, melys iddi. Er ei fod dros ei 80 oed, y mae Mr. Dolmetsch yn llawn bywyd, ac yn edrych yn hynod gyda'i wallt gwyn hir a'i lygaid tywyll, fflach Rhoddodd Mr. Dolmetsch ei anerchiad yn ei ddull dihafal ei hun-ffeíthiau diddorol wedi eu hysgafnhau â chyffyrddiadau bach personol. Ei briod yn cynorthwyo CYNORTHWYID ef yn y detholiad gan Mrs. Dolmetsch, ac fe ynganai hi enwau Cymraeg yr hen ganeuon heb ddim petrusder. Hy-hi a ddehonglodd yr hyfryd-firain Pibau Morvudd ar y delyn farddol. Sicrhai Mr. Dolmetsch ni y byddai i'r gainc hon ysgogi teimladau'r gwrandawyr -y mae mor hyawdl yn ei hapêl hiraeth ac mor llawn o swyn lleddf dieithr. Dr. G. Arbour Stepbens. Yna dyma Mr. Dolmetsch yn dangos y gwahanol foddau \*n Caniad Llywelyn a Caniad Cadiogan. Canodd ar y crwth Cym- reig Ganiad St. Silin. Caniad Bach ar y Go- Gywair a chanai Mrs. Dolmetsch y delyn yr un pryd. Ei farn am chwilota YN ôl Mr. Dolmetsch gall chwilota i hen hanes cân y Cymry wneud llawer o les i'n hefrydwyr heddiw. "Fe‘u hanfonir i Lundain i ddysgu," meddai, drwy gefnogaeth Cymry gwlatgar, ond collant eu hunoliaeth mewn corddwynt o ryng-genedlaetholdeb. Y mae efrydu'r hen ganu Cymreig hwn yn sicr o'u darbwyllo CWRDD CERDDORION YN NHY ARGLWYDD HOWARD DE WALDEN PENSAER CYMREIG fod gan donau eu gwlad gymeriad pendant na cheir mohono mewn gwledydd eraill. A pheth gwirion iawn yw i rai pobl weithio'n galed i ddatrys nodiant yr hen lawsgrifau, yna eu canu ar offeryn diweddar. I'r delyn y canwyd y rhain, nid i offeryn cyngerdd. Bob bore fe ddaw robin goch bach i'm hystafell a thrydar wrthyf. Dyna'r trydar a gewch yn y ceinciau hyn, ac ar y delyn farddol y'u dehonglir orau." Yn y gynulleidfa YMHLITH y rhai oedd yn gwrando ar Mr. Dolmetsch mi sylwais ar Miss Dilys Jones, sy'n adnabyddus am ei chanu gwerin Mr. Madoc Davies a Mrs. Davies, sydd wedi calonogi llawer o gantorion Cymreig Dr. Hartwell Jones Arglwydd Clwyd ac Arglwyddes Clwyd a Mr. Owen Bryngwyn, yn prysur gyfìeithu'r teitlau Cymraeg i gyfaill o Sais. Yr oedd Arglwydd Howard de Walden wrth ei fodd bod cynifer o bobl wedi dyfod i'r detholiad. Ef yw un o noddwyr mwyaf y celfyddydau Cymreig ac fe gymer ddiddor- deb bob amser mewn Cymro neu Gymraes o dalent. Yr oedd Mr. Cecil Williams, olynydd Syr Vincent Evans fel ysgrifennydd i'r Gymdeithas, hefyd yn falch o'r gynulleidfa. Y mae ef yn llawn sêl dros y Gymdeithas. Detholiad ar y Delyn CLYWAIS am lwyddiant telynor arall y mis diwethaf-yn Abertawe y tro hwn. Penderfynodd Miss Rhiannon James roi detholiad ar y delyn am y tro cyntaf, yn Neuadd Iago, ganol y mis, ac yr oedd yr antur yn llwyddiant perffaith. Yn ogystal â gweithiau Almaenaidd a Ffrengig a Rwsaidd, fe roes Miss Rhiannon berfformiad hynod o Sweet Richard John Parry o Riwabon. Canai Miss Margaret Caradoc-Williams hefyd ganeuon Albanaidd yn y detholiad, a Phedwarawd Tant Morgan Lloyd, sef Mr. Morgan Lloyd, Mr. Evan Parker, Mr. D' George Isaac, a Mr. Emyr Evans-Jones.