Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SAINT Annwyl IJ Adnabum BUM yn byw, o bryd i bryd, mewn pedair sir yn y Deheudir, sef Ceredigion, Mor- gannwg, Brycheiniog, a Mynwy. Cyf- arfûm, fel pawb arall, â dosbarthiadau gwahanol o bobl ym mhob un o'r pedair. Nid saint pawb yn yr un ohonynt. Ond ni bûm yn unman nad oedd rhyw gymaint o halen y ddaear wedi disgyn arno o rywle. Nid yw saint yn boblogaidd heddiw, eithr wedi'r cyfan a ddywedir, dyma'r dosbarth a ychwanegodd fwyaf at fywyd gorau ein cenedl. Nid saint perffaith mohonynt, ond saint ar eu hanner, neu lai na hynny. Digon brith oedd y gorau. Nid saint enwog mohonynt chwaith. Ni chyflawnasant wyrthiau, ni bu eu henwau yn y papur newydd ac ymhen cenhedlaeth neu ddwy derfydd eu coffa oddi ar wyneb y ddaear. Ac nid saint dysgedig mohonynt, ond hil y werin seml, a llawer ohonynt heb gael diwrnod o ysgol erioed. Y bregeth, a'r Ysgol Sul, ac weithiau gyfnod- olion eu henwad fu'r dylanwadau a'u cerfiodd. Plant y cysegr, dyna yn syml a olygaf wrth y gair saint ac fe'm cyfyngaf fy hun i'r rhai y deuthum i i rywfath o gyffyrddiad â hwynt. Ni soniaf am bregethwyr. Nid am na all hyd yn oed y rheini fod yn saint, ond am mai doethach fydd osgoi pob pwnc y gellir dadlau yn ei gylch. Dechrau yn sir Aberteifi. Rhaid dechrau, lIe dechreuais innau, yn Sir Aberteifi, ac ym mhentref bychan Tai- gwynion. Pan oeddwn blentyn, tybiwn fod trigolion y pentref hwnnw yn saint bob un. Cychwynasid y traddodiad gan Isaac Jâms, un o hen gynghorwyr y Methodistiaid, y sgrifennwyd ei hanes gan y Parch. John Evans, Abermeurig. Anrhydeddodd y pen- tref goffa'r hen sant trwy ofalu trosglwyddo'r enw Isaac o genhedlaeth i genhedlaeth. Y mae un o'r enw yn byw yno ar hyn o bryd, a bu gennyf frawd o'r enw Isaac James. Eithr nid yr enw yn unig a ddiogelwyd. Cofiaf yn dda glywed fy mam yn sôn yn fynych am Mari Dafydd, hen wraig dduwiol a oedd yn byw wrthi'i hun. Deuai'r plant direidus at y drws i'w phoeni, a hithau yn eu herlid ymaith. Yna ai'n ôl i'r ty, a chau'r drws. Gyda hynny byddai'r plant wrth y drws drachefn, nid i aflonyddu mwyach, ond i wrando ar Mari Dafydd yn gweddïo trostynt. A dyna lle byddai, yn eu henwi bob un wrth y Maddeuwr Mawr! Sawl rhan sydd mewn dyn. Ond yr amlycaf o bawb yn fy amser i oedd John Oliver, a alwem ni yn John Olfir. Dyn byr, byw, oedd ef, aeliau trymion, â dau lygad disglair o danynt; yr un ddelw yn union a'r bwthyn to gwellt y preswyliai ynddo, a'r bargod bron yn ddigon isel i guddio'r ddwy ffenestr fach. Nid oedd derfyn ar ei wybodaeth. Gallai enwi pob seren yn y nef, a phob llysieuyn ar y ddaear Gan y Parch. J. J. Williams Cedwid Ysgol Sul bryd hynny yn ffermdy Pwllglas, am fod ar y mwyaf o bellter i fynd deirgwaith i'r capel ym Mhen-y-garn. John Olfir oedd athro dosbarth yr hynafgwyr o gwmpas y bwrdd mawr o flaen y ffenestr. Collwyd llyfr mwyaf diddorol cenedl y Cymry am nad ysgrifennodd neb hanes y dosbarth hwnnw. Dyma un peth a gofiaf yn dda. Buasai dadlau mawr y Sul blaenorol ynglŷn â dwy ran dyn, corff ac enaid. Y Saboth hwn daethent yno yn barod i'r ymgyrch, a dechreuodd John Olfir ar yr holi heb golli eiliad. Yr oedd hen frawd o'r enw Enoc yn y dosbarth, nad ystyrrid, 'rwy'n meddwl, yn un o'r disgyblion disgleiriaf. Ac ar Enoc y disgynnodd John gyntaf. Enocl" meddai, wyt ti'n cofio heddi' sawl rhan sydd mewn dyn ? Tair," meddai Enoc. • O. 'rwyt ti wedi ciel gafael mewn tair, wyt ti. Beth y'n nhw, Enoc ? Dwr, awyr, a thân," meddai Enoc. Nid oedd gan John ddim i'w wneud ond edrych dros ben ei sbectol, a gadwai'n bur isel ar ei drwyn, a dywedyd yn dosturiol, O'r cnoc Mi welais briodoli hyn i Ysgol Sul arall, ond yn wir, meddaf i chwi, mi â'i clywais â'm clustiau fy hun. Hen bererin brwd. Rhaid i mi adael Sir Aberteifi, fel y gorfu imi unwaith o'r blaen yn 13 oed, am For- gannwg. Cofiaf yn dda mai un o'r pethau a'm synnodd gyntaf oedd gweled cynifer o ddynion nad oeddynt yn mynd i gapel. Ond dysgais yn ddiweddarach fod i Forgannwg ei saint, fel perlau yn y llwch. Treuliais y rhan fwyaf o'm bywyd yn eu cymdeithas, ac ni byddai gennyf wrthwynebiad i aros yn eu plith am byth bythoedd. Ymrithiant o'm blaen y funud hon, ac anodd gwybod ar bwy i alw gyntaf. Dilynaf y drefn amseryddol hyd y gellir. Pan oedd eglwys Bethania, Abercynon, yn ei mabandod, daethai yno hen bererin brwd ei ysbryd o'r enw William Lewis, o Ddowlais. A'r gweinidog o gartref ryw Saboth, yr oedd gan yr eglwys gwrdd gweddi yn ei absenoldeb, a William Lewis yn un o'r gweddïwyr. Ac fel hyn y gweddïodd: Arglwydd, cofia am Dy was. 'Dyw e ddim yma heddi, wath mi gwelas e'n mynd gyda'r trên cynta'r bora 'ma. Ma fa wedi mynd sha Bendaren, man 'na rhwng Merthyr a Dowlish. ma fa'n pregethu yn Horeb, y capel 'na ar law whith wrth fynd lan." Gellid meddwl wrth weddi William Lewis na wyddai'r Hollwybodol ddim rhyw lawer am y gweinidog nac am Bendarren. Maglu'n lan. Clywais yr hen saint lawer gwaith yn cael eu maglu'n lân gan eiriau anghynefin. Yr oedd cyfarfod blynyddol ym Mhenuel, capel y Methodistiaid Calfinaidd ym Mhenrhiw- ceibr, a Mr. Prydderch. y Gopa bryd hynny, i wasanaethu. Fel hyn y cyhoeddwyd yng Ngharmel, capel yr Annibynwyr, y Sul cynt Sul a nos Lun nesa fe fydd cwrdd blynyddol ein brodyr y Metìiodistiaid. Pregethwr, v Parch. W. E. Prvdderch, Jopa!" Un o frawddegau mawr y saint pan fydd- ant yn gweddïo dros y gweinidog yw hon, Cofia amdano. yn ei ddirgel fyfyrdodau, ac yn ei gyhoeddus gyflawniadau." Yr oedd clywed ambell un o'r rhai mwyaf dawnus yn bwrlymu allan yr hen eiriau braf yn foddion gras ynddo'i hunan. Ond nid i bawb y rhoed y ddawn. Gwn am un hen frawd a ddaeth i ofid bob tro y cynigiodd arnynt erioed. Safai cyn dyfod atynt fel gŵr yn mynd i wneuthur yn sicr o'i fater y tro hwnnw beth bynnag. Ond ni lwyddodd erioed, canys yr oedd pethau'n blith draphlith cyn gorffen bob tro. Cawsom ddirgel gyflawniadau, a chyhoeddus fyfyrdodau lawer gwaith ac weithiau hyd yn oed gyflawnus gyhoedd- iadau." Yr oedd y gŵr ymhell o fod yn anllythrennog hefyd, ond mae'n debyg mai gwaith anodd yw osgoi hen rigol wedi yr eler iddi unwaith. Yn dy dy di." Gorchwyl diddorol hefyd fyddai dilyn yr hen saint i'r Ysgol Sul. Gellid treulio'r nos i groniclo'r ffraethineb a'r gwreiddiolder a glywyd yno, a hynny heb fenthyca dim o'r straeon digrif y gwyr pawb amdanynt. Daethai gŵr ieuanc o Sir Benfro yn aelod o ddosbarth hen athro rhagorol, a adwaenwn yn dda. [Drosodd