Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AMRYWIAETH DDIGURO EIN LLYFRAU DIWEDDARAF a'r tir newydd a dorrir ganddynt AM amrywiaeth eu hapêl, destlus- rwydd eu hargraffiad, a gwreiddiolder eu testun, y mae'n anodd gwella ar y casgliad o lyfrau Cymraeg sydd ar fy mwrdd, wedi dyfod o'r wasg yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf. Ceir yn eu mysg amryw gyfrolau hanes a straeon byrion llyfr o ddigrifwch a llyfr ar deithio; nofel llyfrau bywgraffiad, drama a chelfyddyd. Ac o'u darllen yn ofalus, calonogol yw cael bod amryw o'r llyfrau hyn yn torri tir newydd, ac felly yn ehangu gorwelion y Gymraeg. Yn y modd hwn y cyfaddesir yr iaith i gylchoedd uwch nag erioed o wasanaeth. Maes nad arloeswyd ond ychydig arno yn Gymraeg yw eiddo'r nofel, ac fe saif Cyfrinach yr Afon (gan Stephen O. Tudor, Gwasg Hughes a'i Fab, pris 2/6) ar ei ben ei hun yn y dosbarth hwn. Straeon o'r fath gan Syr A. Conan Doyle, fu'n foddion ennyn awydd darllen Saesneg i lu o fechgyn Cymru, ac fu'n destun ymddiddan ar lawer pont y pentref. Y mae portreiad y nofelydd o rai o'r cymeriadau yn hynod fyw er enghraifft, Disraeli Jones a'i ddawn i droi pob dŵr i'w felin ei hun. Iaith rwydd, hawdd ei deall, cylchfyd anghyffredin, dyma yn wir nofel sy drwyddi yn hyfryd iasaidd. Tad y Cywydd Y mae bob amser groeso i waith ysgrif- ennwr hanes a wyr werth celfyddol y gair argraffedig, megis y'i gwyr awdur Dafydd ap Gwilym (gan W. J. Gruffydd, o Wasg y Brifysgol, pris 1/6). Ar gyfair lledaenu gwybodaeth am un o'n prif feirdd y darparwyd y gyfrol, bardd y bwriedir dathlu ei chwe-chanmlwyddiant ar ddydd Gŵyl Dewi y mis nesaf yn yr ysgolion a'r colegau. Yn ogystal â chipdrem ar hanes ac ar- ferion cyfnod y bardd a lle'r cywydd yn llên Cymru, cawn yma ffeithiau diddorol am Dafydd, ei fywyd crwydr, ei gariadon aml, a'i gyfoeswyr cerddorol. Ymdrinir yn fanwl â phrif hoffedd tad y cywydd," sef dyfalu, gydag enghreifftiau. Ceir hefyd bedwar darlun da. "Er Clod" Methodistiaeth Cyfrol hanes werthfawr sydd hefyd yn amserol yw Er Clod (Saith bennod ar hanes Methodistiaeth yng Nghymru, Gwasg Hughes a'i Fab, pris 3/6 a 2/6) o dan olygiaeth y Dr. T. Richards. Syniad y golygydd oedd dyfod â newydd- ion diweddaraf chwilotwyr yn aberth cymeradwy ar allorau'r dau canmlwydd- iant." Cefnogwyd y syniad gan bedwar awdur arall y llyfr, sef Mr. Bob Owen a Mr. R. T. Jenkins, dau ŵr sydd yn gyn- hysgaeth genedlaethol": Mr. A. H. Williams, pennaf gwr ar hanes codiad a chynnydd y Wesleaid, a Mr. Owen Parry, sydd â mud- iadau politicaidd y ganrif ddiwethaf ar flaenau'i fysedd. 'ч" Ymdrinia Mr. A. H. Williams yn y bennod gyntaf o'r gyfrol â'r cyfeillgarwch a'r cyd- weithio fu rhwng John Wesley a Hywel Harris. Bu Wesley yng Nghymru 46 0 weithiau, ond ni phregethai ond anfynych yng Ngwynedd, oherwydd na ddeallid ef gan y Cymry. Oh what a heavy curse was the confusion of f tØues meddai wedi dychwelyd o Langefni unwaith. Ar adroddiadau'r personiaid yn Esgobaeth Bangor i'w hesgob y seilia Mr. Bob Owen ei drafodaeth ddiddorol, Methodistiaid 1749, ac y mae rhai o'r dyfyniadau a ddyry yn llawn bywiogrwydd iaith a chystrawen. Ni ddaethai Methodistiaeth i'w llawn dwf yn yr esgobaeth y pryd hwn, ond gellir profi mewn rhai mannau, ebe'r ysgrifennydd, na hysbysai rhai o'r offeiriaid yr holl fanylion a wyddent. Ymdrinir mewn pennod arall ar Fethodistiaid 1811 ac 1814. Cafodd Mr. R. T. Jenkins thema wrth fodd ei galon wrth olrhain gweithrediadau La Trobe yn Neheudir Cymru yn y llyfr a mynnych yw'r fflachiadau ar bobl a phethau'r cyfnod a ddyry wrth ddweud yr hanes. Seiliwyd y bennod hon ar bapurau a welodd yr awdur yn Llyfrgell yr Eglwys Forafaidd yn Llundain, yn adrodd hanes ymweliad La Trobe â chynulleidfaoedd allan o Lundain, ac ar Ddyddlyfr Evan Moses o Drefeca, sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol. Gŵr gwreiddiol oedd John Matthews yr hynaf a ddisgrifir yn fyw iawn ym mhennod V, gan Dr. T. Richards, yn bennaf oddi wrth 35 o ddyddiaduron a adawodd ar ei ôl. Er prysured ei waith fel mesurwr tir, mynnai fynd i bob sasiwn o fewn cyrraedd. Bu mewn o leiaf 25 o Sasiynau'r Bala. Ceir yr ochr wleidyddol i ymneillduaeth Gymreig a arweiniodd i flwyddyn fawr '68 gan Mr. Owen Parry, yn y bennod werthfawr, Lecsiwn 1852." Mr. Rhys Davies "ar dramp" Ni wn i paham yr ysgrifennais air ar bapur erioed yn sicr, nid y gred y gallaf ddweud ystori yn ddestlus a'm cynhyrfodd," ebe Mr. Rhys J. Davies, A.S., yn nechrau ei lyfr, Seneddwr ar Dramp (Gwasg Y Brython pris 2/6) efallai mai dyna'r rheswm pam yr ysgrifenna Mr. Davies mor llithrig a byw. Ymdafla'r Seneddwr i'w stori ar unwaith. Yn Warsaw, gwêl weddw ryfel o Gymraes a chyfaill iddi, yn ceisio'i iawnderau ar ôl ei g-wr; yn Lwow, dysg yn well i'r rhai a haera mai Lloegr yn unig yw Prydain; yn Berlin, clyw hanes Cymro fu byw am flynyddoedd yn y ddinas ac a fynnai siarad Cymraeg â swyddogion y wlad nes eu blino. Ac felly ymlaen drwy'r llyfr. Y mae'r darluniau yn wych--colomennod yn Venice, gwisgoedd Ynys yr Ia, heol y brenin Dafydd, Jerusalem, gwisgoedd y Balcans, a gweithiwr Twrc. Y mae darllen y llyfr hwn yn brofiad newydd. Cerddi Mr. Idwal Jones. Bydd enw ambell lyfr yn honni mwy o glod nag a haedda'r llyfr ei hun. Yn sicr, nid felly mo Gerddi Digri Mr. Idwal Jones (Gwasg Llandysul, pris 2;). Dylid rhoi'r llyfr hwn yn nwylo pawb a haero na ellir sgrifennu am ochr ysgafn bywyd yn ein iaith. Caneuon a â yn wych mewn cyngerdd vw Eistedd ar ben Llidiard," Un dyn bach ar ôl," "Siani" a "Marged." Y mae mynd ar yr adroddiadau hefyd, yn arbennig Diniweidrwydd Dyn," ac y mae'r dadleuon Profiadau a Mari yn dangos modd newydd i ddiogelu'r stôr ddihysbydd sydd o arabedd Cymru rhag mynd i golli. Cyfrol a fyddai'n addurn i unrhyw gasgliad o lyfrau yw honno a gyhoeddir gan y gwawl- lunydd Raphael Binet, Autour des Pardons (Am Dro i'r Pardonau), sef 36 o ddarluniau at faint dalen o'r Ford GRON o bobl Llydaw. Ceir yma fenywod y tir, ag ôl y tywydd yn ddwfn ar eu hwynebau; gorymdeithiau crefyddol mewn gwisgoedd gwledig ambell hen gwpl wedi eu tynnu ar ganol ffrae neu adrodd stori genethod bach yn ymyl eglwys, golygfa ar fuarth fferm. Y mae defnydd campweithiau oesol yn rhai o'r darluniau, megis Trugaredd (Rhif 18) a'r Perl Newydd (36). Ychwanega rhagair y bardd Taldir a disgrifiadau Ab Alor wrth bob darlun yn fawr at fwynhad y llyfr. 50 ffranc yw ei bris, ac fe'i ceir oddi wrth yr awdur, 34, rue Marechal Foch, St. Brieuc, Llydaw. Straeon byrion Ym myd y stori ddisgrifiadol, y mae cryn gamp ar Hen Wynebau Mr. D. J. Williams (Gwasg Aberystwyth, 2/3). Gwyr y sawl a ddarllenodd y stori Ochor Draw'r Mini yn Y Ford GRON am g\TÎ\Tddiad melys yr awdur hwn. Mewn cyfrol arall o straeon byrion, gan Tegla, Y Llwybr Arian (Hughes a'i Fab, pris 2/6) fe ddeil stori fel Troi'r Cloc i'w chymharu â phrif straeon byrion unrhyw wlad. Tarewir nodyn trist yn y rhagair i Dramâu i Blant (gan Helena Roberts Hughes a'i Fab, pris 1/6) lle'r eglurir farw o'r awdur cyn iddi allu dwyn y llyfr allan. Dramâu ysgafn, llawen, ydyw'r chwe drama hyn, a'u brawddegau yn gyfryw ag a ddisgwylid i blant eu llefaru. Caiff gobeithluoedd a chymdeithasau ieuenctid a dosbarthiadau ysgol hwyl ar actio Y Dewis Gorau, Ffraeo, Rhyw Nos Galan, Neges y Blodau, Treulio Dygwyl Dewi a Nadolig gyda'r Tylwyth Teg. SYR CAI.