Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWYDDONYDD (Yn datrys dirgelion ond erys y Dirgelwch.) Y GWR dewr i agor dorau-golud Dirgelion yr heuliau Mawr antur-mesur y mae Annelwig maith nifylau. Triniwr yr electronau,-mesurwr Amseriad eu tonnau Gwylia'u rhawd, cais eglurhau Eu rhonciog chwim ystranciau. O fawr i fân, annhrefn ni fynn,— na rhwyg Rhwng yr haul a'r gwlithyn Cadwyn deddf sy'n cydio'n dynn Yr asur wrth y rhosyn. Goleua tân damcaniaeth-y pyllau Lle pallodd sylwadaeth Neidia'i feiddgar ddirnadaeth O sêr i sêr fel llym saeth. Er troedio llwybrau'r trydan­er gwylio'r Gwawl-fydoedd disgleirlan, Mwg tew a wêl, mwgwd tân Dros wyneb dyrys Anian. Dwys chwiliodd, tremiodd, bu'n tramwy-y llwybr I'w Llys anweladwy Mudan dan orchudd meudwy, Dyma a wêl,-a dim mwy. Aberhonddu. D. MIALL Edwards. "Y Ford Gron" G WAEL lymru neu gawl amrwd-ni hulia, I Mae'n heulo pob cwmwd Llon ei gamre,-llên gymrwd A chythru iach, iaith ddi-rwd. Cerrigyctrudion, Sir Ddinbych. Aderyn y To A ER buarth, brwydrwr bywiog, —crwn ei ben, Cecryn bach, talentog, 0 dlodaidd dras gwas y gog Ger y tv yw'r gŵr taeog. Blaenuu Ffestiniog. GLYN MYFYR. Hanner Dydd MAE'N hanner dydd, Clywch leisiau gant Llon drwst y plant Yn chwarae'n rhydd. Ffowch, gŵn y fro, A'ch croen yn iach I adar bach, Gwell mynd ar ffo. TOM OWEN. Gwae grwydriaid blin, Yn siwr o'u trin. Mae'r plant yn rhydd Mae'n hanner dydd. Wrecsam. PAT McMôn. RHYWUN PAN rodder fi yn gudd mewn bedd, A'm cellu yn y weryd oer, Na fyddech di yn drist dy wedd Yn rhodio'n unig dan y lloer. Na foed i ofid wywo'r rhos A blannodd Cariad ar dy rudd, Na phylu'r llygaid, feinir dlos, A'm swyna heno, derfyn dydd. Ond dichon nad oes raid i ti, Fy mun, wrth gyngor glaslanc ffôl Nid erys hud ein nosau ni Ddim hwy na'r gwlith ar flodau'r ddôl. MEURIG WALTERS. Gwaun-Cae- Gurwen,Morgannwg. Ni ddaliant hwy y cyfoeth Islwyn, Lìanfairfechan, Arfon. O DYNER sôn amdano, —o'i wael fedd Myn ail fyw mewn atgo, Hiraeth gyfyd wrth gofio Ingol ddydd ei angladd o. O'r Drafod." Os dônt i'r lle Mae plant y dre O'r ysgol gaeth, Eu hawr hwy ddaeth, Yn y Berllan A WELI di o'n mynd i'r berllan A gobaith yn ei drem I drin y coed a'r perthi A'i gyllell arw lem ? Mae'n tocio'r cangau ffrwythlon, A thorri'r crin i lawr- Fydd i'r cynhaeaf mawr. Ac wrth ei waith fe'i clywais Mewn gweddi'n codi'i lef Am i'r Arloeswr Dwyfol Lanhau ei gangau ef. Heilyn. Cofio DEINIOL. HIAWATHA (H. W. Longfellow.) FELLY ganed Hiawatha, Plentyn bach y rhyfeddodau Ond bu merch yr hen Nocomis, Mam anwylaidd Hiawatha, Farw wedi'i gado'n unig Gan y gorllewinwynt bradog, Gan y creulon Mydseciwis. Am ei merch yn daer a hirfaith Cwynai, wylai'r prudd Nocomis 0 na bawn yn farw," meddai, 0 na bawn yn fud fel tithau. Darfod wylo, a llafurio, Wahonomin, Wahonomin! Draw ar lannau Gitsi Gymi, Ger y disglair Forlif heli, Safai wigwam fach Nocomis, Hi, Nocomis, ferch y wenlloer. Tu cefn iddo codai'r goedwig, Codai'r pinwydd duon, pruddaidd, A'r ffynidwydd gyda'u conau Clir o'i flaen fe gurai'r ffrydlif, Curai'r clir a'r heulog ffrydlif, Curai'r llachar Forlif heli. Yno'r rhychiog hen Nocomis Nyrsiai'r baban Hiawatha, Siglai e'n ei grud palalwyf, Crud a'i wely'n frwyn a mwsog, Glymwyd â gewynnau'r Carw Tawai hi ei gwyn gan sibrwd Ust rhag ofn i'r arth dy glywed Suai ef i gwsg tan ganu Sw-li-lŵ fy nghyw dylluan Pwy yw hwn oleua'r wigwam, Gyda'i lygaid mawr, y wigwam, Sw-li-lŵ, fy nghyw dylluan JOHN RHYS MORRIS. 37, Erwgerrig, Bhosllanerchrugog, Sir Ddinbych. Mab Heddiw CHWARAEFAES, darlundy a choleg- Cyrchfannau ei enaid ynt hwy, A'i hoffedd yw smygen a menyg, A chrwydro hyd ffiniau y plwy Blagura er hynny'n ei galon Arwriaeth, Anrhydedd, a Gwaith, A bydd ef yfory'n llawenydd I dad a bryderodd mor faith. Merch Heddiw FE'I ganwyd â nerfau o haearn, Er teced ei sidan a'i sang, A gwelir hi'n llywio awyr-long Gan groesi'r wybrennau'n ddi-bang; Nid corsen yn siglo mohoni, Ond cymar â sêl tros y gwir, Mae'n heulwen i aelwyd a llwyfan, A'i Llais sydd yn Senedd y Tir. T. LLEWELYN JONES (Rhydfab). Caerdydd.