Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Antur Anrhydeddus Deulu Beca' MELYS fyddai cael sgwrs gyda'r ddylluan hen a chall honno y sonia John Drinkwater amdani yn ei gân am y dollborth, ond pe buasai'n medru siarad, cadw yn ddistaw, ddistaw, a wnelai am ddinistr y tollborth. Yn ffodus, mi glywais o fan arall am waith Beca a'i merched. Diddorol iawn oedd gwrando ar storïau am Beca yn swydd Gaerfyrddin a rhan o Ddyfed. Gwaith Beca oedd distrywio'r tollbyrth­ rhai oedd hi yn ystyriaid yn anghyfreithlon ac yn ormes ar y ffermwyr. Yn fynych gosodai'r Trustees dollbyrth ar y ffyrdd oedd yn cael eu cyweirio a'u cadw gan y plwyfi a'r trefi. Fel enghraifft o'u gwaith, gwelwn hwynt yn gosod pedair o dollbyrth o Lan- fihangel i Benblwein, tua deuddeg o filltir- oedd o bellder, ffordd oedd yn cael ei hat- gyweirio gan y plwyfolion. Adnod yn rheswm. Ar hynny, dyma luoedd yn swydd Gaer- fyrddin yn ymgynhyrfu mewn dygasedd ac yn ymfyddino liw dydd ac ar hyd y nos i ddinistrio'r tollbyrth yn ddarnau mân. Yr oedd Beca yn cael ei chalonogi gan y Beibl Ac a fendithiasant Rebeccah ac a ddywedasant wrthi, Ein chwaer wyt, bydd di fil fyrddiwn ac etifedded dy had borth ei gaseion" (Genesis xxiv, 60). Dygai hi yr adnod hon yn rheswm dros ei hamcan. Teithiai Beca a'i merched ar hyd y wlad i wneud y tollbyrth yn gydwastad â'r llawr. Ystyriai fod yn hollol anghyfiawn a gor- mesol i'r ffermwyr dalu'r tollbyrth a chy- weirio y ffyrdd. Anghyfiawn oedd talu ddwy waith Amser enbydus. Cychwynnodd ar ei gwaith mewn amser enbydus, tua 1843. Yr oedd traul y wlad- wriaeth yn fwy na'r trethi; y gweithwyr wrth y miloedd heb waith masnach ar sefyll; ystyriai'r Senedd gynyddu treth y tlodion nid oedd obaith am ddiddymiad treth yr yd; yr oedd Iwerddon mewn cynnwrf ac anesmwythder am ddiddymiad yr undeb â'r deyrnas hon. Er hynny, dinistriai'r bendefiges Beca dollbyrth ar hyd y wlad heb ofni'r awdur- dodau na llaesu ei gwroldeb o flaen gweision y deyrnas yn eu gwisgoedd cochion. Dewch i glywed hanes Beca- Ar hyd y nos Fel y bu ei helynt yma- Ar hyd y nos Daeth â hanner cant i drigain O blant Beca'n lled aflawen, Ac a wnaethant Ie anniben- Ar hyd y nos. Dechreuodd ar ei gwaith yn ardal Narberth a Sain Clêr. Ym Mawrth, 1843, cawn hanes am ddisgyblion Beca yng Nghydweli. Wedi iddynt nesáu at y tollborth, bu'r ymddiddan a ganlyn rhwng yr hen foneddiges a'i hiliog- aeth ieuanc Gan M. EIRWEN JONES Llandeilo, Caerfyrddin. Blant," meddai Beca, gan daro'i ffon ar y glwyd, mae yma rywbeth wedi'i osod i fyny, ni allaf fyned vmlaen." Pa beth yw ef, mam meddai ei merched ni ddylai ddim rwystro'ch ffordd chwi." Ni wn fy mhlant," ebe Beca, yr wyf yn hen ac ni allaf weled yn dda." A gawn ni nesáu, mam, a'i symud ef oddi ar eich ffordd ? Aroswch," meddai Beca, gan daro'r glwyd â'i ffon, y mae'n ymddangos fel rhyw glwyd fawr wedi'i gosod yn groes i'r ffordd, i atal eich mam oedranus." Mae'n rhaid ei dynnu ef i lawr, mam, canys rhaid i chwi a'ch plant gael myned drwyddo." Ymaith ag ef ebe Beca, ymaith ag ef nid oes busnes ganddo yma. Ymaith ag ef!" Gyda hynny, ymosodai'r holl blant arno, a chyn deng munud o amser drylliasant y glwyd a'r pyst, fel nad oedd dim o'u gwedd- illion yn aros. Y Trust oedd wedi gosod y tollborth, ar ffordd oedd yn cael ei chadw a'i chyweirio gan y plwyf a thref Cydweli Ffordd i'r briodas. Yn fuan wedi hyn, torrwyd dau doll- groesbren yng nghymdogaeth Porth-y-rhyd. Beca. [1 Llun yn eiddo'i Llyfiyell Cinedlaethol. Yr oedd un ohonynt yn Llanddarog a'r llall ar y ffordd i Lanarthne. Dywedwyd bod priodas drannoeth. Y dydd o'r blaen cynigiasai ffrind i'r bobl ieuainc bumswllt am i'r briodas gael myned heibio yn rhydd ond gwrthododd y tollwr heb gael degswllt. Ar hyn, dyna Beca yn anfon ei merched. Llifasant y pyst a thorri'r polion. Felly cafodd v briodas a theithwvr y ffordd yn rhydd. Ymlaen y teithiai Beca a'i merched, vn eu gwisgoedd dieithriol. Mewn ychydig amser, ehangodd maes ei llafur hyd bod ei difrodau nosawl i'w gweled o Gaerfyrddin i Abergwaun oddi yno i Aberteifi, Castell- newydd a Thregaron. Llanbedr, Llanym- ddyfri a Llandeilo, ac i'r dehau i Lanelli. Y cawrfil a'r glwyd. Yr oedd ysbryd Beca'n heintiol-hvd yn oed i anifeiliaid y Dwyrain Fel yr oedd un o weision y syrcas yn arwain cawrfil ar hyd y ffordd, cyrhaeddodd dollborth. Caeodd y porthor y glwyd yn eu herbyn, dan ddweud na chawsent fyned drwyddi heb dalu toll ragor nag am geffyl. Aeth y gwas ymlaen a gadael y cawrfil ar ei ôl ond yn dra buan, er syndod a dychryn v tollwr, wele'r cawrfil yn taro'i duryn dan y glwyd ac yrt ei thaflu oddi ar ei bachau yn ddigon pell a chanlyn ei geidwad gyda chamau cyflym. Hanesyn arall o ysbryd rhyfeddol y foneddiges Beca. Yr oedd tyddynnwr yn myned adref o'r ffair ar gefn ei gaseg, ac [Drosodd.