Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Lle Mae'r Strydoedd yn Saith Gant Oed-Parhad. Cymro yn erbyn Cymro ac nid Sais yn erbyn Cymro a geid yn ymrafaelio am feddiant o'r Castell. Beth union a ddigwyddasai sydd yn fater i hanes y genedl, ond yn y Gogledd un o'r cyfryngau effeithiol i hyn oedd tref Caernarfon. Yn ystod y ddeunawfed ganrif agorwyd pennod newydd yn ei hanes. Wrth wylio'r moduron yn cyrraedd i'r Maes ar ambell awr fe ganfyddir un rheswm am hyn; cyrhaeddant y naill yng nghwt y llall 0 bedwar cwr y tir, ac yn dangos yn eglur fod y dref yn ganolbwynt naturiol y wlad rhwng Eryri a'r môr. Dyma reswm pellach y tu allan i hanes dros fod y dref. Bywyd newydd. Hyd y ddeunawfed ganrif ni chafodd elfennau naturiol ei safle fawr o gyfle i ddatblygu, ac i raddau, tref "wneud" fu rhosydd a moelydd tlawd oedd llawer o'i chefndir. Ond pan dreiddiodd y llanw masnachol i'r gorllewin ac y sylweddolwyd y cyfoeth oedd wrth ei drws megis, a phan ddechreuodd pentrefi ddatblygu yng nghwr y chwarelau, daeth bywyd newydd i'r dref. Ymledodd yn gyflym y tu allan i'r muriau ac aeth tai yn strydoedd. Diflannodd y maes glas a'r afon a'r Uyn ymddangosodd "Pool Street," "Pool Lane" a "Bridge Street." Gwelwyd prysurdeb anarferol yn ei phorthladd a lefain helaeth o ddynion y môr a chrefftau'r môr ymhlith ei phobl. Mewn gair, crewyd tref newydd â holl rin- weddau a diffygion trefi'r chwyldro diwyd- iannol yn perthyn iddi. Y mae i'r dref newydd ei hanes arbennig ei hun, hanes y ceir ei gyffelyb mewn llawer tref arall yng Nghymru mae'n wir, ond hanes nad yw ronyn llai diddorol er hynny. Son- iwyd gynnau am yr ymdrech a wnaed i gynnwys y cynnydd hwn yn hen ffurfiau dinesig y canol oesoedd. Dyna fu, ac o bosibl y ceid gwell graen ar y dref heddiw oni bai am hyn. Hyd yn 1834, dulliau llywodraeth dyddiau Iorwerth y Cyntaf a lywiai fywyd y dref ac yng ngolau'r dulliau hyn y ceisiwyd cyfeirio'r bywyd newydd hefyd. Dengys cofnodion y Antur 'Anrhydeddus Deulu Beea — Parhad. wedi iddo gyrraedd y tollborth oedd ar ei ffordd, talodd i'r borthores y doll ofynedig am yr anifail a farchogai, a gwrthod talu am yr ebol oedd yn ei ganlyn. Y llestri tsenL Gwrthododd y borthores i'r ebol fyned trwodd a'r canlyniad fu i'r ffermwr fyned ymaith. Pan welodd y creadur diniwed ei fam wedi myned ymaith, dechreuodd ymgynddieiriogi, ac yn ei wylltineb aeth i mewn i'r ty, lle'r oedd amryw fenywod wedi ymweld â'r borthores i gael cwpanaid o de, a thaflodd y bwrdd a'r tseni bendramwnwgl. Erbyn hyn rhedodd y gwragedd bonheddig allan yn chwyrnwyllt, gan weiddi yn echrys fod y diafol yn y ty; ac wrth glywed y fath ysgrechfeydd, rhedodd degau o'r gweithwyr cyfagos i'r lle er eu hachub o grafangau'r diafol ond erbyn iddynt ddeall beth dref, sydd yng nghadwraeth ofalus clerc y cyngor, y modd y bu hyn. Yr oedd yr "aldremoniaid," chwedl William Morris, yn eithaf effro i'w buddian- nau, ac ar un cyfnod yn breuddwydio breuddwydion euraid iawn. Fe'u cawn yn 1730 yn codi toll o ddimai y llwyth ar lechi a ddygid i'r cei, a'r un flwyddyn bu ganddynt ddynion dan gyflog yn turio am lo ar diroedd y dref Ymhen ugain mlynedd rhoddant ganiatâd i Syr John Wynn, Glynllifon, grasu chwarter miliwn o frics ar Forfa Saint, neu Forfa Hallt fel y'i gelwid y pryd hynny. Methiant fu pob cynnig i greu diwydiant yn eiddo i'r dref, ac y mae'n amlwg mai araf y diflannodd yr elfen amaethyddol o'i bywyd. Cwynid yn 1770 yn erbyn gwartheg yn crwydro hyd y cei, ac yn 1775 cwynid yr un fath yn erbyn y moch a grwydrai hyd y strydoedd. Bu'r moch yn flinder am flyn- yddoedd i'r gwŷr da a chosbwyd un person mor ddiweddar â 1816 am ei esgeulustod yn hyn o beth. Y mae crwydriadau'r moch yn fwy esboniadwy efallai yng ngolau ambell gofnod arall, lle y cwynir yn erbyn y tomenydd ysbwriel a fwrid i'r ystrydoedd, yn enwedig yn Stryd Fangor. Troseddwyr erailL Ond nid anifeiliaid yn unig oedd y trosedd- wyr. Fe fynnai'r cigyddion ladd a thrin eu cigoedd yn y stryd; camymddygai'r cryddion yn y Pendist; fe fynnai pobl godi eu stondinau rywsut rywfodd dan y Porth Mawr, a'r certwyr hwythau yr un mor anufudd. Nid oedd ymarweddiad pobl ar y Sul yn gwbl a ellid ei ddymuno. Yn 1755 cwynid bod merched a bechgyn yn clertian ar yr allor yn eglwys y dref yn ystod y gwasan- aeth, a byth a beunydd dyfeisid rhyw foddion i atal yfed yn y tafamau yn ystod oriau addoli ar y Sul. O bosibl na chafwyd y gorau ar yr arfer hyd yn 1823, pan benod- wyd plismyn i gerdded y strydoedd hyd hanner nos ar y Sadwrn a'r Sul, and to see that there is no tipling in public houses during divine service." oedd y mater gwaeddasant,» rlebecca lor ever Cynhyrfodd ysbryd y borthores gymaint fel yr anfonodd yn ddiatreg am yr hedd- geidwad; ond erbyn hyn yr oedd pawb wedi dychwelyd at ei orchwylion, gan adael y borthores, druan, i alaru ar 61 ei Uestri tseni. Nid oedd dim a roddai atalfa ar weith- rediadau dinistriol Beca. Ymlaen y teithiai yn barhaus ac yn ddiflino, wrth ei gwaith o ddinistrio clwydi. Anfonodd ei mawrhydi Victoria gyhoeddiad i hysbysu fod y llywodr- aeth yn barod i roddi £ 500 o wobr i bwy bynnag a ddygai dystiolaeth i euog-brofi'r personau oedd wedi bod â llaw yn y gwaith o ddinistrio'r tollbyrth, dinistrio tai a llosgi meddiannau yng Nghymru. Er hynny, ac er bod amryw filwyr yng Nghaerfyrddin a heddgeidwaid o Gaerdydd Yn ôl ffasiwn trefi eraill, ceisiwyd goleuo'r dref. Pwrcaswyd deuddeg o lampau yn 1801, ond yn 1805 penderfynwyd am ryw reswm neu'i gilydd i beidio â goleuo'r dref ar gost y gorfforaeth. Erbyn 1828 gofynníd am brisiau goleuo pedwar ugain o lampau a phris ugain o lampau newyddion eraill. Palmantwyd rhan o'r dref mor gynnar â 1782, ac mae'n amlwg fod glanhau'r stryd- oedd yr amser honno'n cyfiawnhau talu chwe gini y flwyddyn i scavenger." Yr oedd hyn i gyd yn costio arian a stori braidd yn druenus ydyw hanes yr ymgodymu am drefn a thaclusrwydd ar bethau. Cadw- asai y dref ei gafael ar ran o'r tiroedd a roesid iddi yn nyddiau Iorwerth, ond incwm annigonol iawn oedd eu rhenti ar gyfair y trwsio di-baid ar y strydoedd newydd, y cei a'r muriau. Codwyd y rhenti fwy nag unwaith a chaewyd comin y dref yn Rhosbodmal, ond âi'r agendor rhwng yr incwm a'r gwario yn lletach o hyd. Yr oedd pethau cynddrwg erbyn 1823 fel y penodwyd pwyllgor i chwilio i bethau, ac ysywaeth, y mae mwy nag un awgrym o graft i'w ganfod yn ei adroddiad. Dechreuwyd gwerthu peth o'r tir a gwystlwyd rhan arall ohono, ac felly y diflannodd gwaddol helaeth Iorwerth. Y wasg a'r eisteddfod. Erbyn 1835 yr oedd darpariaethau Iorwerth mewn llywodraeth hefyd wedi diflannu, a boddwyd atgof yr hen dref yn eiddgarwch gwerin y dref newydd. Brith- wyd y strydoedd â siopau, a dechreuodd y prysurdeb cyson hwnnw rhwng y dref a phentrefi'r cylch sydd yn un o brif nod- weddion ei bywyd ers llawer blwyddyn bellach. Yn awgrymiadol iawn, yn y dref newydd y mae pob ysgol a chapel ymneilltuol a berthyn i Gaernarfon, a pha symbol gwell i ddangos cyswllt hanfodol y dref newydd a'r Gymru newydd. Pwy rydd inni ei hanes diweddar yn hyn o beth, hanes ei gwasg a'i chyhoeddwyr, ei chorau a'i heisteddfodau. Y gŵr a wna hynny fedr ddangos mor ffyddlon i draddodiadau gorau ein cenedl ydyw'r dref. yn lluoedd yn y pentrefi, yn arfog ac yn ddychryn i'r aflonyddwyr, ac er bod amryw yn cael eu carcharu a phenderfyniad i'w cosbi yn annhrugarog gan y gyfraith, eto yr oedd Beca yn dal heb ei dychrynu ac yn dilyn yn ddiflino ei hamcanion i ddinistrio'r hyn a ystyriai yn feichus a gormesol ar y wlad. Heddwch. Ar yr un pryd, yr oedd cyfarfodydd yn agos ym mhob rhan o'r ardal er annerch y Frenhines a hysbysu iddi y beichiau trymion yr oedd y bobl yn eu dwyn, a dymuno arni yn ostyngedig eu symud. Daeth amryw gymdogaethau lle dinistr- iwyd llawer o dollbyrth ar hyn i heddwch am fod y Trustees yn dangos parodrwydd i symud y blinderau yr achwynid o'u herwydd. Y mae'r tollbyrth wedi mynd, ond y mae llawer hen dy polyn cysurus, clyd, yn sefyll ar hyd y ffordd heddiw i'n hatgofio am weithrediadau dewr teulu enwog Beca.