Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dathlwn 800-mlwyddiant Cymro Mawr-Parhad, Y mae'r awgrym o ddau gyfansoddiad yn bur gywrain ac y mae cryn lawer i'w ddweud drosto, oherwydd dyry reswm pur sylweddol dros ysgrifennu'r llyfr. Ei brif amcan oedd cymryd diddordeb, nid yn ein chwedlau, ond yng ngwleidyddiaeth ei ddydd, gwleidyddiaeth a guddiodd ef mor ddeheuig nes dyfod o'i waith, fel y gwelsom, yn hynod boblogaidd pan oedd eto'n fyw a thrwy'r canrifoedd, dros Ewrob. Nid annaturiol i'r Histaria-llyfr mwyaf poblogaidd ei gyfnod-ddioddef peth ym- osodiad ymhlith ysgrifenwyr cyfoes. Con- demniodd William o Newbury, y mynach a'r hanesydd o swydd Efrog, Sieffre gan ddweud na allai neb ag unrhyw wybodaeth o hanes cyntefig amau o gwbl nad anwiredd bwriadol a haerllug a draethai Hyd yn oed yng Nghymru yr oedd cyd- archiagon, y Cymro-Norddman Gerallt Gymro yn cenfigennu yn angerddol wrth boblogrwydd gwaith Sieffre. Yr oedd ef yn ysgrifennwr ei hun — gwj-ddys am ei Dro drwy Gymru, ac un arall drwy Iwerddon- ac fe friwiwyd ei falchder i'r byw. Heblaw hynny, gwrthwynebai ef Sieffre ar lawer pwvnt credai ef yn amhriodas clerigwyr, ond gwrthwvnebai Sieffre hynny. Cyflwynasai Gerallt gopïau o'i weithiau i'r Pab-proffesai fod ar delerau da â'r Pab, gan ddymuno dyfod yn esgob Tý Ddewi-a dywaid wrthym fel y mwynhai'r Pab glywed darllen ei lyfrau, yn arbennig y darnau ffraeth ynddo Nid rhyfedd, felly, iddo adrodd wrthym am ryw Feilir, dewin o Gymro a drigai ger Caerlleon, gŵr oedd yn hen gydnabod ag ysbrydion aflan ac a allai eu galw, bob un wrth ei enw, a thrwy eu cymorth rag-ddweud y dyfodol. Cyfieithu a thalfyrru. Fe wyddai Mellir ar unwaith pan leferid anwiredd wrtho oherwydd fe welai'r gŵr drwg megis yn neidio ar dafod y llefarwr. Os byddai i'r ysbrydion aflan ei lethu, dodid Efengyl Ioan ar ei fynwes ac ehedent ymaith fel adar. Ond pan symudid y llyfr a rhoi Hanes y Brutaniaid gan Sieffre Arthur yn ei le, dychwelent ar unwaith yn dra niferus, gan aros yn hwy nag arfer ar ei gorff ac ar y llyfr. Eithr ni phetrusa Gerallt ddefnyddio'r llyfr pan ddêl achos Fe wnaed talfyriad o Historia Sieffre mor fuan â 11.50, gan Alfred o Beverly. Dywaid Alfred wrthym, pan ddechreuodd ar y gwaith, fod genau dynion yn llawn o chwedlau o hanes Prydain ac yr ystyrrid unrhyw un anhyddysg ynddynt fel anllythrennog Cyfieithwyd yr Historia hefyd i Ffrangeg Normanaidd gan Sieffre Gaimar yn 1154, ac fe haera ef iddo weld a defnyddio yr hen hen lyfr hefyd. Gwnaed cyfieithiad i'r un iaith y flwyddyn wedyn, gan Wace, gŵr o Jersey, ac fe'i cyflwynodd i'r Frenhines Eleanor, gwraig Harri II, noddwyr dysg ill dau. Y mae barddoniaeth Wace yn arbennig ddiddorol gan y cynnwys, yn ogystal â gwaith Sieffre lawer o ddefnydd nad oedd yn wybyddus i hwnnw. Gwyddai Wace chwedlau a gysylltasai llawer gŵr cyfarwydd eisoes ag enw Arthur-awgrym pwysig nad Sieffre oedd yr unig un a weodd chwedlau o amgylch Arthur yn y ddeuddegfed ganrif. Nid yw'r Ford Gron enwog, a gysylltwn bob amser â'r brenin Arthur a'i Farchogion, i'w chael yng ngwaith Sieffre Wace yw'r cyntaf i sôn amdani! Rywbryd rhwng 1189 a 1205 sgrifennwyd y cyfieithiad Saesneg cyntaf o'r llyfr gan Layamon, offeiriad o Arley, swydd Gaerloyw. Ceir llawer o fanylion ganddo yntau nas ceir gan Sieffre na Wace; er enghraifft, edrydd lawer wrthym am hanes a dechreuad y Ford Gron. Trigai Layamon ar ororau Lloegr a Chymru ac yn ddiau fe gorfforodd yn ei brydyddiaeth lu o chwedlau lleol yr oedd yn gyfarwydd â hwynt. Prawf hyn hefyd fod chwedlau Arthur a'i Farchogion yn adnabyddus eisoes a'i bod yn hen bryd ymddangos o'r Historia enwog unwaith yn rhagor. Nid yn unig bu'r llyfr yn foddion ysbrydoli llawer gwaith arall, fe atgyfododd hefyd chwedlau hen a rhoi bywyd newydd iddynt. Y mae rhai awdurdodau am inni gredu bod pob llên Arthuraidd â'i hanfod yn Historia Sieffre, ac oni bai ymddangos o hwn na chawsem ni ddim o'r traddodiad Arthuraidd heddiw, dim Ymherawdr mawr, dim llys brenhinol, dim marchogion teyrngar, dim marchwriaeth, oddieithr efallai olion eiddil mewn llên gwerin ac yng ngwaith ychydig feirdd. Po mwyaf a efrydwn ni ar Historia Sieffre wyneb yn wyneb â llên Arthuraidd yr Oesoedd Canol, mwyaf yn y byd y'n darbwyllir mai gormodiaith yw hvn. Stori Braw- P arhad. Ni bu raid i Prydderch aros yn hir. Toc, daeth golau i'r llofft, a gwelwyd cysgod dyn drwy'r ffenestr. Yn fuan, daeth y dyn rhwng y golau a'r ffenestr, a hawdd oedd deall ei fod am dynnu'i gadach a'i goler wrth rhyw ddodrefnyn. Daeth y cysgod yn gryfach, ac yn llai, hyd nad oedd fawr mwy na dyn naturiol, ac yr oedd yn hawdd i'w adnabod fel gwr y dafarn. Gafaelodd Capten Prydderch yn ei ddryll a chododd at ei ysgwydd, gan orffwys ei rudd ar y pren oer. Anelodd, ac yr oedd ffroen y gwn yn sad fel craig. Gwasgodd â'i law ddehau, a thaflodd y cysgod ei ddwylo i fyny,-safodd y cysgod felly am eiliad, yna syrthiodd o'r golwg. Nid oedd ond twll taclus, crwn, yng ngwydr y ffenestr yn ymddangos yn ddieithr. Prysurodd Prydderch adref, a rhoddodd y dryll, wedi'i lanhau, yn ôl yn y cwpwrdd. Yna fe'i gwnaeth ei hun yn gyfforddus wrth y tân ac felly yr oedd pan ddaeth Sam yn ei ôl, ychydig cyn hanner nos. Nos da, capten," ebe Sam, gan weiddi wrth ddringo'r grisiau. Nos da, Sam," ebe'i feistr, hun yn dawel." BORE trannoeth, yr oedd y capten wrth ei forebryd, yn darllen ei lythyrau yr un amser, pan ddaeth cnoc ar ddrws yr ystafell, a daeth Sam i mewn, gan ddweud Y mae Morgan, y plismon, yna, syr, — ac eisiau'ch gweld." 'Does dim dadl na fu'r Historia yn hynod boblogaidd-meddylier am y llu llawsgrifau ohono sydd ar gael heddiw-ac iddo ddechrau ffasiwn newydd mewn Croniclau, a elwir Brut ar ôl Brutus yr arwr chwedlonol. Mwy na hynny, fe dynnodd sylw at y talp o lên gwerin Celtaidd nas cyffyrddwyd hyd hynny, yn Iwerddon, Cymru, Cernyw a Llydaw, b'le bynnag y treiddiodd y Nordd- myn. Dyma dir toreithiog i ramantwyr y ddeuddegfed a'r drydedd ganrif ar ddeg, ac ni buont brin o fedi cynhaeaf arno. Yn Ffrainc yr oedd Mater Prydain yn wrth- drawiad hyfryd i Fater Ffrainc "-y Chansons de Geste, ynghylch Charlemagne a'i arglwyddi, a Mater Rhufain," neu lên clasurol. Gwnâi cyfriniaeth y Celt, rhyfeddod ei lên, y swyn tylwyth teg a awgrymai, gwnaent apêl angerddol. Drwy gyd-ddigwydd rhyfedd, daeth y llyfr i fri yn union pan oedd bywyd llenyddol mawr arall yn blodeuo, barddoniaeth y Trwbadwriaid. Ymunodd y ddwy ffrwd hyn yn llifeiriant mawr ac ohono y tarddodd rhamantau disglair y ddeuddegfed ganrif yn Ffrainc, gan wasgar i'r holl wledydd, fel nad oes wlad yng ngorllewin Ewrob heddiw heb ei chwedlau Arthuraidd. Y mae enw a bri Arthur yn fyw drwy'r byd gwâr o ben bwygilydd. Fel y gwelsom, yr vm yn ddyledus am hyn gan mwyaf i Historia enwog Sieffre. Heb ei waith poblogaidd ef, buasai ein chwedlau yn ddiau wedi trengi, fel y gwnaeth yr eiddo llawer cenedl arall. Ac ni chawsem heddiw gampweithiau fel Marw Arthur Malory a Trystan ac Esyllt a Peredur Wagner. "Dwed wrtho am ddod i mewn, Sam," meddai'r capten. Daeth Morgan i fewn, yn syth, yn llenwi ei ddillad yn urddasol dros ben. Bore da, Morgan," ebe'r capten yn gysurus, Be fedraf ei wneud i chwi, dywedwch ? Crafodd Morgan ei wddf, a thaclusodd ei fwstas, yna, Capten Huw Prydderch, rhaid imi eich cyhuddo o droseddu yn erbyn cyfreithiau'n gwlad. Darfu i chwi, neithiwr, yn y Bwch Yn enw'r nef, sut cawsoch chwi wybod mai my-fi a'i saethodd-o ? ebe'r capten, ei wyneb yn welw a'i anadl yn dynn. Mae yna ddigon o ddrylliau .22 Suddodd y capten yn ôl i'w gadair, a chrymodd ei gefn. brynu ugain o sigarets ar ôl wyth o'r gloch y nos, yn groes i ddefod ein llywodraeth," ebe Morgan, yn cwplau ei gyhuddiad heb godi 'i ben o'i lyfr nodiadau, heb gymryd sylw o ddiffyg parch y capten yn torri ar draws urddasol gynrychiolydd y ddeddf yn Llan-y-creigiau. Yna ed- rychodd Morgan yn ffyrnig i gyfeiriad y capten, a bu bron iddo lewygu. Capten, Capten Prydderch, be sydd ? Sam, tyrd yma ar unwaith, mae'r capten yn wael." Ond yr oedd Huw Prydderch yn garcharor i ddeddf fwy grymus na honno a gynrychiolid gan Morgan.