Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWEITHIAU'R ATHRO T. GWYNN JONES MEWN CHWE LLYFR HARDD. Cloriau Uiain graen lledr a llythyren aur, Papur gwych, 5s. y gyfrol. Gwneir cant o gopiau o bob cyfrol ar Felwm Japan, gyda chloriau Lledr brych, wedi eu harwyddo gan yr awdur, 21s. y gyfrol. MANION Manion yw teitl y gyfrol gyntaf o'r gyfres. Nid gormod- iaeth a fyddai dywedyd y ceir yn y gyfrol rai o weithiau gorau un o'r beirdd gorau a welodd ein cenedl. Mae yma glasuron na flinir arnynt.Y Brython. CYMERIADAU Ysgrifau ar wŷr amlwg Cymru-Syr J. Morris-Jones, Yr Athro David Williams, Syr Henry Jones, Mr. Richard Hughes Williams, Syr Edward Annwyl, Y Prifathro T. Francis Roberts, Y Prifathro J. H. Davies, ac Alafon. Gyda Darlun o bob un. Ar werth gan lyfrwerthwyr ym mhobman GWASG HUGHES A'I FAB Y mae'n ddiau gennyf fod y llyfr yn gaffaeliad mawr i Gymru heddiw, ac yr ŷm yn gobeithio'n hyderus y gwêl Cymru ben- baladr werth neilltuol y llyfr. Y mae ei Gymraeg yn heinyf. Y mae yma bron gant a hanner o ddarluniau diddorol, a'r llyfr drwyddo yn dangos fod argraffwyr Cymru bellach yn dod yn grefftwyr graenus a chelfyddus," meddai Mr. Timothy Lewis yn Y Ford Gron. Hughes a'i Fab, « Rhodd Werthfawr Cyhoeddwyr, Wrecsam ebër News Chronicle, am CYMRU'R OESAU CANOL Gan yr Athro ROBERT RICHARDS I'w gael gan Lyfrwerthwyr ym mhobman. CANIADAU Prif ddarnau barddoniaeth yr Athro, ac yn eu plith awdlau Ymadawiad Arthur," Gwlad y Bryniau," a Madog." Cynnwys yr un cerddi ag a gyhoeddwyd yng nghyfrol Gwasg Gregynog, gyda dwy gerdd ychwanegol-" Argoed a Dirgelwch." Cyfrol odidog ydyw hon. Y mae paradwys ym mhob tudalen y troir iddi. Ni flinir ac ni ddiflesir ar y cynnwys Cymwynas anfesuradwy â llên Cymru, ac â gwerin gwlad ydyw cyhoeddi gyfrol am bris mor afresymol o isel." Y Genedl Gymreig. I ddilyn BEIRNIADAETH A MYFYRDOD. ASTUDIAETHAU. TRAETHODYNAU A BRASLUNIAU. Dyma ddarlun meistraidd o'r Oesoedd Canol yng Nghymru ei amcan yw rhoddi darlun cyflawn a newydd o'r Oesoedd Canol i gyd fel yr oeddynt yng Nghymru Ni ellir ond ei groesawu'n gynnes, y mae yma gyfuniad o wybodaeth ddofn a helaeth o holl agweddau economeg yr Oesau Canol a'u dull o fyw, ynghyda ffordd newydd a diddorol arbennig o gyfleu'r wybodaeth honno," meddai'r Athro W. J. Gruffydd yn Y Llenor. Nid cyfnod moel, di-liw a di-weledigaeth oedd y cyfnod canol. Gwelir wrth ddarllen llyfr Mr. Richards nad yw'r lliwiau mor danbaid ag ydynt yn ein dyddiau ni, nac ychwaith mor ddethol ag oeddynt yng Ngroeg gynt, ond y mae rhywbeth cartrefol, cynnes, ynddynt, tebyg i liwiau gwledig darn o frethyn cartref. Lliw a rhamant i gyd yw bywyd y marchog, ac y mae athrylith y cyfnod i'w weld yn anad dim yn ei gestyll a'i eglwysi.