Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYFROL V. RHIF 5 Y FORD GRON GWASG Y DYWYSOGAETH, WRECSAM. Teleffân: Wrecsam 622. London Ägeney: Thanet Home, 231-2 Strand. Tanysgrinad Chwe mta, 3g. 6d. Blwyddyn, 7в. Ar Wyl Ddewi BYDD llif gwlatgarwch Cymru yn cyrraedd ei uchafbwynt ar ddwy adeg o'r flwyddyn, sef Dydd Gŵjd Dewi ac Wythnos yr Eisteddfod. Eleni, y mae'r gwlatgarwch hwn ar wyl Ddewi, mewn amryw gylchoedd, wedi cymryd arno ffurf gwasanaeth gwirfodd a gwerthfawr. Da gennym fod byd addysg wedi pennu ar y dydd i ddysgu'r plant a'r ysgolheigion am y prifardd Dafydd ap Gwilym, ac i ddathlu genedigaeth y bardd tua 600 mlynedd yn ôl. Bydd y llenorion na wnaethant hynny y llynedd yn cyplysu'r wyl â'r apêl a wneir at Gronfa Goffa Goronwy Owen. Drwy gyd-ddigwydd hapus, dyma'r amser y bydd Seneddwyr Cymru yn anfon eu dirprwyaeth at Syr John Reith. Os llwydd- ant i gael gorsaf radio gw'bl-Gymraeg drwy hynny, dyma fydd y gymwynas fwyaf a wnaethant â Chymru ers bfynyddoedd. Bydd yr Ymreolwyr yn cofio am drefniadau arbennig eu plaid hwythau at yr wyl. Dyna bum ffordd o droi ynni gwlatgarwch yn fudd gwasanaeth. Adeiliwn inni ffordd OHERWYDD gwaeledd ei ffyrdd y bu Cymru gymaint ar ôl mewn datblygu ei hadnoddau-natur, meddai Mr. Richard Davies yn ei erthygl ar ddatblygiad y banciau, yn y rhifyn hwn. Ac ar ôl yr ydym o hyd yn hyn o beth, fel nad oes ryfedd fod ein cyfoeth-cenedl islaw yr hyn allai fod. Teithier o Gaerdydd i Fangor, ac fe geir bod rhaid symud igam- ogam dros deirgwaith gymaint o dir ag a ddylid. Nid oes ffordd ganol yn rhedeg o dde i ogledd y wlad. Cymharer â hyn gyfundrefnau. ffyrdd gwychion y Cyfandir-ac yn wir Lloegr- heolydd sythion Napoleon yn Ffrainc, gwyrthiau peiriannol yr Eidal, patrymau-o- ffyrdd y Rhufeiniaid ym Mhrydain. Gallem gymryd dalen 0 lyfr gwlad fyn- yddig arall ar y Cyfandir- Y swistir-a phontio'n diffwysau a thurio i'n llechweddau fel y gwnant hwy, gan adeilio drwyddynt briffyrdd cadarn o brif ganolfannau'r wlad i'w gilydd. Yna fe edrychai'r cynnig i wneuthur ceubalfa dros afon Ddyfi, er enghraifft, yn blentynaidd inni. Dim ond pont hardd dros y forgainc a wnai ein tro. Oregon a Chymru ENGLYN poblogaidd yw hwnnw gan un o gelfyddiaid barddonol Cymru sy'n dechrau, Cymru lân, Cymru lonydd," ond nid yw'r darlun a gyfleir ganddo yn gyson â daliadau rhai o'r Cymry ar wasgar a haera fod ganddynt hawl, oherwydd mantais barnu o bell, i newid cryn lawer ar gj-flead y bardd. Gall beirniadaeth fod o les mawr weithiau. Dyna, yn ddiau, fam Mr. J. R. Jenldns, un o feibion Tal-y-bont, Ceredigion, fv yn Oregon, gorllewin Amerig, er ei 18fed blwydd, ac a ddaeth drosodd i Gymru ar ei 70 pen- blwydd, yn berchen un o'r ransiau mwyaf, wedi alltudiaeth ddi-dor 0 35 mlynedd. Meddai Y mae gennych bob hawl i orsaf radio ac i brifddinas o'r eiddoch eich hun, ond wna dadlau a ffraeo rhwng trefi ddim help i ddwyn yr un ohonynt i fod. Y mae'ch aelodau seneddol yn rhy ddof. Fe ddylen' ddeffro. Ac 'rwy'n methu'n lân deall pam na wnewch chwi weiddi o bennau'r tai y fath wlad hyfryd am wyliau yw Cymru, a dweud wrth yr Americanwyr am y golygfeydd diguro sydd gennych i'w dangos iddyn' nhw." Chwerthinllyd yw ei farn am y Bwrdd Marchnata Llaeth. Hwb i'r Deheubarth GALL awgrymiadau Arglwydd Portal yn ei adroddiad at wella'r sefyìlfa ddiwydiannol yn rhannau o'r Deheu- barth wneuthur llawer o dda os cyflawnir. Ar du'r wladwriaeth y mae'r ddyletswydd gyntaf, sef bod iddi roi cymeriadau-gwaith am gyfnod pendant o ddeng mlynedd i'r cylch, modd y gallai fod yn werth y draul i bobl eraill godi ffatrioedd yno. Sonia'r adroddiad hefyd am roi cymorth ariannol i ddiwydiannau addawol; am roi'r bobl ar y tir ac i dyfu coed, ac am waith-cyhoedd. Yn y cyfamser, y mae'r bobl yn ymgynnal gorau y medront. Buasai'n anodd cael gwyr a gwragedd, a ddioddefodd gymaint ag a wnaethant yn Ne Cymru, yn llwyddo cystal i gadw'u calon a'u hunan-barch," meddai'r adroddiad. Nid aros gartref a wna pawb yno chwaith. Ymfudodd bron ddeugain mil o bobl o siroedd Morgannwg, Caerfyrddin a Mynwy er 1931. Ond y mae'r raddfa-eni yn uchel yno- 15.7 y fil o'i gymharu â 14.4 drwy Gymru ac y mae'r raddfa-briodi yn uwch yno nag yn unman yng Nghymru, 16.1 y fil. Am Gymru i gyd, nid oedd cyfanrif y genedig- aethau ond ychydig gannoedd yn uwch na chyfanrif y marwolaethau. Codi'r Oed LLAWER o anawsterau sydd ar ffordd yr arloeswyr a fynnai godi oed gorfod plant ysgol 0 14 i 15, ac nid lleiaf ohonynt yw natur yr addysg a gyfrennir yn llawer o'r ysgolion, gyda'i oriau hir o efryd- iaethau dialw amdanynt, am wledydd pell- ennig a dirgel bynciau rhif a mesur, yn lle hyfforddiant mewn crefftau a gwyddorau gwlad ac yn y diwylliant Cymreig. Cwyna rhieni yn aml na allant hyfforddio cadw eu plant flwyddyn yn rhagor, a daw ceisiadau beunydd gerbron pwyllgorau ysgol- ion sir i ollwng disgyblion o'r ysgolion hynny wedi un, dwy, a thair blynedd o efrydu. Cofiwn nad yw'r ysgol wedi datblygu ym Mhrydain megis y datblygodd yn yr Almaen, lle y cedwir y plant hyd oedran uwch nag yn y wlad hon. Yno fe ddefnyddir yr ysgol at ddibenion gwlad o bob math, gan gynnwys ymarferiad corff o natur arbennig. Y meistr ysgol a orfu ym mrwydr Sadowa," ebe Bismarck unwaith. Hyd oni phenderfyner pa un ai diwylliant ai gwaith a ddysgir yn ystod pymthegfed blwydd yr ysgol elfennol, a chael gweledig- aeth ar rym yr orfodaeth i fynychu'r ysgol, ynghyd â chyfraniad sylweddol i ysgolion gwlad at yr ychwanegiad mewn costau, anodd gweld bai ar bwyllgorau addysg yn gwrthod y cynnig.