Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYTHYRAU SYTH O'R SWYDDFA Tywysog Cymru, Plas Iago, Llundain, S.W. Eich Uchelder BRENHINOL, —Y mae dau ddigwyddiad yn eich hanes diweddar sydd o ddiddordeb arbennig i Gymru. Yn rhestr anrhydeddau Calan ei Fawr- hydi'r Brenin. eich tad, fe'ch dyrchafwyd mewn tri maes neilltuol ac fe ystyriwyd hyn yn arwydd hapus o sylw o'n gwlad. Y mae i'ch bwriad i ymweld â Chymru ar yr 11 o Fai i ddathlu Jubilî Arian y Brenin hefyd ei arwyddocâd cysurlawn i'r genedl. Y mae'r dull selog y paratoir at yr amgylch- iad gan raglofiaid a maerod a chynghorwyr yn ddangoseg o'r modd y'i gwerthfawrogir. SYR LAWNSLOD. Y Ford Gron. Mr. R. Lloyd, Ysgrifennydd Cronfa Goronwy Owen, Tyn-y-gongl, Mon. ANNWYL MR. LLOYD,—Ac y mae eich pwyll- gor wedi casglu dros £1,100 tuag at Gronfa Goffa Goronwy Owen! Yn ateb i'ch apêl Ŵyl Ddewi diwethaf, cawsoch roddion oddi wrth ysgolion a chymdeithasau llên drwy'r wlad a chan rai o'n cydgenedl ar wasgar. Cawsoch hanner coron gan John y Gwas o ganol Ceredigion, a deg ginigan "foneddwr o Lundain a ymwelodd â Bro Goronwy yn ystod haf 1934." Y mae'r fath gefnogaeth yn anogaeth i chwi roi cychwyn buan ar adeiladu Neuadd Goffa deilwng o'r bardd. Gobeithio y bydd yr apêl a wneir gennych eleni yr un mor llwyddiannus. Ni cheir gwell gwlatgarwyr na Dewi Sant a Goronwy Owen — yn eu ffordd eu hun. SYR LAWNSLOD. Y Ford Gron. Consul Ffrainc, Casnewydd ar Wysg, Gwent. Syr — Ymhlith eich amryw orchwylion, da gennym na ddiystyrrwch achos cyfeill- garwch rhwng Cymru a'ch gwlad eich hun. Prawf o hyn yw i chwi ymgymryd, yn hollol ar eich cyfrifoldeb eich hun. i ofyn i'ch LIywodraeth gynnig gwobrau o lyfrau i'r efrydwyr mwyaf rhugl yn y Ffrangeg yn ysgolion canolradd y cylch acw. Wrth gwrs, fe dderbyniwyd y cynnig gyda pharod- rwydd. CASTELL CONWY A'R BONT TAN UF.OLAU. ry Llun gan SMAILES, Y mae'r gŵr a fedro ddwy iaith yn gwybod dwy waith gymaint a'r gŵr na fedro onid un," ebe'r ddihareb. G\vyr pobl Casnewydd hynny'n dda. Y Ford Gron. SYR LAWNSLOD. Mr. A. S. D. Smith, Chy Caradar. Perranporth, Cernyw. ANNWYL GARADAR,—Gẇr o egni rhyfeddol a gwir sêl ydych. Wedi i chwi sgrifennu'r llawlyfr gorau sydd i'w gael ar ddysgu Cymraeg i Saeson, wele lawlyfr gennych ar ddysgu iaith Cernyw. Golygwch fisolyn, Kernow, ac ar ei 16 tudalen fe geir ysgrifau gan amryw ysgrifen- wyr Cernyweg yn gwbl yn iaith y wlad. Fe'i cyhoeddir am y pris isel o bumswllt yn y flwyddyn. At hyn fe roddwch wersi Cernyweg mewn amryw fannau a thrwy'r post, ac yr ych newydd fod yn gyd-gyfrifol am eiriadur o'r iaith. Os gellwch chwi, a chwi yn Sais, wneuthur hyn dros iaith sy'n farw, ers canrifoedd, y mae'n llwybr ni yng Nghymru yn eglur. SYR LAWNSLOD. Y Ford Gron.