Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Caethwasiaeth yr 2ofed 8 Yr ym yn beichwr plant a llafur cartref. Rhaid rhoi rhagor o amser iddynt i chwilio i fydoedd llen a hanes NI byddaf byth yn cerdded i dŷ yn hwyr y dydd heddiw a chael bachgen 12 oed, neu naw oed weithiau, ymhlyg dros ei lyfrau, yn ymgodymu â thasg ddwyawr neu dair, heb ddiolch i'm tynghedfen fod gan ysgolfeistri fy amser i, er cyfynged eu cyraeddiadau addysg, un o briodoleddau'r meddwl gwir ddisgybledig a phob peth fo cywrain-sef cytbwysedd neu synnwyr cymesuredd. Aeth cwynion rhieni deallus mor gyffredin ac mor debyg i'w gilydd nes hawlio'n sylw beth bynnag. Deil rhai fod gwaith-cartref yn creu diflastod at lyfrau, yn dwyn hun gythryblus, yn gweithio'r llanciau a'r llancesi ar eu prifiant yn orgaled a diachos, ac yn cynhyrchu cenedl yn gwisgo sbectolau. Y bywyd teulu'n diodde. Y mae rhieni'r broydd yn gwybod beth y mae'r codi bore, y pryd-bwyd brysiog ganol dydd,y cyrraedd adref hwyr, a'rgwaithcartref trwm cyn amser gwely, yn ei olygu i'w plant. Y mae'r bywyd teulu yn dioddef oherwydd nad oes amser ar ei gyfair Y mae'r ysgol wedi oeri'r aelwyd. Yn Ue bod yr aelwyd yn cynhesu'r ysgol. Cyfarfûm â llawer o athrawon sy'n gofidio bod pethau fel y maent, eithr ni wyddant pa fodd arall y gellir paratoi at arholiadau. Pery trymwaith y marcio papurau i gynhyddu, gan adael pur ychydig amser at ymgyfathrach rhwng athrawon a disgyblion. Y mae pawb yn beio'r gyfundrefn heb allu, i bob golwg, ei newid ddim. Chwarae, hoffbeth plentyn. Y mae gan y plentyn hawl gyfreithlon a naturiol a chwarae. Gwir bod chwaraeon trefnedig yn cyfrif mwyfwy yn addysg ein plant. Eithr nid hawdd bob amser yw gwahaniaethu rhwng chwarae gorfod a gwaith gorfod. Chwarae rhydd; byrfyfyr, anghyfrifol, yw hoffbeth plentyn. Ymhyfryda mewn chwaraeon a ddyfeisiodd ei hun, dan ei reolaeth ei hun. Câr chwarae gan deimlo nad yw cysgod bore trannoeth yn cymylu ar ei ryddid. Y mae rhoi addysg i blant yn gelfyddyd. Gwir bod cymdeithas yn barotach i werth- fawrogi a chydnabod celfyddion a cherflun- wyr, gan anghofio eu bod hwy yn Uafurio mewn defnydd sy'n weddol ufudd yn eu dwylo, a bod y gwaith a wneir ganddynt o natur sefydlog. Lran D. T. JONES Cyýarwyddwr Addysg Sir Benfro Y mae defnyddiau'r athro yn anwadal, yn wrthryfelgar yn ffrwydrol weithiau. Ymron bob dyfais a ddefnyddia, rhaid iddo'i rhoi ar waith mewn awyrgylch o orfodaeth. Yn wir, y mae dysgu'r ieuanc, nid yn unig yn gelfyddyd, y mae'n gelfyddy·d gain. Rhaid i'r athro gadw un llygad ar y disgybl a'r llall ar y gymdeithas o bobl yr â'r disgybl iddi. Un o'i ddibenion yw datguddio gallu- oedd y plentyn a'u datblygu, ac ymhellach i ddatblygu'r galluoedd hyn yn y fath fodd ag y bônt o wasanaeth i gymdeithas. Dylai'r plentyn, erbyn y diwedd, fedru troi mewn cymdeithas fel un cydnabyddus â hi, ac nid fel dieithryn. Gofyn cymdeithas nid yn unig am aelodau fo'n ei deall ac fo'n barod i'w haddasu eu hunain ar ei chyfair, ond hefyd am rai sy â digon o hyder ganddynt i gyflwyno rhywbeth er ei lles. Dyfais i feithrin hyder. Dyna sy'n eisiau ar gymdeithas, aelodau meddylgar a allo weled rhagor rhwng pethau i aros a phethau munud awr, a allo ddarllen arwyddion yr amseroedd dynion â barn ganddynt ac eofndra i weithredu yn ôl y farn honno. Un o ddyfeisiau'r athro i feithrin hyder yn y disgybl yw, Gwaith Cartref. Wrth osod gwaith cartref, dyry'r athro ychydig gyf- arwyddiadau i'r disgybl a dywedyd wrtho, T)os, a dywed wrthyf yfory be welaist ti." Cychwyn y plentyn ar antur ddigwmnîaeth, ac y mae mwy o blant yn hoffi hyn nag a gredir yn gyffredin, Ond athro gwael yw hwnnw a enfyn ei ddisgyblion ar daith ry flith, neu a anghofia fod llawer i'w ddysgu ar y culffyrdd sy'n arwain i'r ffordd honno, ac yn y gerddi a'r perllannau o'i hamgylch. Dim ffordd freiniol. Dyma'r ddyfais sy'n rhwym o ddar- bwyllo'r plentyn yn hwyr neu yn hwyrach nad oes ffordd freiniol i ddysg, os na cham- ddefnyddir y ddyfais gymaint fel y cyll y plentyn bob blas ar deithio ar y ffordd o gwbl. Ganrif Ffordd yw hon y rhaid i'r athro deithio ar hyd-ddi yn barhaus, er mwyn iddo wybod ar ba fath siwrnai y mae'n rhoi traed y plant. Fe gaiff y gwir athro fod ei gamgymeriadau ei hun yn ymdoddi â'r eiddo'i ddisgyblion, wrth edrych dros eu gwaith Xid oes ddadlsyl- weddol dros ddilett'r gyfundrefn waith-cartref. Byddai plant ddau can mlynedd yn ôl yn byw yn agos at natur. Ymestynnai eu diwrnod o doriad gwawr hyd i fachlud haul. Fe gyfrannent yn hael tuag at allu a chvf- oeth y teulu. Eu hysgol hwy oedd bywyd, ysgol gwaith caled ond addysgiadol. Gweithient am hir oriau. Wrth helpu i gael bwyd a chysgod i'r teidu, fe dyfai ynddynt ddiddordeb angerddol yn lles y teulu. Byddent yn hela, yn pysgota, yn bugeilio'r gyrroedd, yn cael eu cyfran o lên tylwyth a chenedl eu cyfnod, ac mewn cyfathrach agos â natur fe gasglasant athroniaeth bob-dydd o fywyd. Aeth y plant i'r ffatrioedd a'r mwynfeydd gan mlynedd wedyn. Yr oedd eu cyfraniad i enillion y teulu yr un mor wir, eithr nid gwaith addysgiadol mo'u gwaith bellach. Felly fe rannwyd gwaith a bywyd yn ddau faes gwahanol. Y gaethwasiaeth newydd. Y mae'n bosibl y digwyddodd rhywbeth tebyg i waith-cartref, oedd ar un adeg yn ganlyniad naturiol i waith yn y dosbarth ac yn elfen gyfiawn ac anhepgor o addysg Gall ein bod wedi ei roi yn gyfnewid am ddull annaturiol. llesgaol, heb gyswllt â gwaith dosbarth, nad yw yn ei gyfoethogi ond yn ei dlodi. Gall ein bod wedi arwain i oriau hamdden plant, sydd ar hyn o bryd yn weddol rydd o gaethwasiaeth corff, gaethwasiaeth newydd, yn eu peryglu i flinder ymennydd a Uudded gïau Gall y daeth rhemp newydd vn Ue'r hen, sydd yr un mor siwr o greu pobl anghymwys o gorff. Gall gweithio hwyr, y cais diwydiant ei ddileu, fod wedi ymwthio i'n dull o gyfrannu dysg. Llawenydd byw. Llawer awr hjTfrvdfaith a drenliais fy hunan, â mi'n fach, gyda phleserau naturiol plentyndod. Oni ddringwn greigiau a physg- ota a theithio gyda'm cyfoedion yn yr ogofâu ar lan y môr yn fy nghartref ? Oni chyd- gyfranogais â bywyd plant fy mhentref ? Y mae'n dda gennyfimi gael fy ngeni mewn cyfnod pan oedd gan blant amser a rhyddid i fod yn blant. Yn baratoad at fywyd y bwriedir i ysgol fod. I blentyn, yn wir. bywyd yw ei hun. Gadewch inni edfryd iddo ei gyfran o lawen- ydd, neu os yw'r rhin hwnnw wedi'i yrru o'n bywyd. gadewch inni o leiaf wneuthur bywyd yn oddefol. yn ddynol.