Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Parch. W. D. Dacies, yn ymdroi gyda'r CYFEILLION Ar y Silff NID cyfeillion a ddodwyd o'r neilltu a olygir er y mae'n debyg nad amhriodol yw cymhwyso'r idiom at gyfeillion, yn ogystal â merched sy'n tynnu at ddeg ar hugain. Megis y teimlant hwy nad oes alw mawr amdanynt, mwy na llestri a osodwyd i fyny ar y silff mewn seguryd dilychwin, gwyddom oll am y cyfeillion" hynny a ddywaid Gyfaül, gyfaill," ond na ddeallant gyfrinach teyrnas cyfeillgarwch. Gosodasom hwythau ar y silff fel llestri di-fudd, a gadael y llwch i gasglu drostynt. Pwyswyd eu gwerth yn y cloriannau, a'u cael yn brin. Am gyfeillion â'u cymwynas yn fwy na'u proffes, na throir atynt im amser yn ofer cyfeillion hefyd na phetrusa dyn un amser ofyn cymorth ganddynt, canys ni rwg- nachasant erioed, na chadw'n ôl y mymryn lleiaf o'u da-am y rheiny y sonnir, a saif ddydd a nos drwy'r blynyddoedd ar y silff, yn barod i gynghori neu lonni yn ôl y galw. Cyfeillion gorau dyn yw ei lyfrau. O raid neu o gariad. Gwna pob un ohonom ei gyfeillion ei hun gwiriach yw'r gair, yr adwaenir dyn wrth ei gyfeillion, am lyfrau nag am ddynion. Canys rhaid yn aml i ddyn gymdeithasu â dynion nad oes ganddo mewn gwirionedd fawr yn gjTÎredin â hwy, onid gofynion busnes neu weddeidd-dra cymdeithasol. Goddef llu a eilw yn gyfeillion, a wna pob un ohonom. Ond ym myd llyfrau dewiswn ein cyfeillion o gariad pur adlewychant ein chwaeth a'n diddordeb gwirioneddol. Cyfaill ambell un yw ei lyfr cyfrifon neu ei lyfr banc. Try atynt ar derfyn dydd gyda'i bibell o flaen y tân, a chaiff fwynhad cywir yn eu cwmni iach. Gwyn ei fyd Carwn weld fy llyfr banc innau dipyn iachach. 0 bosibl y tynnid ef allan yn amlach wedyn- canys yn y drôr y trig ef, nid ar y silff ar egwyddor ddoeth Williams, Cudd fy meiau rhag y werin." Cofgolofnau'r anialwch. Ni wn a eUir galw llyfrau-gwaith yn gyfeill- ion bob amser. Cymdeithion, o bosibl, fyddai'r enw gorau. Buom oll yn hir gyd- deithio â gwahanol fathau o lyfrau-Euclid a Nesfield, Liddell & Scott a Lewis & Short, gramadegwyr ac athronwyr a diwinyddion hwythau. Prin y daethom yn gyfeillion, er hynny canwyd ffarwel heb bang yn y galon, a gwerthwyd hwynt am ychydig geiniogau. Os ydynt eto ar y silff, cofgolofnau o daith yr anialwch ydynt yn hytrach na chyfeillion. Diddorol ar ddechrau blwyddyn yw adolygu ein stoc o gyfeillion-ym myd dynion a llyfrau. Canys yn nifer ac ansawdd ein cyfeillion dynol dwg gorymdaith y blynyddoedd lu o gyfnewidiadau. Cerddwn lwybrau gwahanol o brofiad a diddordeb ymleda'r agendor rhyngom a hen ffrindiau clos gynt — codwn law ar ein gilydd o brydi bryd, nes i'n ffyrdd gwahanol ein dwyn o'r diwedd o olwg ein gilydd. Ffaith syml, yn hytrach nag unrhyw gondemniad ceryddol, sydd yn yr emyn cyntaf a ddysgais yn blentyn Cyfnewidiol ydyw dynion, A siomedig yw cyfeillion, Nid o fwriad y sioma ein hen gyfeillion dynol ni, ond o reidrwydd y cyfnewid a ddwg amser i'w bywyd hwy a ninnau. Purion peth wrth adrodd y pennill yw meddwl amdanom ein hunain fel bodau cyfnewidiol yn y Ue cyntaf. Os yw hen-gymdeithas yn gwanychu, a chyfeillion a fu yn ymddieithrio, nid hwy yn unig a gyfnewid; gweithia melin cyfnewidioldeb yn ein calon ninnau hefyd. Aros yn ffyddlon. Erys cyfeillion y silff yn ffyddlonach na chyfeillion dynol, am yr arosant hwy, fel "Un cyfaill" yr emynydd, "fyth yn ffyddlon," yn ddigyfnewid eu hunain. Gellwch gymhwyso'r gair at eich cyfeillion tawel ar y silff uchod-y Beibl, Shakespeare, Pantycelyn y gyfrol draethodau neu gan- iadau neu chwedlau-" yr un ddoe a heddiw." Gwell gadael allan y tragywydd i obaith crefydd yn hytrach na phrofiad llen- yddol y perthyn hwnnw. Ffordd o siarad, wedi'r cyfan, yw sôn am gân neu draethawd anfarwol." Ond gallwn ddibynnu ar gyfeillion y silff dros ddoe a heddiw y bywyd hwn o leiaf. Yn wir, y mae Shakespeare, er enghraifft, yn fwy o gyfaill heddiw nag ydoedd ddoe; ysgol- feistr, onid caeth-feistr weithiau, ydoedd ef yn nyddiau ysgol. Ni theimlem ein calon yn llosgi ynom gynt at wirionedd ei quality of mercy," a phrin oedd ein cydymdeimlad â dadl Hamlet ar werth byw dan bigiadau Ffawd. Pethau pell yn yr awyr oedd y syniadau hyn oll i brofiad mebyd ac ieuengoed-rhyw ben- tyrru geiriau tywyll, swnfawr, fel tonnau'r môr. Treiwch lyfr y Pregethwr. Erys ymchwydd y geiriau mor gyf- areddol ag o'r blaen, ond daeth ystyr iddynt hefyd erbyn heddiw. Gwyddai'r creadur rhyfeddol hwnnw o lan yr Avon bron gymaint â Duw am "gudd feddyliau calon dyn, a'i chrwydradau mynych a'i hofnau mud. Diau nad oes silff yn y wlad heb Y Llyfr." Gan nad pregeth yw hon, ni ofynnaf ddim am eich perthynas â hwnnw, ond awgrymwn un peth-os ymgasglodd y llwch drosto 0 ddiflastod at glywed darllen y Salmau a Ioan a Marc byth a beunydd yn y llan a'r capel a'r Ysgol Sul, treiwch lyfr y Pregethwr a'r Diarhebion ambell gyda'r-nos. Creaduriaid craff a rhyfeddol o blaen oedd y rheiny hefyd o lannau Iorddonen a'r Neil; braidd yn ddigalon ar brydiau, fel pawb ohonom o hyd, ond cliriach eu gweled- igaeth na ni yn yr oes olau hon, ac mor ddiragrith â phlant. Cyf eillion erailL Y mae Uawer o hwyl i'w gael yn eu cwmni, er mai dynion sanctaidd oeddynt- tybiaf nad oedd dynion sanctaidd gynt mor annwyl ag yr ymddengys rhai ohonynt heddiw; ioculatores Dei," yr hyn o'i gyfieithu yw, dynion digri Duw," llwydd- ent i gario baich duwioldeb heb goUi'r gole o'u Uygaid na'r cyffyrddiad cyffredin, cynnes, o'u dwylo. Gwnewch gyfeillion â hwynt: canys erys doethineb hithau, a lifai ar ben yr heol i alw ar feibion dynion ddwy fil a hanner o flynyddoedd yn ôl, yr un heddiw â ddoe. Pwy yw'r cyfeillion eraill ar eich silff chwi ? Edrychwch drostynt ar ddechrau blwyddyn. Diau y crwydrodd rhai ohonynt-i silffoedd pobl eraill, gwŷr a gwragedd uniawn a gasâ redeg i ddyled siopwr, ond a geidw lyfrau benthyg am flynyddoedd neu am byth. Gelwch hwy'n ôl­-" adre, adre Nid hoff gan lyfrau chwaith fylchau yn eu rhengau. Ond pwy sydd uchod ? Y cyf eillion barddoL 0 farddoniaeth y Cymro. Dacw Dafydd ap Gwilym, bron mor Uychlyd â'r Beibl Gwynn Jones, mewn porffor a lliain main (fe wnewch arian ar y rhain ryw ddydd a ddaw !) Williams Parry a Parry-Williams a W. J. Gruffydd eraill hefyd sydd gyda ni hyd y dydd hwn," yn yr Awdlau Cadeir- iol Detholedig" a "Thelyn y Dydd" a chasgliadau eraill. Aml a gwerthfawr yw'r cyfeillion barddol, yn wir; ac i bob un y mae ei gyfaill gorau ei hun. Casgliadau o draethodau hefyd, nid ychydig ond anos, onid e, yw gwneud cyf- eillion o draethodau ? Ni wn yn iawn pam, onid am eu bod yn rhy smart a holl- wybodol a di-feth. Nofelau? Y mae Daniel Owen braidd dan lwch hefyd ni ddylai ef fod felly, canys creadur (ymyl y ddalen, creadigaeth) fawr ydoedd yntau-a chreawdwr mawr. O'r Saeson, pwy sy'n werth eu prynu a'u cadw ar y süff ? John Buchan, Mason, Priestley, Bernard Shaw ? Os mynnwch ddarllen er mwyn dysgu pa fodd i ysgrifennu. awgrymaf un enw--fy nghyfaill gorau i o'r moderniaid- C. E. Montague. Nos da, resi amryliw. Y nofel ddetectif? Na, 'does yr un ar y silff; nid cyfeillion mohonynt hwy, namyn dieithriaid a phererinion dros nos o'r Uyfrgell gyhoedd Yn wir, tybed na roddwn ormod o'n hamser i'r pererinion di-faeth, di-enaid (1 dudalen 101.)