Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Margaret Ellis, Bletchley, Bucks, yn myfyrio am ddydd GWYL DDEWI— a Bwyd DYDD GWYL DEWI, a minnau ymhell o'm gwlad. A oes unlle, tybed, mor bell o Gymru â chanolbarth Lloegr- yn enwedig ar ddydd ein Sant ? Eisteddaf wrth y tân â gwisg fy ngwlad amdanaf, a'm hystafell wedi'i hardduno â Chennin Pedr. Ni allaf, ar ben fy hun mewn gwlad estron, wneud rhagor i gadw'r wyl. Nid oes, am a wn i, Gymry yn byw yn agos imi. Gwrandewais ar y darllediad, gyda di- fyrrwch a balchder yn yr ymwybod fy mod yn perthyn i'r fath genedl. Cenedl â'i dechreuad yn niwl bore gwareiddiad, a chenedl sydd eto i gymryd ei Ue fwyfwy yng ngorymdaith y byd tua thangnefedd, iechyd a chynghanedd. Y mae ar ein gwlad heddiw eisiau dynion a merched wedi eu llenwi ag ysbrydoliaeth Dewi Sant. Y mae prydferthwch a syml- rwydd ei fywyd yn llewychu hyd heddiw. I ni y mae'r cyfle a'r fraint o gyflawni ei ddelfrydau a'i freuddwydion. A GAWN ni heddiw, fel cenedl, ar ddydd ei ŵyl, ail ddechrau mewn difri wneuthur ein rhan — er pa mor fach­i godi'r hen wlad yn ei hôl ? Daw y gair gwyl â'r syniad o wledd, ym- borth a bwyd; i'm meddwl. Ai tybed a ydym wedi'n caethiwo gan syniadau y Sais am fwyd ? Clywsom sôn lawer gwaith am ymborth syml ein cyndadau, — Uaeth, ym- enyn, ffrwythau, Uysiau, bara haidd a cheirch, wyau, mêl, ac ond ychydig o gig. Magwyd yng Nghymru yr adeg honno ddynion a merched glân yr olwg a chryf eu cyrff. Y mae'n wir bod y ddarfodedigaeth yn y wlad,-ond gwyddom mai un achos am hynny yw bod aer pur ein gwlad mor hawdd i'w anadlu, ac o'r herwydd y mae gwrthlain yr ysgyfaint yn deneuach ac yn fwy main. Achosai ysgyfaint ddiog ddarfodedig- aeth. Anedlwch yn ddwfn, ddwfn, aer pur Cymru. Ond i ddychwelyd at y bwyd. Cyfeillion ar y Süff-Parhad. hyn, yn Ue troi at ein cyfeillion ar y silff gartre' ? Gresyn yw anwybyddu cyfeillion i golli amser gyda thramp. Edrychwch arnynt yn eu rhesi amryliw cyn troi'r gole allan. Chwychwi yw fy nghyfeillion, a pha beth bynnag a ddaw o'r dydd yfory, pa siom neu wg bynnag a'm cyferfydd, byddwch chwi yn eich lle fel arfer, yn barod i weini i'm hwyl, chwerthin neu wylo, bwrw'r ffrwyn ar war anturiaeth bell, neu blymio profiadau dynion cymysg a chyffredin fel fy hun. Ni ddaeth erioed ddim byd rhyngom, ac ni ffraewn ni yfory na thrennydd na thradwy. Erys ein cyfeill- garwch hyd onid oero'r llaw a gorfod eich gollwng. Nos da, wyr mawr a chyfeillion cywir. GWYDDOM mai allan o fil o wahanol fwydydd a werthir, hanner cant yn unig sydd yn bur i fwyta. Cofiaf gymaint y'm siomwyd ar un adeg. Cefais wadd i swper i ffermdy, â'i berchennog yn gyfoethog iawn. Fe'm derbyniwyd yn groesawgar. Ar y bwrdd oedd lliain main, llestri tlws a thenau. hefyd llestri arian­ ond y bwyd Eog tyniau, ffrwythau tyniau, bara gwyn, cwstard wedi'i wneud o bowdr. cacen iâ wedi'i gwneud gan ŵr enwog yn ei grefft, jam wedi'i wneud gan ŵr enwog arall. Y llaeth a'r ymenyn oedd unig gynnyrch y fferm. Peth cyffelyb, y mae'n debyg, a welir mewn mannau eraill,-ond nid ym mhob- man. Cawsai gwraig y fferm fraw pe dywed- aswn wrthi y buasai bara ceirch, ymenyn a gwydraid o lefrith wedi rhoi llawer mwy o bleser i mi, ac yn llawer fwy iachus. Methais gael, hyd yn hyn, pan deithiaf drwy Gymru yn yr haf, beth a alwaf yn wir fwyd Cymru. Y mae gan y Sais air fod y galw yn creu'r cyflenwad. Beth fu ein galw ni fel cenedl ? Ofnaf nad am fwyd iachus, syml ein cyndadau. A 'toes ryfedd ein bod, er yn byw yn hwy, efallai, yn llawer mwy eiddil. Ymgyrhaeddwn eto i fod yn Gewri Cymru, yn ddynion a merched cryf a hardd. GWELAF mewn breuddwyd Gymru heb yr un di-waith." Adnoddau ein gwlad yn cael eu llawn ddefnyddio. Rhai yn cynhyrchu mêl ar lethrau ein mynyddoedd­ a pha fan well na grug y mynydd i fagu gwenyn ? Eraill yn tyfu ffrwythau, llysiau. a blodau (y mae ar ddyn eisiau ymborth i'w ysbryd hefyd). Diddordeb eraill fydd cadw ieir a gwyddau eraill yn gwneud caws. Yma ac acw rai yn gwneud tè; — carwn ddweud gair yn garedig wrth y rhai hyn ymwrolwch yn y dyfodol i wneud Real Welsh Tea "-slapan, teisen gri, ac felly ymlaen,-gwnewch y tê yn fyth- gofiadwy i ddieithriaid a ymwêl â Chymru, ac yn fuan bydd maint eich cyfoeth yn ddihareb yn y fro. Gofynnir, y mae'n debyg, pa gysylltiad sydd rhwng Dewi Sant a'n bwyd ni heddiw. Hyn. Y mae'n Uawer haws i ysbryd dewr, ymwrolgar, gweithgar, ddwyn ei ddyheadau i ben tra fo'n trigo mewn corff cryf ac iach. Bwyd syml sydd yn dyfod â hyn yn ffaith. Dydd Gŵyl Dewi--diwrnod i wneuthur penderfyniad o newydd i ymgyrraedd at nod bywyd ein Sant, sef gwasanaethu Cymru, a hefyd i fyw ar ymborth gwlad a ddylai ddylifo â Uaeth a mêl."