Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Harddwch-Natur Bro Dewi Sant Morloi llwydion yn chwarae. DYWEDIR i Fyrddin broffwydo dyfod- iad Dewi Sant drwy ddweud, Bydd i Fynyw wisgo mantell Caerleon, a bydd i'r pregethwr o Iwerddon fynd yn fud ar eni'r baban." Adroddir yn y Traddodiad y bu i Badrig Sant fod yn fudan dros amser pan anwyd person o'r fath fri â Dewi Sant. A dywedir pan grewyd Dewi Sant yn Esgob De Cymru yn y Synod yn Llanddewibrefi, iddo symud canolfan yr esgobaeth o Gaerleon i Fynyw, fel y tybir am ei serch at fan ei eni. Ond gadawn lonydd i'r traddodiad, ac awn i mewn i ddinas gywrain hynafol sydd yn dwyn enw'r Nawdd Sant, yn y gred fod gan yr hen draddodiadau eu gwirionedd. Ychydig wahaniaeth sydd yn harddwch y môr. ac urddas y tiroedd cyfagos i'r hyn oeddynt yn y dyddiau pan gerddai'r Sant y wlad i'w deithiau cenhadol. Adeilad urddasol heddiw. Yn lle'r mynachdy syml oedd yn Nyffryn y Rhos. fel y'i gelwid, y mae heddiw adeilad urddasol nid oes nemor o'r muriau a a wnaed cjti y ddeuddegfed ganrif i'w gweld, ond mae yn aros y corff. rhannau o'r tŵr, a thj'r offeiriad, a adeiladwyd cj-n 1198 gan yr Esgob Peter De Leia, wedi eu cadw mewn cyflwr da. Mewn amser ychwanegwyd at yr adeilad mewn gwahanol gyfeiriadau gan wahanol esgobion fel erbyn heddiw y mae yno Eglwys Gadeiriol sydd, er yn syml. er hynny yn gadarn a mawreddog. ac yn gweddu'n wych i'r fro arw o'i hamgylch. Mewn arch y tu ôl i'r allor uchel gorwedd esgyrn y Sant mewn llestr crwn, ac yn agos y mae carreg yr Allor, â phum croes wedi eu torri iddi, a gredir sy'n dyddio er adeg Dewi Sant ei hun. Cerrig Ogam a chroesau. Y mae'r wlad yn frith o gerrig Ogam a chroesau arnynt, ac y mae llawer wedi eu cludo i'r eglwys i'w cadw. Ar y Pentir gwyllt a elwir yn Benmaen Dewi, y mae i'w gweled olion cutiau cerrig crwn, ac yn ymyl, ar waelod Garn lledi. y mae cromlech ddiddorol. Ymhellach i'r de, y mae gwely eang o dywod melyn. Oddi ar y draethell hon y bu Gan Aubrey H. Jenkins Ysgrifennydd Cymdeithas Naturwyr, Caerdydd Haig o wylan-wyddau. i lawer o wyr enwog hwylio i'r Iwerddon, a dywedir i frenhinoedd lanio yma fwy nag unwaith. Gorfyddid llawer llong fregus, a hwyliai'n ôl ac ymlaen dros fôr Iwerddon, ac a yrrid wrth drugaredd y gwynt a'r llanw i lanio ar arfordir Dewi Sant, ac i hynny yn ddiamau y priodolir olion capelau bychain yn y Traeth Gwyn, Ffynnon Non, a lleoedd eraill, sef mân ganghennau o'r fynachlog, lle'r âi llongwyr i roddi eu hoffrwm o ddiolch am waredigaeth, i ofyn am fendith ar eu hantur- iaethau newydd, ac yn aml i adael offrymau adduned a chwyddai'r swm yng Nghoffrau'r Fynachlog. Cip ar y Eryr Melyn. Y mae glannau'r môr yn hynod beryglus, ac y mae'r mân ynysoedd a olchir gan for- ynnau Iwerydd wedi bod yn gyfrifol am lawer llongddrylliad ac y mae eto'n para yn berygl i fordwyaeth. Ar un o'r ynysoedd hyn, sef ynys Dewi, y gwelir orau fywyd- natur gwyllt y cylch. Gwelir yma lu mawr o guUlemots," gweilch-y-penwaig, mul- frain, gwylain-penwaig, palod, adar-llym- eirch gwelais hefyd adar mwy anghyffredin, yn cynnwys cip yn awr ac eilwaith ar yr Eryr Melyn, oedd yn cartrefu yno hyd nes ei ddinistrio yn ddiweddar. Morloi'r ogofeydd. Nytha bod-y-gwerni mewn cilfachau am- hosibl myned atynt ar y clogwyni, a gellir gwylio'r cywion yn y nythod, p'u ssfn yn agored yn disgwyl rhieni gyda thamaid blasus o wningen. Rhidyllir yr ynys â nifer o ogofeydd culion, ac i enau'r rhain y rhua'r môr yn y stormydd mynych a ysguba'r ynysoedd digysgod hyn. Er hynny, or ddyddiau tawel, gellir rhwyfo cwch bychan ymhell i mewn i lawer o'r ogofeydd hyn, a gellir canfod yn y gwyll bâr o lygaid yn serennu, i ddweud wrthych Bod-y-gwerni ifanc ar ei nyth. fod morlo yn gorwedd i orffwys ym mhen draw yr ogof, neu ar ddarn o graig sydd hanner allan o'r dwr. Y rhywogaeth sy'n gynhennid i'r cylch yw'r morlo llwyd, ei hyd o bump i chwe troedfedd, a'i flew yn llwyd tywyll brych. Magu'r ieuanc. Lawer blwyddyn yn ôl fe leddid y morloi hyn, er mwyn tynnu'r olew o'r ysgerbwd, a'i ddefnyddio yn olau mewn lampau cyntefig, a defnyddid y braster i iro llawer olwyn trol vn y wlad. Yn niwedd yr haf, os disgynnir i lawr yr ochr-orllewin i glogwyn i Ynys Dewi, ac ym- lwybro yn ddistaw i'r agenau ar lan y môr, gellir gweled golygfa swynol-y morloi ieuanc yn cael eu magu gan y fam. Gwisgir yr ieuanc mewn blew lliw hufen gwlanog, a newidia'n ddiweddarach am un 0 liw tywyllach. Ni all yr ieuanc nofio hyd nes y dysgir gan y rhieni, drwy eu gwthio o'u hanfodd dros y dorlan i'r dyfnder, ac weithiau achub eu bywyd drwy eu cynnal rhag boddi. Ynys y gwylanwyddau. Ar ynys fechan, ryw ddeuddeng milltir o ynys Dewi i'r de-orllewin, gwelir haid fawr o wylanwyddau, sydd yn ychwanegu yn eu rhif bob blwyddyn Y mae'r adar hyn oddeutu maint gŵydd, yn cymryd pedair blynedd i fynd i'w llawn faint. Plu gwlanog lliw hufen sydd gan- ddynt yn ieuanc, a dry yn llwyd smotiog, ac yn olaf yn wyn, gyda lliw hufen llwyd am y gwddf a'r pen, a blaen yr adain yn ddu. Ymsudda'r cdar hyn oddi ar ochr y clogwyn gyda'u hadenydd ynghau, fel mellten i'r eigion, i fachu pennog neu fachrell. Rhannau rhyfeddaf yr aderyn ydyw'r ffroenau caead, bychander y tafod, a'r dull o anadlu, a'r awyr-gelloedd sydd o gylch y corff ynghyswllt â'r ysgyfaint, y gellir eu llanw a'u gwagu fel y dewisir. Tebyg y bydd hyn yn torri grym y naid i'r môr. Y mae'r fro ogoneddus, gyforiog o wyllt- ineb natur, heb ei hemharu eto gan arferion y dyddiau hyn, a gweddïwn am barhâd o'r waredigaeth i fam-wlad ein Nawddscnt.