Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ymuned yr Eisteddfod a'r CEIR yn awr, yn ôl fy marn i, gyfle rhagorol i uno Gymdeithas yr Eisteddfod a'r Orsedd. Beth yw natur y cysylltiad sydd rhwng y ddwy ? Fe wyr y cyfarwydd fod yr Eistedd- fod yn symud o dre i dre y naill flwyddyn ar ôl y llall, yn y gogledd a'r de bob yn ail dro, a bod pwyllgor lleol yn gofalu drosti yn y dre lIe y digwydd fod y flwyddyn honno. Nid ydyw'r pwyllgor lleol yn gorff hollol annibynnol, ac fe saif ochr yn ochr ag ef, ddau awdurdod arall, sef Cymdeithas yr Eisteddfod, a'r Orsedd. Peth am dymor yn unig, ac yn cynrychioli un ardal arbennig ydyw'r pwyllgor lleol, ond ffurfia'r ddau awdurdod arall elfen ganolog a pharchus sy'n clymu'r naill Eisteddfod wrth y llall ac yn rhoddi math ar unoliaeth iddynt fel sefydliad cenedlaethol. Pwy sy'n penderfynu. I ddechrau, y nhw sy'n penderfynu ym mha le y mae pob Eisteddfod i fod, a gwneir hynny mewn cyfarfod unedig o'r ddwy gymdeithas, ddwy flynedd ymlaen llaw, yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Dyma'n ddi- ddadl ydyw'r cynhulliad mwyaf bywiog a hwyliog a geir yn ystod yr wythnos, pawb wrth eu bodd yn gwrando ar y dirprwy- aethau, a gynrychiola'r trefi sy'n gofyn am yr Eisteddfod, yn canu clodydd eu tref hwy, ac weithiau yn gwawdio ac yn dilorni hon- iadau'r trefi eraill. Wedi i'r achos gael ei benderfynu gan bleidleisiau'r ddwy gymdeithas, ymwahana'r cynhulliad hyd y flwyddyn nesaf, ond pery'r ddwy gymdeithas i ddylanwadu'n sylweddol ar yr Eisteddfod, bob un yn ei ffordd arbennig ei hun. Yn y fantoL Y peth nesaf, wedi i fater y lle gael ei benderfynu, fydd penodi'r Pwyllgor Lleol, a gwneir hyn gan y dre sydd wedi cael yr Eisteddfod, ac arno ef y gosodir y gorchwyl o baratoi rhaglen ar ei chyfair. Ond er mwyn diogelu ei safon lenyddol a'i chymeriad cenedlaethol, rhaid cyflwyno'r rhaglen i'r Orsedd a derbyn ei chymeradwyaeth cyn y gellir ei hyhoeddi'n swyddogol. Nid peth i'w gymryd yn ysgafn a diofal ydyw gosod yn y fantol raglen wedi'i chyf- ansoddi gan bwyllgor cyfrifol ac athrylithgar, ac er mwyn i'r gwaith gael ei gyflawni'n ystyriol a thrwyadl, perthyn i'r Orsedd ddau Fwrdd, sef y Bwrdd Llên a'r Bwrdd Cerdd, ac iddynt hwy yr ymddiriedir y gorchwyl pwysig hwn. Gosodir rhestr y testunau ar Farddoniaeth a Rhyddiaith o flaen y Bwrdd Llên, ac â'r Gerddoriaeth o flaen y Bwrdd Cerdd, ac archwilir pob testun gyda'r manyldra mwyaf. Awgrymir gwelliannau yma ac acw, ond yn ddigon cynnil, ac nid ymyrrir â'r rhaglen lIe na bo angen am hynny, a phur anaml y cyfyd unrhyw ymrafael â'r Pwyllgor Lleol, yr hyn sy'n profi rhesymoldeb y byrddau. I meddai'r Prifathro Dr. Maurice Jones Gorchwyl arall sydd gan y byrddau ydyw ystyriaid rhestr y beirniaid a phenderfynu eu haddasrwydd i'w gwaith, ac weithiau, er nad yn aml, cyfyd angen am awgrym neu ddau yma hefyd. Dylid talu teyrnged i'r Pwyllgorau Lleol am eu parodrwydd i dderbyn yr awgrymiadau, ac am eu sirioldeb wrth wneuthur hynny, ac am eu cydnabydd- iaeth mai amcan y byrddau ydyw eu cynorth- wyo ac nid arglwyddiaethu arnynt. Nid oes angen imi ymhelaethu ar weithrediadau agored ac amlwg yr Orsedd mewn cysylltiad â'r Eisteddfod, megis y Cyhoeddi" undydd a blwyddyn cyn ei chynnal, y cynulliadau cynnar yn y Cylch, a'r areithiau oddi ar y Maen Llog, y Coroni a'r Cadeirio, y cwbl ohonynt yn denu'r miloedd ac yn ffurfio rhai o brif atyniadau wythnos yr Eisteddfod. Cysylltiad agos. Credaf fy mod wedi dweud digon erbyn hyn i ddangos bod cysylltiad agos a hanfodol rhwng y ddau sefydliad, ac mai anodd ydyw synied am y naill ar wahan i'r llall. Ped ysgerid yr Orsedd oddi wrth yr Eisteddfod, collai'r Eisteddfod nid yn unig un o'i phrif atyniadau, ond un o'i cholofnau hefyd, a choUai'r Orsedd sylfaen ei bod. Trychineb anrhaethol i'r naill a'r llall fyddai torri priodas mor berffaith ac mor hapus. Wedi i'r Eisteddfod fyned heibio, y pwnc sy'n achosi mwyaf o bryder ym mynwesau'r rhai sy'n gyfrifol amdani ydyw, pa faint o elw ariannol a ddeillia ohoni, a dyma Ue y daw Cymdeithas yr Eisteddfod a'r Orsedd i Orsedd sylw eto, oherwydd yr amod bod hanner yr elw a wneir i'w rannu rhwng y ddwy, Bu amser pan gafwyd Eisteddfodau hynod lwyddiannus o ran arian, yn enwedig yn y de, pan dderbyniwyd symiau gwir sylweddol gan y ddwy gymdeithas. Ond ymddengys bod cyfnod yr elw mawr wedi myned heibio, ac anaml y ceir Eisteddfod yn awr nad ydyw ar ei gorau'n ceisio talu'i ffordd a gorffen ei gyrfa yn ddiddyled. Y canlyniad yw na dderbyniodd y Gym- deithas na'r Orsedd ddim gwerth sôn amdano oddi wrth unrhyw Eisteddfod yn ddiweddar. a pheth difrifol yw hynny i'r Orsedd o leiaf, am ei bod hi'n dibynnu llawer iawn ar yr Eisteddfod am ei chynhaliaeth, g&n nad yw cyfraniadau ei haelodau'n ddigon i dalu'r costau trymion sy'n disgyn arni. Credaf felly y bydd yn rhaid cael rhyw gynllun newydd cj'n bo hir er mwyn diogelu ei bod, ac nad doeth na theg yw ei gadael fel y gwneir yn awr at drugaredd ffawd noeth. Y newid. Ond efallai y bvdd rhywun yn holi erbyn hyn pa angen sydd am ddau awdurdod, ar wahân i'r Pwyllgor Lleol, i reoli'r Eisteddfod, pan wnai un y tro yn gampus. Rhaid cofio bod v ddwy Gymdeithas wedi bodoli ochr yn ochr am dros hanner canrif ac wedi cyd- weithio â'i gilydd yn weddol hwylus ar hyd y cyfnod hwn, ac nad doeth yw ymyrryd rhwng hen gyfeillion Ond bu newid ar v sefyllfa yn ddiweddar drwy farw fy hen gyfaill annwyl, Syr Vincent Evans. a fagwyd fel minnau ar fryniau Trawsfynj'dd. Syr Vincent oedd Cym- deithas yr Eisteddfod. fel v clvwais ef yn datgan íawer tro, er bod yn perthyn iddi swyddogion parchus eraill a rhyw nifer o aelodau, ar wahân i'r Gorseddogion sydd yn ôl cyfansoddiad y Gymdeithas yn aelodau ohoni hithau hefyd, ac ofnir na phery rhyw lawer o fywyd nac egni ynddi wedi ei ymadawiad ef. Un corff canolog. Y mae aelodau'r Orsedd yn perthyn iddi eisoes. Gellid felly greu un corff canolog, eang, a chadarn. a gosod rheolaeth barhaus ar yr Eisteddfod vn ei ddwylo. Byddai hyn yn gaffaeliad mawr i bob Pwyllgor Lleol, gan fod ymwneud ag un awdurdod yn Uawer mwy hwylus na gorfod ymgynghori â dau a byddai cael un corff eang yn cynrychioli bron bob adran ym mywyd diwylliadol Cymru yn gjfnerthiant sylweddol i'r Eisteddfod. Gellid ehangu'r corff awdurdodol ym- hellach, os mynner, trwy ychwanegu ato Gymry blaenllaw ac athrylithgar nad ydynt yn perthyn i'r Gymdeithas na'r Orsedd, a thrwy hynny greu Bwrdd Eisteddfodol a fydd mor eang â'n gwlad o ben bwygilydd. [Gyda ehydsyniad y H.B.C.]