Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Menywod Gyp/atgar Abergwaun CODODD y syniad o gael Eisteddfod Genedlaethol 1936 i Abergwaun yn sydyn ac annisgwyliadwy. Rhyw hogyn drwg yn cynnau matsien, a'r mynydd yn mynd ar dân. A llosgi Mal goddaith yn ymdaith nos y mae e o hyd. Dyma'r tro cyntaf i'r Eisteddfod Genedl- aethol ddyfod i Sir Benfro. Syn yw hyn hefyd, o gofio i Ddyfed, yng nghwrs y canrif- oedd, roddi i Gymru rai o'i dynion mwyaf oll, yn cynnwys Dewi, ei nawdd sant; Hywel Dda, deddfroddwr pennaf y Canol Oesoedd Gerallt Gymro, ysgrifennwr diddanaf y cyfnod hwnnw, a'r cenedlaetholwr mwyaf hyd heddiw yn hanes yr Eglwys yng Nghymru yn ogystal â Mr. Lloyd George yn ein dyddiau ni. Gwlad y Mabinogion. Magodd y sir wŷr mawr eraill, ond mwy cymesur â'r werin o dro i dro gwŷr megis George Owen a Fenton y ddau hanesydd; Robert Recorde, y mathemategwr Gomer, y diwygiwr cymdeithasol; Thomas Richards, y pregethwr, a Dyfed y bardd. Dyma hefyd wlad hud a lledrith y Mab- inogion. Yma y gwelodd Pwyll ei Riannon, ac yng Nglyn Cuch, yn ieuenctid y dydd," y daeth efe i ellwng ei gwn dan y coed Ac o'r a welsei ef o helgwn y byd ny welsei cwn unlliw ac wynt Ac fel y llathrei wynned y cwn y llathrei coched y clusteu. Nid yw'r cyfaredd yna ar air ac ar liw eto wedi darfod o Ddyfed. Y peth sydd wedi darfod yma i fesur ydyw'r balchter ynddo. A rhan o waith yr Eisteddfod fydd adferyd y balchter hwn. Ynteu, ofer ei dyfod i'n plith. Nid Ue cwbl ddi-ddigwyddiad yn hanes Cymru fu Abergwaun ei hun, ychwaith. Gerllaw, ym mrwydr Pwll Gwdig (1078), ac ym mrwydr Mynydd Carn (1081), o fewn tair milltir i'r Ue yn ôl yr awdurdodau uchaf, bu'r Norman a'r Cymro yn fore yn mesur cledd- yfau â'i gilydd. Ac ornest rhwng y gwir Gymro a'r estron fu hanes y Не o hynny hyd heddiw. Yma eto, ryw saith canrif yn ddiweddarach sef yn 1797, y glaniodd y Ffrancod. Y menywod yn eu siolau cochion, dan arwein- iad Jemima Nicholas, a achubodd anrhydedd y lIe yn nydd y prawf hwnnw. A synnwn i fawr, ychwaith, er nad oes iddynt le rhy amlwg ar y pwyllgorau, nad hwy fydd piau rhan helaethaf y clod am lwyddiant Eisteddfod 1936. Rhai ofnadwy yw'r menywod wedi iddynt unwaith ddechrau ar rywbeth. Ond am gestyll Ond gwlad y cestyll, yn anad dim, yw Dyfed. Clywais ddweud bod mwy o gestyll yn Sir Benfro ei hun nag sydd yn hanner dwsin o siroedd mwyaf Lloegr gyda'i gilydd. Yma y mae Castell Penfro, íle y ganed Harri'r VIII y cyntaf o'r Tuduriaid, a Chastell Maenor Bŷr, Ue y maged Gerallt Gymro cestyll Llacharn, Hwlffordd, Llawhaden, Trefdraeth, Cilgeran. Codwyd pob un o'r hen gestyll hyn i ladd ysbryd y rhai a fyn gadw Dyfed a Chymru yn Gymraeg heddiw. Creithiau ysbardunau dur y Norman ydynt bob un. Oni ddywedir wrthym ymhellach gan y Cymro eiddgar Tomos ap Titus (brawd yr ysgolhaig nodedig y Parch. A. W. Wade- Evans) a chan awdurdodau eraiU, mai ar y gwastatir uchel ar fynydd Llanllawer, y tu ôl i Abergwaun, y cafwyd y meini patriarch- aidd hynny sy'n ffurfro'r cylch rhyfedd yn Stonehenge ? Y prawf sicraf o hyn yw'r tystion mud Moel Cwm Cerwyn a Moel Eryr. Canys y mae'n debyg y profir gan ddaearegwyr nad Trefi Cymru V I Gan D. J. Williams oes carreg o'r un natur â meini anferth Stonehenge i'w chael yn unman yn Ynys Brydain ond ym mynyddoedd y Preseli sydd â'u bannau yn gwylio Bae Abergwaun. Y mae Pwyllgor yr Orsedd yn Abergwaun heddiw mewn penbleth ynghylch y Ue y ceir y meini priodol i'w gosod ynghylch cyfrin y maen llog. Awgrymir yma'n gynnil iddynt fynnu ein heiddo yn ôl o wastatir Salsbri. Nid lladrad chwaith, mi wn yn dda, Lladrata ar ladratwr, meddai'r hen bennill. Os medrodd ein hynafiaid dair mil neu fwy o flynyddoedd yn ôl'gludo'r meini yna o'r Preseli i bellterau deheubarth Lloegr at gynnal eisteddfod neu rywbeth o'r fath, yn sicr ni ddylai'r gwaith o'u dwyn yn ôl fod ond rhyw orchwyl bach cyn brecwast i'w disgyn- yddion heddiw, â holl ddyfais a nerthoedd gwyddoniaeth yr ugeinfed ganrif at eu gwas- anaeth. Onid e, boed i Oes y Trydan gilio mewn cywilydd bythol o wydd Oes y Cerrig. Tragwyddol bwyllgor. Afraid dweud nad dinod mewn gwyr amlwg yw Abergwaun ein hoes ni. Pwy na wyr am y tri phatriarch Job a Jacob a Dan, y canodd y bardd amdanynt fel hyn ?- Cadwed Abergwaun mewn bri Ei heniaith hi ei hunan. Os daw Dic Siôn Dafi i'r dref- Cwyd Dan ei lef fel taran, Derfydd am amynedd Job, A derfydd Jacob jocan. Y mae yma eraill hefyd y talai i Syr Bedwyr alw heibio iddynt. Tragwyddol bwyllgor yw Abergwaun yn awr. Gwyr gorau'r sir yn cynnull yma bron bob nos, rai ohonynt yn dod gymaint â deugain milltir o ffordd, i hyrwyddo gwaith yr Eisteddfod. Sylweddolwyd maint yr ymgyrch o'r cychwyn. Ond y mae'r brwd- frydedd drwy'r sir a'i chyffiniau yn ddigon i'w chario yn fuddugoliaethus. Un peth na sylweddolwyd gan bawb yn ddigon llwyr efallai yw hyn po Gymreiciaf fo popeth ynglŷn â'r Eisteddfod mewn iaith ac ysbryd, sicraf oU fydd ei Uwyddiant. Canys amlwg yw na fyn y genedl bellach Eisteddfod Ddic Siôn Dafydd. Yma, fel ymhob rhan arall o Gymru y mae gweld cysgod Sais neu Sais-Gymro yn dod i'r golwg dros y tro yn parlysu ymwybyddiaeth ambell un nes peri iddo golli iaith ei dad a'i fam yn llwyr. Yn Abergwaun ceir môr a mynydd, cwm ac aber, gallt a chraig yn ymdrochi i'w gilydd yn un darlun mwyn a chroeso gwlad y Mabinogion i Wyl Fawr y Genedl yn 1936 i'w wneud yn fwynach byth.