Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyn hyn yng Nghymru, 0 1648, yr oedd prinder newid yn bod ond yn ystod y tymor a enwyd yr oedd prinder yn fwy byth. Er mwyn dyfod o'r anhawster, torrwyd y ddeddf, a gwelwyd llawer o fasnachwyr yn darparu ar eu cyfrifoldeb eu hunain docynnau copr. Yn argraffedig ar y darnau hyn cawsid enw'r masnachwr, enw'r dref ac arwyddlun ei alwedigaeth. Bathwyd mwy o'r dernynau hyn yng ngogledd Cymru nag yn y Deheudir, ac wrth bob hanes, yn Wrecsam y caed y mwyafrif ohonynt. Dyma rai o Wrecsam sydd ar gael heddiw Thomas Baker, mercer Dim dyddiad Jc. George Buttall, ironmonger 1664/1668 Ie. Lawrence Cooke. 1666 Je. Edward Davies. 1666 lc. Jno. Davies 1668 lc. Robert Jackson N.A. }c. Evan Jones 1667 )c. W. Lewis 1666 lc. Diddorol sylwi bod y rhan fwyaf o nod- au'r banciau Cymreig i'w holrhain i'r blynyddoedd 1800-1825. Prawf hyn i fwyafrif yr hen fanciau gael eu sefydlu yn ystod y tymor hwn. Masnachwyr neu borthmyn a thirfeddianwyr, gan mwyaf, oedd y sefydlwyr, a gellir olrhain eu cychwyn yn bennaf i ddau achos, sef yr anhawster i anfon symiau mawr bellter o ffordd a phrin- der newid a chanlyniadau andwyol hynny ar fasnach y wlad. Cyfundrefn wahanoL Eglur nad yn yr un modd y tyfodd ein cyfundrefn ni a'r eiddo Lloegr. Datblygiad yw cyfundrefn ariandai Lloegr o hen alwedig- aeth y cyfnewidwyr arian, yr Iddew gyda'i usuraeth a'r gof aur gyda'i seleri. Yn Neheubarth Cymru gwelir yn amlwg fod llawer o'r hen fanciau â chysylltiad agos iawn rhyngddynt â'r tir-dylanwad y porth- myn. Yn nechrau'r 19 ganrif sefydlwyd Banc y Ddafad Ddu yn Aberystwyth a Thregaron, ac ar ei nodau ceir darlun o ddafad-dafad fach ar nodyn 10/ dafad fawr ar un £ 1. dwy ddafad ar un £ 2, ac yn y blaen i £ 10. Dyddiai banc arall yn Aber- ystwyth, Banc y Llong, yn ôl i 1762. Eto, yn Sir Gaerfyrddin cawn Banc yr Eidion Du, ac addurnid nodau hwn gan ddarlun o eidion du braf. Sefydlwyd ef yn 1799 yn Llandyfri gan David Jones, hen daid Mrs. Davies-Evans, Highmead. Agor- wyd canghennau o'r banc hwn yn Llanbedr a Llandilo. Dyma un o fanciau cryfaf o'r fath yn y wlad y pryd hynny. Dywedir i un hen frawd, wrth dynnu ei gyfrif o'r Banc yn Llandyfri ar adeg o ddirwasgiad, pan roed nodau Bank of England iddo, ddweud Na, gwell gyda fi gael papurau Dafydd Jones." Darlun o geiliog hardd. Yng Nghaerfyrddin eto cawn Fane y Ceiliog, o dan yr enw David Morris & Co. Ar nodau hwn ceid darlun o geiliog hardd yn barod i gyhoeddi toriad y wawr — a ddim heb reswm, oblegid daliodd yr ariandy hwn drwy bob storm o 1791 i 1864, pan gymerwyd ef gan un o'r Pum Banc Mawr. Felly hefyd yn hanes banc Wilkins & Co., a sefydlwyd yn Aberhonddu yn 1778 ac a dyfodd yn un o fanciau mwya'r Deheudir, gyda changhennau ym Merthyr Tydfil, Caerfyrddin a Hwlffordd. Yn 1866 bu rhediad ar y banc yn Aberteifi, a doniol oedd y rhesymau a roddid gan y cwsmeriaid ofnus wrth ymofyn eu harian-eisiau adeiladu melinau dŵr, codi tai, ystorfeydd a chwtiau moch Talwyd hwynt i gyd, ond ymhen rhyw saith niwrnod yr oedd yr argyfwng drosodd, a daeth bron bob un o'r cwsmeriaid â'u harian yn ôl. Mr. Richard Davies. Yn sir Benfro ceid Banc yr Ysguti, â darlun o ysgub o wenith ar ei nodau, ond ni fu byw yn hir, bu farw ymhen tua 10 mlyn- edd. Yn yr un cyfnod ceir Banc y Ffwrnes, Caerfyrddin; Banc LlaneUi Banc Caer- fyrddin Banc Sir Benfro Dunn & Co., Dinbych y Pysgod Walter Voss & Co., Abertawe, a Banc Hwlffordd. Sefydlwyd yr olaf gan yr Iddewon, Samuel Levi a Moses Levi, o Frankfurt, yr Almaen, dau frawd a ddaeth yn Gristnogion, a chymryd enw Phillips, fu'n garedig wrthynt. Merch i Samuel Levi oedd mam yr enwog barchedig Hugh Price Hughes, a phriododd merch arall iddo'r Parch. David Charles, Caer- fyrddin. Yn ei Early Banhs in West Wales, dyry Mr. Francis Green fanylion diddorol am rai o'r banciau hyn, a mawr yw ein dyled iddo am a wyddys yn y maes hwn. Yn y gogledd, i fyny i'r 18 ganrif, nid oedd angen llawer o gyfalaf tawel a hamddenol oedd rhediad masnach. Hyd yn oed yng nghanol y ganrif, unwaith yn yr wythnos yr agorid y siopau yn Llanidloes-amser braf Ond yn y cyffro diwydiannol, buan a mawr fu'r cyfnewid. Cawn John Wilkinson, o Bersham, yn un o'r haearnwyr cyntaf, gwr a adeiladodd y bont haearn cyntaf, a'r llong haearn gyntaf. Banciau'r Gogledd. Yn yr Economica am Fawrth, 1926. ceir erthygl gan yr Athro A. H. Dodd ar ddechreuad bancio yng ngogledd Cymru, a dymunem ddatgan ein rhwymedigaeth iddo am y ffeithiau a ganlyn. Dywaid mai symudiadau diwydiannol cyntaf y gogledd oedd ynglýn â mwyn a glo. Ar ôl hynny daeth meistri cotwm Lloegr i Gymru am eu lierth dwr ac yn ddiwethaf oll fe ddaeth y ffatrioedd gwlân i'w lle eu hun, drwy ddyfod yn annibynnol ar Amwythig gyda'i Drapers Co. Yn 1785 cawn un o'r enw Richard Myddleton Lloyd, gwneuthurwr gwlân, ei dad yn sidanydd Ilwyddiannus ac yn perthyn i gyff y tirfeddianwyr, yn agor banc yn Wrecsam. Cawn y North Wales Bank neu'r Flintshire Bank yn Nhreffynnon, a sefydlwyd gan Richard Sankey, perchennog gwaith glo. Fe aeth ariandy Wrecsam i'r gwellt yn argyfwng 1848. Cawn Owen Williams, mab goruchwyliwr gweithiau copr Amlwch, yn 1792 yn agor yr Hen Fanc yng Nghaer. Agorwyd canghennau ym Mangor, Caer- narfon, Amlwch a Llanfairfechan, a pharha- odd hyd iddo gael ei lyncu yn 1897 gan un o'r banciau mawr. Mynd i'r gwynt." Cawn fanc ynglŷn â'r fasnach wlân yn Ninbych a Llanrwst yn 1794--y prif bartneriaid eto yn hanu o deuluoedd tir- feddiannol a chlerigol. Banc William Pugh, hefyd, a agorwyd yn y Drefnewydd yn 1807, gan dirfeddiannwr arall. Aeth hwn i'r gwynt yn 1831, gan i W. Pugh wario'i gyfoeth ar wella ])ethau yn y sir. Cymerwyd Banc Thomas a Hugh Jones (Jones a Williams), a sefydlwyd yn 1803 yn Nol- gellau, gan Ariandy Gogledd a Deheudir Cymru. O hen vd y wlad, megis, y tarddodd y banciau hyn, ond yn 1777 cawn arianwyr masnach cotwm o Lancashire yn sefydlu melinoedd cotwm yn Nhreffynnon ac yn agor banc Douglas a Smalley yn 1822, yna yn yr Wyddgrug, 1825. Ni bu'r rhain fyw yn hir iawn. Dysgu'r wers. Yn enghraifft o fanciau a sefydlwyd gan siopwyr cawn yn fuan wedi 1800 un o'r enw James Kenrick, nwyddwr a gwneuthurwr canhwyllau, yn agor banc yn Wrecsam. Fe dorrodd yn 1848. Banc arall o'r un natur oedd hwnnw a sefydlwyd yng Nghaergybi tua 1806 gan .1. Pearson. Yr oedd hwn yn ysgolfeistr, llyfrwerthwr. llyfrgellydd, gwerthwr tê, ffisyg, peraroglau a gemau (gwerthfawr neu ddiwerth). Tair blynedd fu oes y banc hw n, a hynny dair blynedd yn ormod. Cawn bregethwr byda'r Ymneilltu- wyr yn agor un yn Wrecsam eto yn 1824, ond byr fu ei wynt yntau. Fe sefydlwyd llu o fanciau eraill, ond daeth stormydd 1810, 1814, 1816, 1825, 1826 ac 1848, ac ysgubwyd y nifer mwyaf ohonynt ymaith gyda chanlyniadau truenus. Dysgwyd y wers hon yn effeithiol, Nad oes wir ddiogelwch ar wahân i gyd-ddibyniaeth a chydweithrediad. Llyfr Llwyddiannus TI gei o haeddiant gyhoeddydd-o bydd Dy bwnc yn un newydd Llyfr a wrthyd Uyfrwerthydd, Isel ei foes neu sâl fvdd. Bodfan.