Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

STORI FER Yr Hen Oruchwyliaeth YR oedd i Lanedeyrn ddau wyneb-yr hen a'r newydd. Trôi'r hen at y mynyddoedd, y newydd at y môr. Yr oedd rhychau a chysgodion i'r hen yr oedd y newydd yn ddisglair a digywilydd. Rhyw dueddu i osgoi y môr a wnai'r hen bentref, rhyw gilio rhag ei ru a'i ffwdan, a dyrchafu llygaid i'r mynyddoedd tawel, digyfnewid. Ond yn y môr yr ymhyfrydai'r pentref newydd. Yr oedd terfysg y môr ar lawntiau'r tai coegfalch. Bellach, y strydoedd cefn y gelwid strydoedd Llanedeyrn Fach, a'r Ffrynt oedd yr enw poblogaidd am Heol y Môr a'r tair stryd eang a ganghennai ohoni. Yr oedd yno hen bobl a phobl newydd, newydd. Plant yr hen bobl oedd y bobl newydd, y rhan fwyaf, a'r rheini'n briod â phobl hollol ddieithr a'u plant hwythau, yn eu tro, yn estroniaid o'u geni. YR oedd yr hen bobl yn mynychu'r capel yn weddol gyson. Am y bobl newydd, chwarae golff a wnai'r rhai cefnog ohonynt; a chadw ymwelwyr a wnai'r ail ddosbarth. Nid oedd dlodion ymysg y bobl newydd. Yr oedd pawb ohonynt yn gwisgo fel yr ym- welwyr Saesneg, ac yn medru fforddio cadw ci ac offeryn di-wifr. Ymhlith yr hen bobl yr oedd y teuluoedd parchus, rhai yn rhoi'n dda at y capel ac yn talu'r bil siop yn gyson. Ceid yno ddosbarth y Clwt, hefyd-pobl hen ffasiwn, glên, ond rhai ar eu gorau bron ar hyd eu hoes. Yr oedd ymhlith yr hen bobl dlodion di- dderbyn-wyneb hefyd hen begorion am- ddifad a hen ferched difrif o anniben. Fel y digwydd ym mhobman, yr oedd yr hen yn marw yn raddol. heb odid neb yn cymryd eu Ue. Yn un o'r strydoedd cefn — Stryd y Myn- ydd-vr oedd siop Isaac Jones y crydd ac un o'r hen bobl oedd yntau. Rhoddasai'r gorau i waith crydd am iddo anafu ei law aswy wrth bwytho. Esgidiau a werthai'n arferol--nid esgidiau bach. YN ddiweddar iawn y cafodd Isaac esgidiau bach i'w siop, a hynny am fod iddo gwsmeriaid ymysg y Ffrynt a'r rheini'n ei boeni i geisio rhywbeth cyson â'r ffasiwn i'r ffenestr. Tipyn yn bengaled oedd Isaac i'w ymhwedd ar y dechrau, a gadael iddynt yrru eu harchebion drwy'r post i Lundain, a chael yn ôl esgidiau papur llwyd a ymdoddai'n chwilfriw yn y gawod gyntaf. Ond o dipyn i beth, bu'n rhaid arno astudio'r catalog a cheisio parau o esgidiau bach rhyfeddol o eiddil ar gyfair y merched ieuainc, a pharau o esgidiau meddal, hollol amhwrpasol," ar gyfair y llanciau. Daliai'r hen drigoüon at eu cwsmeriaeth arferol. Yr un esgid" a fynnai Thomas Hughes y glo bob dechrau haf: a'r un ochrau lastig a âi o'r siop at ddrws y Foty i Ehn ers ugain mlynedd. Talai'r plwyf hefyd am yr un pâr o hoelion mawr i Siôn Wirion ers hanner oes, a phwrcasu pâr o glocs i Margiad ei chwaer. YR oedd gan Isaac restr o'r cwsmeriaid rheolaidd ar y mur y tu ôl i'r cownter ac fel y dôi angau i Lanedeyrn a dwyn un ar ôl y llall o'r hen bobl i'r wlad tu hwnt i'r mynyddoedd tawel. croesai Isaac enw arall Mi*s Düys Cadwaladr, Cricieth Awdur y stori hon. oddi ar y rhestr, a gwelid Ue gwag neu ddau ar y silff gyda dechrau'r haf. Ac nid yr ymledai'r gwagle ar y silff uchaf, na theneuai'r rhesi ar y silffoedd eraill hefyd. Y ffaith ydoedd, nad tyfu wnai busnes Isaac Jones, ond mynd i lawr. Yr oedd yr hen bethau'n mynd heibio ar y ffrynt yr oedd siop esgidiau wedi agor,- cangen o siop fawr Marks yn Llundain. Yn ffenestr y siop newydd yr oedd degau o barau o esgidiau bach o bob lliw a Uun. Yr oedd esgidiau bach yn ffenestr Isaac hefyd ond ni phrynai neb y rheini. Ambell dro, mae'n wir, fe lithrai merch neu lanc i lawr tua Stryd y Mynydd gyda llogell wag a gwadn dyllog, ac erfyn wrth gownter Isaac am bâr ar goel; ac yntau, tan obeithio, yn rhoddi.. Ond anaml y'i telid a chyfryw yw'r natur ddynol fel nad ato ef y deuai'r dyledwr gydag arian parod i geisio'r pâr nesaf. Gan DILYS CADWALADR FELLY y bu am dymhorau, a byw i Isaac a Mari ei wraig yn galetach bob blwyddyn, a'r galon yn drymach gweld cymylu'r hen wynebau, a chyfyngu ar gerdded yr hen ffrindiau nes eu cilio'n llwyr o'r stryd i'w hystafelloedd cudd gweld heulwen i'r wynebau ieuainc a dramwyai heibio heb droi pen i edrych am foment ar yr esgidiau bach llychlyd. Yna, un nawnddydd, daeth cnoc drom ar y cownter. Ymysgydwodd Isaac o'i gadair yn yr ystafell gefn. Rhoes un edrychiad ar Mari, a mynd trwodd i'r siop dan sychu ei sbectol yn ei ffedog ddu, rydlyd. Iddew oedd wrth y cownter, er y tybiai Isaac mai Sais ydoedd, am ei fod yn siarad Saesneg ac yn ysmygu sigâr. Ychydig iawn o Saesneg a wyddai Isaac a deuai'r ychydig hwnnw allan bendramwnwgl fel petai anadl byr a thymer byrrach y tu ôl iddo. Ond un llariaidd hynod oedd Isaac wrth natur ac yr oedd arno ofn sŵn ei lais ei hunan wrth geisio siarad Saesneg. YN wir, fe synnwyd yr Iddew dipyn gan dôn yr hen grydd. Daeth y sigâr o'i enau, ac aeth mynydd ei bersonoliaeth seimlyd i lawr fodfedd neu ddwy. Yr oedd yno i brynu'r siop, ac ni ragwelodd eiliad o gyndynrwydd ar ran yr hen ŵr. Un o oruchwylwyr Marks oedd y dyn pwysig, fel y cafodd Isaac wybod yn fuan. Curai calon yr hen grydd fel morthwyl barn yn ei fynwes gul; ond po fwyaf y curai hi. byrraf ei anadl a ffyrnicaf ei dôn a'r cuwch ar ei aeliau trymion. Dan yr aeliau hynny, llosgai dwyster ei enaid yn ei lygaid tyner. Eithr ni welai'r Iddew namyn fflach o olau tanbaid a chan mai Iddew ydoedd, yn adnabod y byd mor dda, a dynion yn well, deallodd yn ben- difaddau na fynnai Isaac drosglwyddo'i siop i ddwylo Marks na neb arall. Ceisiodd berswadio, fel y medr Iddew ond anodd yw chwarae ar dannau calon dyn na ŵyr yn iawn beth sydd gennych i'w ddweud wrtho. FODD bynnag, gwyddai Isaac ddigon i ysgwyd ei ben fel pendil cloc gwallgof: a cherddodd yr Iddew allan i Stryd y Myn- ydd, yn llai dyn nag y llamodd i mewn. Dyn oedd 'nyna eisio prynu'r Ue meddai Isaac wrth Mari ar ôl dychwelyd i'r cefn. Hy pesychai Mari'n sychlyd, fel petai peth felly yng nghwrs dyddiol y busnes, a chymryd yn hoUol ganiataol mai ysgwyd ei ben a wnaethai ei phriod. Synfyfyriodd Isaac am ychydig. Dylwn fod wedi dod i ryw ddealltwriaeth ag o hefyd," meddai yn y man, a'i lygaid ynghau, a'r gwrid araf yn cerdded ei ruddiau. Hy meddai Mari'r eilwaith, gan fynd ymlaen â'i gwaith, a gwrthod codi at yr abwyd. (/ dudalen 120.)