Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

FFAWD SAIS A DDYS- GODD GYMRAEG A'I ANTUR YN HELA PAPYRUS FS^g^fgî'/lE gafodd y Dr. H. Idris ^ffp5os__l-< Bell ffawd arbennig dda i gyda'i waith yn yr Am- gueddfa Brydeinig yn ddi- weddar. Yr oedd yn trin pentwr o bapuri'r Aifft pan ddis- gynnodd ei lygad ar bedwar tudalen oedd, â barnu wrth yr ysgrifen arnynt, yn mynd yn ôl i'r ail ganrif o oed Crist! Yr oedd y papyrus wedi dryllio ychydig yma ac acw, ac er bod eu llawysgrif yn lân a chadarn, 'doeddynt hwy ddim yn hawdd i'w dehongli. Cafodd Dr. Idris Bell ymysg y llawysgrifau amryw ddadleuon rhwng Iesu Grist a'r Iddewon, ac yr oedd rhannau eraill yn debyg i rannau o efengyl Ioan. Y mae'r dalennau hyn yn hyn o gan mlynedd na'r llawysgrif hynaf o'r Testament Newydd oedd ar gael cynt. Ddim rhyfedd bod disgwyl mawr am y llyfr y mae'r Dr. Bell yn brysur yn ei sgrifennu amdanynt Cymro o du ei fam YMAE'R Dr. Idris Bell yn Gymro o du ei fam, oedd yn ferch i Mr. John Hughes, Llanfairfechan, Arfon, gynt o Lerpwl; ond bu farw'i fam pan nad oedd ef ond 11 oed, ac yn Epworth, swydd Lincoln, y'i magwyd. Yr oedd ei dad, er yn Sais o waed. yn dra hoff o Gymru ac yn ein gwlad ni y treuliai'r teulu bach eu gwyliau yn gyson. O'i 11 blwydd i'w 18fed, bu'r gwyliau ar ffurf troeon cerdded, a daeth y teulu i nabod llawer ar y wlad. Y mae ef bob amser wedi caru Cymru a'i phethau, a phan oedd yn fachgen, fe ddarllenodd y Mab- inogion a phob llyfr am Gymru y gallai gael gafael ynddo, ond ni chafodd gyfle i ddysgu'r iaith am flynyddoedd, nes cwpláu ei yrfa addysg. Yna cafodd wersi yn ei oriau hamdden gan Mr. Vaughan Roberts (Llan- gollen) ni chafodd fawr o ymddiddan yn yr iaith, felly Cymraeg llyfr yn unig sydd ganddo. Blas ar farddoniaeth YR oedd hyn yn 1904. Wedi dysgu'r iaith, dechreuodd Dr. Bell gaél blas ar farddoniaeth Gymraeg. Cyhoedd- odd erthyglau yn The Library" (ar Dafydd ap Gwilym) yn The Nationalist (dan olygiaeth Syr Marchant Williams, a ddaeth yn gyfaill mawr iddo), ac yn y Celtic Review," ac yn 1911 fe gyhoeddodd ef a'i dad nifer o gyfieithiadau ar gân, Poemsfrom the Welsh. 'Fedrai ei dad ddim Cymraeg, ond fe wnai'r mab gyfieithiad-rhyddiaith iddo, gan ddangos y mydr ac unrhyw acenion neilltuol, a gwnai'r tad y gweddill. Daeth cyfrol arall debyg yn 1925, sef Welsh Poerns of the 20th Century (Hughes a'i Fab), ac fe olygodd yn 1909 y gyfrol Vita Sancti Tathei a Buched Seint y Katrin i Gymdeithas Law- ysgrifau Cymraeg Bangor, gan ddyfod yn aelod o'r Gymdeithas ychydig wedi hynny. Dr. H. Idris Bell. Deallaf fod y Dr. Bell yn awr yn paratoi cipdrem hanesyddol ar farddoniaeth Gym- raeg, i'w gyhoeddi yng Ngwasg Clarendon, Rhydychen. I'r Aifft LLAWER anturiaeth ddiddorol fu i'r u Dr. Bell wrth hela papyrus yn y dwyrain, fel y gwyr darllenwyr Y Llenor yn dda. Gwaith Dr. Bell yn yr Amgueddfa Brydain yw dehongli a chyhoeddi papyri Groeg, a chyda Syr Frederic Kenyon y cychwynnodd. Golygodd amryw gyfrolau o Jews and Christians in Egypt," a'r llyfr Griechen im Alten Alexandreia," i gyfres Almaenig. Aeth i'r Aifft yn 1926, fel ysgrifennydd mygedol Cymdeithas Ddarganfod yr Aifft, i brynu papyri i gwmni o brynwyr, yn cynnwys Amgueddfa Brydain ac amryw brifysgolion Americanaidd. Ymwelodd â gwersylloedd archwilwyr yn Fagum ac yn Tell, Amarna ac Abydos, gan deithio i fyny Nil hyd yn Edfu. Bu'r Dr. Bell o bryd i bryd yn darllen papurau i gyngresau ysgolheigion yn Rhyd- ychen, Berlin, Munich, Montreal, Michigan a New York. Bu'n efrydu yn olynol yn Rhydychen, Berlin, Halle, a Rouen. Yna cafodd ei benodi yn Gynorthwywr yn yr Amgueddfa, a dyna'r pryd y dysgodd Gymraeg. Ei dri mab YMAE Idris Christopher, mab hynaf y Dr. Bell (fe briododd Miss Ayling, o Lundain, yn 1911), wedi dilyn ohono gwrs o addysg yn Ffrainc ac yn y wlad hon, yn awr yn dysgu gwaith UyfrgeUydd yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Y mae Ernest David, yr ail fab, yn dysgu celfyddyd yn y Royal College of Art, Llundain; ac y mae'r mab iengaf, John Rhys, yn y Merchant Taylor's School Llundain. Ers llawer blwyddyn y mae'r Dr. Bell yn aelod defnyddiol o Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, ac y mae'r cymdeithasau dyfnddysg, a wasanaethir ganddo, o'r Hellenic Society i'r Academy of Bdlogne, yn llu mawr. Drama o China SONIWYD eisoes yn y nodiadau hyn am Miss Nancy Price, yr actres o Fach- ynlleth, a sylfaenodd y People's Theatre yn Llundain. Yn ei chwaraedy hi y mae'r ddrama fwyaf poblogaidd ym Mhrydain ar hyn o bryd, sef cyfieithiad o ddrama o'r Sinaeg o'r enw Arglwyddes Ffrwd Werth- fawr." Peth rhyfedd yn y ddrama yw na cheir dim dodrefn ar y llwyfan. Eistedd dyn bob ochr i'r llwyfan, yng nghanol y pethau a ddefnyddir gan y chwaraewyr ac yng ngolwg pawb o'r gynulleidfa, ac o bryd i bryd fe gludant gadair neu glustog fel y bo ar y chwaraewyr eu heisiau. a ffugiant seiniau, megis carlamu march â dwy gneuen. Gofyn areithiwr o flaen pob golygfa inni ddychmygu ein bod mewn plas neu ardd. Cynhyrchir y chwarae gan Miss Nancy Price a Mr. S. J. Hsiang, yn union fel pe cynhyrchid hi yn China. Ceir llenni Uiwgar gwerthfawr o bobtu i'r llwyfan.