Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BYD Y MERCHED. Gwyrddiau'n Cystadlu a Browniau Çan MEGAN ELLIS LLIWIAU disglair a defnyddiau tebyg L i waith llaw sydd raid gael gyda'r dulliau syml diweddar. Dangosir cryn lawer o binc ymysg y lliwiau newydd-pine Uachar rhosynnau Y mae'r lliw ceirch yn rhoi Ile i felyn tèr. Mi fydd coch rhwd yn boblogaidd cyn hir; a lliwiau copr coeth. Gwyrddiau tywyll yn cystadlu â browniau am sylw'r bobl; ac i'r ferch sydd â'i hwynepryd yn cydfynd ag ef, y mae gwyrdd almon ar ddefnyddiau main yn dda. Gwrthgyferbyniad. 'Wisgir mo'r lliwiau hyn ar eu pen eu hunain chwaith y mae gwrthgyferbyniad yn bwysig yn llawer o'r cyfuniadau lliw. 'Does dim arlliw o'r syniad o bopeth-i- gydweddu yn awr. Fe welwch ysmotiau pinc a stribiau melyn ar sidanau gwisgoedd golchi. Y mae bri ar binc gyda du ym Mharis, ac y mae gwyrdd o wahanol ddwys- ter i'w weld mewn llawer o'r patrymau. Y mae'r defnyddiau yn llac o wead a'u hwyneb yn aml yn bur fras. Yn arbennig gyda'r Ilieiniau dillad chwarae daw lhain eto i'r rheng flaen ymysg defnyddiau ysgafn. pFROC ADDAS AT DE PNAWN NEU HWY RNOS, Satin ydyw'r defnydd, ac y mae'r ddau du ohono ar waith, a'r darnau medi'i cysylltu á phwyth hem. Y mae'r breth- ynnau cwrs mor ddefnyddiol fel y gellir gwneuthur hyd yn oed esgidiau ohonynt, ac y mae'n bosibl cael siwt gyfan, ffroc, côt, het a sgidiau, i gyd o liain, y tymor hwn. Yn wir, mi welais gyfres gyfan o wisgoedd wedi'i gwneuthur o'r un defnydd lliain. Yna chwi gewch y llieiniau hynny sy'n efelychiad o dwîd-fe'u defnyddir mewn cotiau a sgertiau bob-dydd. Gwelais hefyd dwidiau newydd-meddal a main iawn heb odid flewyn ar eu hwyneb esmwyth, tlws eu plodwaith. AMRYWIAETH COLERI. Y goler yw'r prif wahaniaeth yn y gwisg- oedd newydd a'r cotiau. Gall ffrociau hwyr fod yn is yn nhu blaen y corsais, ond y mae gwisgoedd-dydd mor uchel am y gwddf ag y buont ers talm. Mi welais rai blowsiau myslin oedd â'r defnydd wedi'i gasglu ynghyd yn dameidiau cyson, yn null blowsiau gwerin Rwmania a Bwlgaria. Defnyddir cordynnau ar rai o'r blowsiau ac y mae eraill â lastig lliw yn rhedeg drwy hollt am y gwddw. Y mae cotiau â rhwymyn gwddw yn bur boblogaidd ac y mae blowsiau disglair arbennig at wisgo gyda nhw—hynny yw, yn Ue coler, tamaid gwastad o ddefnydd, digon i dynnu ymaith yr effaith foel, eto yn terfynu ychydig o bobtu i'r afal brefant." PATRYMAU LASIAU MAIN. Gwelir rhagor o ffrociau dawns o lasiaú nag o'r un defnydd arall. Defnyddir eddi (dentelle) hynod fain i'w gwneuthur, mewn Uiwiau lled anghyffredin weithiau. Yr oedd un felen meddal menynlliw wedi'i gwregysu â siffon melfed ac ar un liw cragen golau yr oedd canolarn gwyrdd almon. Yr oedd y ddwy ffroc hyn wedi'i gwau o'r gwlân meina, mor fain nes yr oedd yn anodd credu nad cotwm oeddynt. Rhai mân yw'r patrymau lasiau newydd, nid rhai bras fel ychydig amser yn ôl. pATRWM NEWYDD I SIWMPER. Nodweddion anghyffredin i'r siwmper hawdd ei gwau hon yw'r ysgwyddau pwff a'r patrwm ar y tu cefn a'r tu blaen. AM Y GWDDF Y MAE'R PRIF WAHANIAETH yn y gwisgoedd a'r cotiau newydd. Cedwir y goler uchaf yn et lle gyda rholyn o'r un defnydd á'r goler, sef pigue gwyn. Dengys yr ail y wisg wedi'i chasglu ar gorden, ac y mae'r gôt isod wedi'i chwplâu â chrafat- gwau. Oddeutu'r Ty I ail-osod cyllell yn ei charn, cymysgwch bedair rhan o ystôr, un rhan o gẇyr melyn ac un rhan o blastr Paris. Llenwch y twll yn y carn â hwn, yna poethwch dafod y llafn a'i bwyso i'r carn. Gadewch iddo sadio yn galed. I ruystro jam rhag llwydo ar yr wyneb, mwydwch y cylchau memrwn mewn llaeth cyn eu rhoi yn eu Ue. I lanhau sosban enamel, llenwch ef â dŵr poeth, malu sebon iddo, ei ferwi nes meddalu, a'i adael dros nos. Y mae'r dull hwn yn llawn mor gymwys at offer aluminium. Os crafwch y rhan o'r sieli sebon sydd wedi baeddu, gellwch ei ddefnyddio at sgrwbio lloriau. I rwystro llaeth rhag Uosgi wrth ei dwymo, taenwch ychydig siwgr yn y llestr cyn rhoi'r llaeth ynddo. Os daw Morgrug i'r Gell Gig, gadewch jar- mêl heb ei olchi yno. Fe dyrra'r pryfed tu fewn i'r jar a geUir eu dal yn rhwydd a'u lladd. Peth da i gymryd lle wy yw Uond llwy de o sirop wedi'i feddalu mewn hanner peint o laeth cynnes-fe gymer hyn le tri wy. I rwystro llaeth rhag troi," pan fo'r tywydd yn dwym neu o natur taranau, paratowch water-glass dwbl y cryfder arferol, drwy roi dim ond hanner y d-wr a ofynnir yn y cyfarwyddiadau. Dodwch mewn powlen a rhoi'r jwg llaeth i sefyll ynddo, gan ofalu na chyrhaeddo'r hylif i dop y jwg. Fe bery'r cymysgedd hwn am fisoedd. I wneuthur Llymaid Oer i Eiddil, craswch a malu afal mawr, sur a throi'r manfwyd i ddŵr berwedig. Ei guro'n dda, gadael iddo oeri, a rhoi siwgr wrth flas. I godi staen paent, ceisiwch ychydig turpentine a'r un faint o amoniac. Bydd i'r cymysgedd hwn godi unrhyw staen paent oddi ar ddillad, hyd yn oed pan fônt yn hen.