Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Hil Môr y Canoldir ydym Ni YMAE'N sicr fod yr elfen fwyaf yng nghenedl y Cymry yn perthyn i Hil Môr y Canoldir; ond y mae'r damcaniaethau lawer ynghylch perthynas ceinciau Ewropeaidd ac Affricanaidd yr hil hon braidd yn ddigyswllt A oes modd eu cysoni hwynt ? Gellir dywedyd yn fras i haenau yr hil ymledu o draethau Môr y Canoldir trwy orllewin Ewrob i'r ynysoedd hyn, ac yn deneuach cyn belled â Norwy (Ue y mae llawer o'r bobl fach ddu "-yr oedd Ibsen yn un ohonynt). Feallai tiw eu priffordd hwy oedd y môr sy'n gobhi traethau gorllewin Ewrob, ac idiynt ddyfod drwy Sbaen a Gâl, ffordd y dieth y Phosnioiaid, a Groegiaid megis Pytheas o Fasilia ar eu hôl. Pwysleisia Miss O'Rahilly bwys ffordd Môr y Gorllewin yn ei llyfr, Ireland and Wales dyma'r unig briffordd i Brydain o'r De cyn clirio canol Ewrob o goed a chorsydd. Tystiolaeth teithwyr. A 033 gyswllt amlwg o gwbl rhwng yr Hen Eifftiiid a'u disgynyddion Coptig a'r Berber- iaid sy'n cynrychioli Hil Môr y Canoldir yng Ngogledd Affrica, a'r rheiny sy'n dangos cymeriadau yr un hil yn y gwledydd hyn ? Yn ôl yr anthropolegwyr, yr un hil (er yn gymysg ar y ddwy ochr) ydynt; er enghraifft, Ue nid oes gymysgedd, y mae'r un pennau hir ganddynt. Hefyd, dyry teithwyr fel Mr. Wyndham Lewis dystiolaeth i debyg- rwydd Berberiaid o'r gwaed puraf (y mae llenwi'r haremau ag Affricaniaid duon wedi effeithio'n fawr ar waed yr uchelwyr ac ni ddylem anghofio effaith hen goncwerwyr Vandalaidd Nordic ") i Gymry tywyll heddiw. Y meini mawrion. Dywaid yr ysgol ddiweddar o archaeoleg- wyr Seisnig fod perthynas rhwng pen- saerniaeth yr Hen Eifftiaid a'r gweithiau megalithig-y nieini mawrion-a gynrychiolir ym Mhrydain gan Gôr y Cewri a chôr meini Avebury, ac yn Llydaw gan gôr meini Carnac. Dywedant fod côr meini Avebury yn ganolfan gwareiddiad a ddinistriwyd gan ryw hil 0 bennau llydain a ragredegodd y Brythoniaid ym Mhrydain. Mynn rhai o'r ysgol'ddiweddar hon fod y gweithiau hyn wedi'u ffurfio ar ddelw temlau'r Hen Eifftiaid orau ag y medrid ym Mhrydain y pryd hynny. Onid oeddynt, o leiaf, yn demlau crefydd debyg i grefydd yr Hen Eifftiaid? Gwyddom mor bwysig oedd duw'r haul yn eu crefydd hwy, a thystia trefn y meini yn y corau i bwysigrwydd yr haul i'r addolwyr. Tebygrwydd iaith. Nid ymddengys i'r damcaniaethwyr hyn wybod dim am ddamcaniaeth y diweddar Syr John Morris-Jones, a gyhoeddwyd yn atodiad i Welsh People Rhvs a Jones cyn y rhyfel mawr. Dywedodd Syr John fod geirfâu'r ieithoedd Celtaidd yn un ym marn Sidney Jones Ferndale, Rhondda ag eiddo'r ieithoedd Wiro (i ddefnyddio term cyfleus yr Athro Giles), eithr bod eu cystrawen yn Hamitig, sef yn un â chystrawen ieithoedd yr Hen Eifftiaid a'r Berberiaid heddiw. Oni chadarnhâ'r ddwy ddamcaniaeth hon ei gilydd, dyma eiddo'r Dr. Anderson, ymhlith Llychlynwyr eraill, ar darddiad telyn fwa Norwy. Y mae'r Dr. Anderson wedi bod yn ceisio cael hyd i ffurf wreiddiol yr offeryn cerdd hwn. Y mae'n debyg bod holl offer cerdd dant wedi datblygu o ryw fath o delyn. Rywbryd dechreuwyd canu'r delyn o ryw fwa cyntefig wedyn daeth y crwth. Rhyw ffurfiau canol, rhwng telyn a chrwth, meddai'r Dr. Anderson, yw telyn fwa Norwy a hen grwth Cymru (y mae Mr. Dolmetsch yn ei brysur atgyfodi) a'r offeryn cerdd tebycaf iddynt ill dau yw offeryn o'r un ryw a genid gan yr Hen Eifftiaid. Rhyfedd ffordd y mae'r holl ddamcan- iaethau hyn, a wnaed yn hollol annibynnol "Diwygiad" Arall? Daw COF gan rai ohonom mai 30 mlynedd i fis Tachwedd diwethaf y torrodd Diwygiad Crefyddol 1904-05. A oes elfennau diwygiad arall ym mywyd Cymru heddiw ? Bywyd cul, dwfn a thawel oedd bywyd Cymru cyn y Diwygiad diwethaf. Crynhoid ef bron i gyd o amgylch yr Eisteddfod, y penny readings a'r capel. Gorffwysai cysgod cysegr- edig y capel ar holl fywyd y wlad ar y pryd. Erbyn hyn ehangodd y genedl ei bywyd a'i gorwelion i gylchoedd cymdeithasol, econom- aidd a gwladwriaethol y byd i gyd. A ddarfu i fywyd Cymru, wrth ennill mewn ehangder, golli mewn dyfnder ac amharu o ran ei wir werth ? Prun ai mantais ai anfantais i fywyd ysbrydol y genedl fu'r cyfnewidiadau mawrion hyn Rhaid cofio bod perygl i fywyd dwfn fynd yn orsefydlog. Nodwedd arbennig pob bywyd iach ydyw ei ynni a'i ystwythter, a'i addasrwydd ar gyfair pob gofyn. Gwell bywyd ysgafn rhydd, hoyw, na bywyd trwm, trist a thrwsgl y cyfnod a aeth heibio. Llawer o feirniadu sydd ar y mudiad drama, fel ar bopeth cyhoeddus arall. Ond y mae cefndir y mudiad bron i gyd yn gref- yddol. Cofia rhai am y cymeriadau a bortreiedir bron ym mhob drama-blaenor- iaid, gweinidogion, pregethwyr. 0 blith beirdd y genedl, gweinidogion yr efengyl sy'n cipio'r wobr am y Gadair a'r Goron ym mhob Eisteddfod Genedlaethol ac ar ei gilydd, yn cyd-daro. Syniad Syr John Morris-Jones, mi gredaf, yw'r cyntaf mewn amser, ac eto heb gydnabod ei werth gan y mwyafrif. Ac y mae'n ddiddorol sylwi bod damcaniaeth Dr. Anderson yn cryfhau yr eiddo Syr John ar y naill law, a'r eiddo Mr. Timothy Lewis-ar gyswllt agos Cymru a Llychlyn-ar y llall a dywaid Mr. Lewis taw ofer ddyfaliad yw damcaniaeth Syr John. Ni wn a oes draddodiad Cymreig yn cysylltu Cymru a'r Aifft. Credaf nad oes buasai y goresgyniad Rhufeinig ar ben goresgyniad y pennau llydain y cyfeiriais ato a goresgyniad y Brythoniaid, yn siwr o'i ddileu. Eithr gallai draddodiad o'r fath aros yn Iwerddon. A wnaeth ef ? Ni wn, heblaw bod nofelydd Gwyddelig yn cyfeirio at draddodiad o'r fath, ac nid yw hynny'n ddigon o gadarnhâd. Crefydd y corau meini. A oes cysylltiad o gwbl rhwng crefydd y corau meini a chrefydd Derwyddon y Brythoniaid ? Y mae'n debyg taw haul- addoliad, ar y cyfan, oedd crefydd y naill, crefydd uwch o lawer na chrefydd farbaraidd dywyll y llall; gyda'i haberth o ddynion byw-tebyg i aberth y Cenhedloedd Duon, a hyrddiai long i'r môr dros gorff byw eu caethweision. meddai JOHN GRIFFITH Rhos//anerchrugog, Sir Ddinbych yn Uu o'r eisteddfodau lleol. Gweinidogion hefyd sydd fel rheol yn cipio'r gwobrau ym myd llên. Wrth gwrs, fe ddaeth yr elfen fodern- aidd" i'r weinidogaeth gyda threiglad y blynyddoedd, ac y mae yn natur yr elfen honno o bregethu anwybyddu pob ffurf ar ddiwygiad. Diau bod pulpudau yng Nghymru lle y cymerodd moderniaeth le Efengyl Gras Duw, ac y mae llawer o wrandawyr yn seddau'r addoldai a dynnwyd oddi wrth symledd ffydd Pedr, Iago a Ioan- Er hyn oll, nid yw crefydd gras wedi gadael calon cenedl y Cymry, ac nis gedy byth. Calfaria Fryn oedd y thema a drawsnewidiodd fywyd ein cenedl ni; ac y mae'r thema honno mor fyw yn emynydd- iaeth y genedl ag erioed. Dechreued rhywun un o'r emynau hyn mewn cynhulliad o'n pobl, a cherir hwynt ymaith i'r nefolion leoedd tan gyfaredd y seiniau a mawredd y gwirioneddau a genir. Y mae yn hyn oll elfennau cryfion a all fod yn rym, yn nerth, ac yn ddylanwad mawr o blaid y diwygiad nesaf pan dyrr. Ac y mae ei swn i'w glywed ym mrig y morwydd.