Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dyled yr laith i W. Owen Pughe DY 41.4 gipdrem ar fywyd gwlat- qar, llariaidd a llafurus y Dr. William Owen Pughe, fu farw gan mlynedd i eleni. Rhoddir lle neilltuol i gasgliad o'i lyfrau ac ysgrifau, ynghyda'i ddarlun yn yr arddangosfa flynyddol yn y Llyfrgell Genedlaethol. Aberystwyth. i ddathlu ei ganmlicyddiant. Gan D. G. Griffiths Aberystwyth NI fydd dathliad canmlwyddiant Dr. WiUiam Owen Pughe yn gyflawn yn unman heb atgoffa englynion hapus Ceiriog Pan ydoedd niwloedd y nos-ar iaith hen Frythoniaid yn aros Cyfod, Puw," ebe Duw, dos I ddwyn eu hiaith o ddunos." Ac yna goleuni cannaid — roed Ar iaith ein hynafiaid A'n llên oedd fel gem mewn llaid, Hwn a'i dygai'n fendigaid. Y mae'r ymdeimlad fod yn haws diraddio na gwerthfawrogi ein cymwynaswyr gynt yn achosi perygl ym mhob cylch geUir cwympo i amryfusedd ar y naill ochr a'r UaU. Ond amhosibl yw anwybyddu cymwynas hyd yn oed os anghytunir am ei gwerth. Er pob bai a gwendid yn y cymwynaswr, trosglwyddir sôn am y gymwynas o oes i oes, ac erys ei gwerth hanfodol, ar waethaf pob dadl, os bydd yn ffrwyth cymhelliad ac amcanion didwyll a llesol. Ceir enghraifft nodedig o hyn yn hanes W. Owen Pughe. Ein dyled iddo. Y mae ei fywgraffiad ar gael yn lled gywir a chyflawn yn Enwogion Cymru" a chyfrolau tebyg. Ceir crynodeb diddorol, amhleidiol a manwl o'i fywyd a'i athrylith yn ei gofiant gan Mordaf Pierce gyda'r deyrnged bwrpasol-" y mae ein dyled fel Cymry iddo yn anfesurol, am wasanaeth amhrisiadwy, mewn cyfnod prin ei fanteision a bach ei gefnogaeth." Ganwyd efyn 1759, yn Tý'n-y-Bryn, plwyf Llanfihangel-y-Pennant, yn agos i Dal-y-Uyn, Maldwyn, ond pan oedd ef yn saith oed, symudodd y teulu i ffermdy hynafol o'r enw Egryn, ar y ffordd i Harlech. Gan fod ei dad yn amaethwr cefnog a pharchus, danfonwyd y bachgen i'w addysgu yn Altringham a Llundain. Arosodd yn Llundain am chwe blynedd, ac yn 1783 derbyniwyd ef yn aelod o Gymdeithas y Gwyneddigion, yr un noson ag y derbyniwyd Edward Jones, Bardd y Brenin," yn aelod. Amcan y Gymdeithas oedd noddi beirdd Cymru ac annog i fyfyrio yr iaith Gymraeg yn fwy dyfal a manwl, yn ogystal â chasglu llenyddiaeth Gymreig hen a diweddar." Pery angen yn amlwg hyd yn hyn am adfywiad o ddiwydrwydd ac egni y Gwyneddigion i gyflawni'r amcan ac i hyrwyddo cylchrediad cynhyrchion llen- yddol ein gwlad. Daeth William Owen, fel yr adnabyddid ef yr adeg honno, yn un o aelodau enwocaf y Gymdeithas fel trysorydd, llywydd, a gweithiwr difrif o'i phlaid. Newid ei enw. Newidiodd ei enw yn 1806, ar farwolaeth y Parchedig Rice Pughe, offeiriad Nantglyn, Sir Ddinbych, pan etifeddodd ei ystad yn Ninbych a Meirion. O barch i'w noddwr, ychwanegodd yr enw poblogaidd Pughe. Pan oedd yn drigain oed y dechreuwyd ei alw yn Dr. Pughe, wedi ei anrhegu â'r teitl, Ll.D., gan Brifysgol Rhydychen. Yn niwedd ei oes dioddefodd afiechyd bhn, ac er mwyn gwella'r anhunedd, ymwelodd ag ardal ei eni. Ar y drydedd nos ym mis Mehefin, 1835, parlyswyd ef a bu farw yn ei ystafell wely heb ddadwisgo. Er iddo ddechrau a gorffen ei yrfa yng nghysgod Cader Idris, yn ei sir hoffusaf, claddwyd ef ym mynwent Nantglyn, wrth odre Mynydd Hiraethog. Ysgrifennu i'r wasg. Ysgrifennodd i'r wasg Gymraeg a Saesneg yn fynych heb un enw a hefyd o dan amryw enwau fel W.O., Gwilym Meirion, Idrison, Meirionnwr, Egryn. Byddai rhestr o'i lyfrau a'i draethodau yn gymorth i gael syniad gweddol am ei lafur enfawr. Gellir gweled oddi wrth y casgliadau gan lyfrydd- wyr fel Gwilym Lleyn, Gweirydd ap Rhys, Silvan Evans, Ashton, na chafodd ei ysgrif- bin ond ychydig orffwystra am hanner canrif. Yn 1789 y cyhoeddwyd barddoniaeth Dafydd ap Gwilym o grynhoad Owen Jones a William Owen. Ni chynnwys y casgliad ond rhan o waith y bardd, ac y mae'n amheus ai efe yw awdur pob cywydd a rhigwm a briodolwyd iddo. Y Myfyrian a'r Geiriadur. Heblaw cyfieithu a chyfansoddi, yr oedd William Owen yn gyfrifol hefyd am olygu cyhoeddiadau'r Gwyneddigion. Ond ei brif weithiau oedd y Geiriadur a Gramadeg (1793-1803), Myfyrian Archaiology (1801- 1807), a'r cyfieithiad, CoU Guynfa (1819). Cynorthwywyd ef yn y Myfyrian gan Owain Myfyr, Iolo Morgannwg, ac aelodau eraill o'r Gwyneddigion. Y mae'r ffaith fod y Myfyrian, a gyhoeddwyd ar y cyntaf mewn tair cyfrol wythplyg, yn cynnwys cyfanswm o 1889 o dudalennau yn para'n destun efrydiaeth ac edmygedd, yn brawf o'i bwys hanesyddol a llenyddol. Campwaith Dr. Pughe, yn ddiau, oedd y Geiriadur, ac i hwn y cyflwynodd y rhan fwyaf o'i oes. Dechreuodd yn ieuanc i gasglu defnyddiau, ac ni orffennodd ychwanegu hyd at yr ail argraffiad yn 1832. Cynnwys yn agos i gan mil o eiriau (heb gyfrif y dyfyniadau) o'i gymharu â 58,000 yng Ngeiriadur Dr. Johnson, a 15,000 yng Ngeiriadur Thomas Richards (1753). Tystia'r Gwyddoniadur fod Geiriadur Dr. Pughe yn un o'r gorchestion mwyaf dihafal a gyflawnwyd gan unrhyw awdur mewn unrhyw iaith." O'r ochr arall, dylid cydnabod nid yn unig nad oedd y Dr. Pughe yn hyddysg yn egwyddorion ieitheg gymariaethol, ond y gorfu iddo hefyd fraenaru tir dieithr a disathr. Am ei benderfyniad di-ildio i gasglu a dethol, haedda glod sydd yn gor- bwyso'r anghlod am ei fethiannau, o ystyried ei anfanteision a'i anhawsterau. Mor bell yr ydym wedi symud ymlaen er ei amser ef­æhanged yw'r gwahanfur rhwng Gramadeg 1803 a gwaith ysgolheigion fel Syr John Rhys, Syr Edward Anwyl a Syr John Morris-Jones! Fel y dywaid Mordaf, Ni buasai llafur a Uwyddiant yr Athro (Morris-Jones) yn nechrau'r ganrif hon yn beth tebygol oni bai am lafur a llwyddiant y Doethawr yn nechrau'r ganrif o'r blaen." Rhywun ar ei ol ef. Mewn llythyr at Wallter Mechain, dywed- odd Dr. Pughe na honnai fod yn awdurdod ar y Gymraeg, ond breuddwydiai y codai rhywun ar ei ôl i ddatrys yr hyn oedd yn ddyryswch iddo ef. Ni pherthyn imi gyfryngu rhwng yr hen ysgol a'r newydd, ond bodlonaf ar farn yr Athro Henry Lewis. Cyfeiria at y niwaid a gafodd y Gymraeg ar law rhai o'i charedigion, ac yn eu plith Dr. Pughe fel un fu yn ceisio'i phuro a'i chywiro yn ôl ffasiynau ei ddydd ond ychwanega'r Athro Cymwynaswyr oeddynt oU, yn ôl y goleuni a rodded iddynt. Erbyn heddiw mae gennym fwy o oleuni nag a roed iddynt hwy, ac iddynt hwy i raddau yr ydym yn ddyledus am beth o'r goleuni hwnnw. Gallwn fwrw golwg ehangach lawer ar yr iaith nag oedd yn bosibl iddynt hwy." Orgraff a chystrawen. Bu'r aflonyddwch a achoswyd ynglyn ag awdl Dewi Wyn ar Elusengarwch yn Eisteddfod Dinbych yn 1819 mor wybyddus fel nad oes eisiau ail-adrodd, ond haeru fod coffa'r Doethawr yn sefyll ar seiliau ita gadarn i'w difodi gan ffromder cj'stadlo^ydjd siomedig fel Dewi Wyn, neu wawdiaith cyfaill siomedig fel Iolo Morgannwg. Na hyd yn oed gan ei gred hygoelus yn honiadau Johanna Southcote. Seilir ei goffa ar ei gymeriad bonheddig, ei ddiwylliant a nodweddion arbennig ei athrylith, a'r mwyaf o'r rhain oedd ei wlatgarwch. Ei gariad at ei iaith a'i genedl oedd sylfaen ei holl fywyd llenyddol a chym- deithasol. Chwiliodd am y gwirionedd yn ei ffordd ei hun. Dywedir yn Enwogion Cymru Er cymaint o sarhad ac enllib a roddid iddo, nid oedd neb mwy tangnefeddus, amynedd- gar, llariaidd a charedig."