Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Byd y Ddrama GOFYNNWYD i un o chwaraewyr mwyaf llwyddiannus y llwyfan, drwy ba fodd y chwaraeai olygfa gyffrous mor ysgubol o effeithiol. Ei hateb oedd Cofiaf," meddai, pan oeddwn yn chwarae'r olygfa hon am y tro cyntaf, i un o'r cynghorwyr gydio ynof braidd yn drwstan nes imi gwympo a tharo fy mhen. Chwarae- ais yr olygfa o'r galon, a hynny mewn hysterics gwyllt." Dyna dystiolaeth pob chwaraewr a enill- odd feistrolaeth ar ei grefft oni wna hyn, crefftwr peiriannol yn hytrach na chelfydd ydyw. Petai'r un cynhyrchydd yn ymweld â rhai o'n cwmniau, a tharo pen ambell un trwstan na fyn ddysgu'r egwyddor sylfaenol hon, a hynny yn bur galed, gwnâi gymwynas fawr â'r gelfyddyd chwarae yn ein gwlad. Tan ac angerdd. Portreiad o fywyd yw drama, ac oni roddir inni fywyd gyda'i dân a'i angerdd a'i natur- ioldeb, pa les ymdrafferthu â mil a mwy o fân driciau'r gelfyddyd ? Un o wendidau pennaf llawer o'n cwmnïau yw'r ynfydu yma ar driciau ar draul sylwedd. Siawns na ellid helpu i'w sgubo ymaith petai'r cwmniau bychain newydd yn ymatal rhag rhuthro i weld perfformiadau cwmnïau a wnaeth enw iddynt eu hunain, yna mynd ati i chwarae'r un ddrama gan eu hefelychu yn slafaidd- ceisio bathu cymeriad ar draul ei greu. Dichon y gall fod yn efelychu da, ond pwy, tybed, glywodd am gelfyddyd aU-law ? Rhoddwch imi eich UineUau," meddai'r gwir actiwr, a dangosaf innau fy ysbrydol- iaeth." Pwys y man-gymeriadau. Afraid dweud bod yn rhaid i'r holl chwarae- wyr feddu ar ysbrydoliaeth. Yr r ÿm yn llawer rhy hoff o ddewis drama fydd wrth fodd un o sêr y cwmni; ac am y lleill, pob hwyl iddynt fod yn fwnglerwyr bondigrybwyll. Eithr nod angen chwarae effeithiol yw cyd- bwysedd a chyd-chwarae. Yr ym yn llawer rhy ddibris o'r mân- gymeriadau sydd mor gwbl bwysig. Pe cymerid mwy o sylw ohonynt hwy, a sylwedd- oli bod eu cyd-chwarae yn annhraethol bwysicach na'r gwrhydri a gyflawnir gan yr unigolyn. dichon y cymerent hwythau, yn eu tro, eu crefft yn ddifrifach. I mi, dyma un o'r gwersi pwysicaf a ddysgwyd inni gan y Cwmni Cenedlaethol. Dyma hefyd dystiolaeth Mr. Bernard Shaw ar yr un cwestiwn Wnewch chwi. mo'r tro," meddai wrth lefnyn ieuanc, fedr y lleill ddim byw ar yr un llwyfan â chwi." Yr oedd hyn yn ergyd trwm i neb llai na Mr. Charles Laughton, efaUai, ond gallwn fel cenedl fyfyrio uwchben doethineb Shaw a dysgu wrtho. Anhepgorion y Llwyfan YSBRYDOLIAETH a CHELFYDDYD Gan T.O. Phillips Maesteg, Morgannwg Wedi i'n cwmnïau feistroli elfennau syl- faenol chwarae, dylent roi mwy o sylw i fanion, sy'n hanfodol i gwplau lledrith y chwarae, ac i roi graen ar y cwbl. Cyn hyn. fe welais rai yn marw mor drwstan ar y llwyfan, fel nad oedd yn edifar gennyf o gwbl i'r diwedd ddyfod. Oblegid eu trwstan- eiddiwch, fe droesant ddrama brudd yn ddrama ddychan. Mater i'r cynhyrchydd yw gofalu am y manion, ac y mae cynh}Tchwyr da yn brin iawn gennym. Ceisied ein cwmniau gael gwasanaeth y cynhyrchydd gorau, oherwydd ef yw'r gŵr pwysicaf. Yn wir, y mae cyn- hyrchydd da, — gŵr o ddeall a dychymyg, gŵr a chanddo ymwybod celfydd-yn llawer pwysicach i lwyddiant drama nag yw'r chwaraewr mwyaf ysbrydoledig. Hyd nes y megir to o gynhyrchwyr sylweddol, nid oes obaith gweld gwella syfrdanol yn safon cwmnïau gwledig yn y dyfodol agos. Gwareded synnwyr cyffredin ni rhag dilyn ffasiwn y cwmniau hynny fydd yn ymddiried y gwaith holl bwysig hwn i aelodau'r cwmni yn eu tro. Cynhyrchwyr o safon yw gobaith y dyfodol, a siawns na all y Chwaraedy Genedl- aethol fod yn foddion i feithrin to teilwng inni. Os gwnânt hyn, fe rônt hwb ymlaen i'r gelfyddyd fonheddig. Cangen o gelfyddyd. Pwy bynnag a fyn draethu ar weithgarwch llenyddol chwarter cyntaf y ganrif hon, rhaid fydd iddo roi Ue amlwg i'r newid a ddaeth dros safon ein chwarae drama ac i'r newid cymesur yn ein hymddygiad fel cenedl at y gangen hon o gelfyddyd. Nid anghofiwn ymddygiad ein tadau at y ddrama, a'u syniad rhyfedd bod llawr y chwaraedyhebfodfawrgweUnaUawr uffern, ac mai'r ffordd i gyrraedd yr olaf oedd ar hyd y blaenaf. Yn wir, daeth Cymru Ymneilltuol i sylweddoli erbyn hyn mai peth diniwaid hollol yw'r ddrama, a bod eu rhagfarn wedi ei seilio ar resymau oedd yn fwy Ymneilltuol nag oeddynt o Gristnogol. 0 fwrw golwg ar y gweithgarwch a'r brwdfrydedd heddiw o blaid y ddrama, y mae gennym achos i ymlawenhau. Yn wir, nid oes nemor Fethel diarffordd erbyn hyn heb ei gwmni gwledig, na thref o bwys, nad yw'n mynnu, ac yn llwyddo, hefyd, i roi bri ar safon chwarae drama. Llwyddant, cofier. yn wyneb Uu o anawsterau, a'r pennaf. efallai, yw diffyg safon ein dramâu cenedl- aethol, ynghyda'r ffaith na chawsom ddrama fawr i roddi ysgytiad i'n brwdfrydedd, ac ysgogiad i'n dawn ddramatig. Y chwarae'n well na'r ddrama. Canlyniad hyn yw bod chwarae ein cwmnïau gorau yn uwch na safon ein dramâu, oherwydd prawf hanes gwledydd eraill fod prinder dramâu yn esgor ar chwiw am chwarae, a'r chwiw am chwarae, yn ei dro, yn esgor ar gynhyrchu gwych. Ac oni lwyddodd ein brwdfrydedd, hyd yn llyn, i ddeffroi dychymyg ein dramawyr, fe fu'n gyfrwng i roddi bod i Chwaraedy Cenedl- aethol Cymraeg-rhywbeth a ddaeth heb fawr utganu o'i flaen. Yn wir, ym myd celfyddyd, digwydd y bydd pethau. Er bod ein chwarae cyfoes wedi gwella uwchlaw pob dirnadaeth, a'i fod yn uwch nag y bu erioed, awgrymaf iddo gyrraedd ei binacl oni waredir ni rhag rhai pethau sy'n llesteirio twf y gelfyddyd. Dwy safon feirniadu. Y mae gennym ddwy safon wrth feirn- iadu-safon i feirniadu dramâu a chwaraeir yn neuadd y Dref neu mewn Cystadleuaeth, a safon arall, heb fod yn agos mor llym, wrth feirniadu dramâu 'r Festri. Ond un safon yn unig sydd wrth feirniadu drama. Braidd yn hwyrfrydig yw ein mân- gwmnÏau i sylweddoli mai cangen o gelfyddyd yw chwarae drama. ac mai peth peryglus yw chwarae â drama. Nid yw cyrraedd perffeithrwydd mor ddamweiniol ag y myn rhai iddo fod. Nid wyf am fod yn llawdrwm, nac yn bersonol, er bod gan y sawl fo'n ymdrin â pheth sydd mor bersonol â drama, berffaith hawl i fod felly. Haerir ein bod yn genedl o actwyr. Y mae'n hollol ddilys inni gael ein cynysgaeddu yn bur helaeth â chrau-ddefnydd actio ond y mae actio cyflawn yn cynnwys mwy, ac yn gofyn am ymroddiad llwyr a diarbed i dechneg, a thra araf ydym i dderbyn y gwirionedd hwn. Tri dosbarth cwmniau. Pa fath ar chwarae a geir gan ein cwmnÏau ? Ceir chwarae syml a dirodres mewn festri- oedd gan gwmnîau distadl a fyn chwarae dramâu un-act yn bennaf, a hvnny heb falio rhyw lawer am grefft. l'r cwmnîau hyn yr heigia ein hadroddwyr Am yr adroddwyr- gochelwch rhag gorbwysleisio eu gwerth. Ceir chwarae mwy anturus gan gwmniau capeli eto — cwmnîau a fyn chwarae clramâu digrif yn bennaf a rhaid canmol eu synnwyr cyffredin am ddewis y dramâu hynny, oherwydd ychydig iawn iawn o'r actwyr gorau a ddaeth yn feistri ar ddrama brudd. Fel rheol, ceir ganddynt chwarae dihitio 0 ddrama hwylus er mwvn boddio chw'&eth v (I dudalen 120.)