Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

NEGES GWYL DDEWI At y Cymry ar Wasgar. ER eieh bod ymhell o Walia wen, gwyddom na all pellter ffordd nac amser oeri dim ar eich cariad tuag ati, na phylu dim ar eich diddordeb ynddi. Yn wir, credwn fod y pellter yn angerddoli eich serch ac mai atgofion am eich gwlad a'ch cenedl yw pennaf swyn eich bywyd. Gwyddom fod eich calon yng Nghymru a Chymru yn eich calon, ac nad yw'r hiraeth a deimlwch am yr hen gylchoedd ond sicrwydd o'ch anwyldeb tuag ati, ym mha le bynnag y preswylioch. Fel arfer, ar fin Dygẇyl Dewi, enfyn aelodau Undeb Cenedlaethol y Cymdeithasau Cymraeg ei neges a'i chofion tirion atoch. Byddwch bur i Gymru fad trwy gymeriad aruchel a gwasanaeth teilwng, trwy fawrhau ei hanes, ei thraddodiadau, ei gwyr a'i gwragedd hyglod, ei llên gyfoethog a delfrydau gogoneddus, trwy ffydd ddiffuant yn ei dyfodol a thrwy gariad i'w dyrchafu gerbron cenhedloedd eraill, trwy siarad ei hiaith ac addoli y Duw a fu'n nawdd a nerth iddì trwy gyfnodau rhyfedd ei hynt hyd yn awr. Cofiweh eiriau Elfed. Credwch i ni dderbyn ein cenhadaeth gan Dduw ac mai wrth fod yn ffyddlon i'n eenhadaeth y cyfrannwn ein cynhysgaeth orau i fywyd y cyfanfyd. Llifa ein serch atoch dros dir a môr. Llawenychwn yn eich llwydd ac erfyniwn fendith arnoch. Ymroddwch gyda ni i sicrhau ffyniant a heddwch y byd, ac i gadamhau'r dolennau aur hynny sydd yn ffurfio brawdoliaeth dyn ym mhobman. Edrychwn ymlaen am gael cwrdd â llu ohonoch yng nghwrdd aduno Cymry'r byd yn yr Wyl yng Nghaemarfon. MEIRIONA, Gohebydd y Cymry ar Wasgar, Aberffraw, Món. WILLIAM GEORGE, Llywydd. JAMES CLEMENT, Trysorydd. D. ARTHEN EVANS, Ysgrifennydd. Darlledir gwasanaeth Cymry Llundain o Eglwys Gadeiriol Pawl Sant ar wylnos Gwyl Ddewi. Pregethir gan y Parch. J. R. Roberts, rheithor Llan- fihangel yng Ngwynfe, Maldwyn, a chenir yn y côr gan ganorion o Bontardawe a Threorci. Gwahoddir pob enwad. Cinio yn yr Hôtel Métropole fydd gan y Cymmrodorion, Leeds. Llywydda Dr. Terry Thomas a gwahoddir Mr. J. H. Jones (Je-Aitsch). Mr. Gordon MacDonald, A.S., fydd gwr gwadd Cymry Nottingham yng Nghinio Gwyl Ddewi eleni. Bydd einio gan Gymdeithas y Ford Gron, Manchester, a'r Athro R. T. Jenkins, Bangor, yn cael ei wadd. Yng nghinio Gwyl Ddewi Birmingham fe anerchir gan Mr. Rhys J. Davies. Bydd cinio gan Gymdeithas y Mabinogion, Rhydychen, a'r Athro J. Eryl Owen Jones (Gonville a Caius) yn llywydd. Cyngerdd, yn cynnwys drama fer, dawnsio, a chanu gyda'r tannau, fydd gan blant Bootle, Lerpwl. Yn cymryd rhan bydd y Parch. D. S. Davies, Cadeirydd Owain Llyfnwy, arweinydd Mr. E. T. Roberts, Miss Kitty Hughes (Telynores Môn), Miss Gwladys Davies (Piano), a Mr. E. M. Davies (Cerddorfa). YN "Y FORD GRON" y mis nesaf bydd ysgrifau ar GWAED CYMREIG CROMWELL. Gan SYR ARTEMUS JONES, K.C. EISTEDDFOD GENEDLAETHOL 1936. Gan JOHN T. JOB. CELFYDDYD CYMRU. Gan ISAAC J. WILLIAMS. CONGL HOLI AC ATEB. Os oes gennych holiad i'w wneuthur mewn hanes neu wyddor, anfonwch i'w ateb yn y gongl hon. BRETHYNNAU GWISG HORROCHSES Y mae hanes ffasiynau'r tymor hwn wedi'i argraffu ar gotwm. Ai wisgoedd haf, cotiau chwarae a siwiiau mordaith fe edmygwch COSSAC, brethyn diweddar newydd HORROCKSES, a ddangosir yn y darlun. Y mae iddo we cynfas anturus ac fe'i cewch mewn pob math o brintiau difyr i fyny a'r oes. At flowsiau a gwisgoedd "mân," defnyddiwch GOLONA Horrockses, sef pique wedi'i brin- lio. Ai y wisg arbennig honno dewiswch ORGANDIE newydd hyfryd Horrockses, wedi'i argraffu'n hardd ar gefndir gwyn crych hunan-batrwm. Ai ddillad i'r gwyliau ac ar y traeth gwnewch nodiad o pique siribiog llon Horrockses a elwir yn SPORTSCORD. Hefyd, NUCOLAINE, coiwm esmwyth ar batrwm llawen blodau neu ffurfiau geometrig. Nid yw'r rhain ond ychydig o'r llu breihynnau gwisg newydd a wneir gan Horrockses gofynnwch i'ch dilledydd ddangos ei gyfres i chwi. HORROCICSES, CSEWDSON CO, LTD., 107 PICCADILLT, MANCHESTER