Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

I* CYMRU 0 BEN CARN FADRYN Gan Morgan Humphreys Llywydd Cymrodorion Bae Colwyn YR wyf wedi edrych ar Garn Fadryn filoedd o weithiau o lawer cyfeiriad, ar lawr gwlad ac o'r môr, ond ni fíim erioed ar ei phen hyd yn ddiweddar. Er gorfod chwysu cryn dipyn wrth droedio mannau anhygyrch a dilwybr, tâl yr olygfa ar èi chanfed wedi cyrraedd y gopa. Syndod bod cymaint o wlad yn weledig oddi yma, ar ddiwrnod clir. Hawdd y gellir galw'r Garn yn Frenhines Llýn. Am wlad Llyn, lled anwastad ydyw, ac ni fedd ar fryniau mawrion ychwaith. Y mae tir Llyn yn doreithiog a chynhyrchiol iawn, a medd ar ffermydd bychain a mawrion. Gwelir Llyn yn gryno o'r Eifl i Enlli. Wrth edrych i gyfeiriad Bae Ceredigion tua'r de, gwelir mynyddoedd Meirion ac i lawr i fryniau Ceredigion hyd at Benfro. Ynysoedd Gwylan yn gwylio. Trown eto i'r gogledd a'r gogledd ddwyrain, a gwelwn fynyddoedd Wicklow yn Iwerddon a'r Wyddfa a mynyddoedd eraill Eryri. Ar hyd glan y môr yn y cyfeiriad hwn gwelwn Borth Dinllaen. Morfa Nefyn, Edeyrn, Nefyn, Pistyll, a Nant Gwrtheyrn. I fyny i gyfeiriad Caernarfon, wrth gwrs, gwelwn Fôn mam Cymru­ hyfrydwch pob rhyw frodir," ys dywaid Goronwy Owain. Dacw hefyd gwmwd Eifionydd yn gyfan i gwm Pennant; a chwm Ystradllyn i lawr i Benmorfa. I'r de orllewin gwelwn Ynys Enlli. Ag edrych i'r tir--y tir mawr," fel y dywaid pobl Enlli-dacw bentre Aber- daron mewn cilfach glyd ar lan y môr yng nghysgod Uwchmynydd ac ynysoedd Gwylan, fel ceidwaid yn gwylio'r agorfa o'r môr. Hynafiaeth Aberdaron. Y mae i Aberdaron ei hynafiaethau. Yn y Cwrt y byddoi Llys Cyfreithiol Llŷn yn yr hen amser. Y Secar — y mae gwahsnol farnau am ystyr yr enw hwn. Dywaid rhai mai llygríad o'r gair exchequer ydyw, ac eraill, mai yma y trigai secretary of law y cwrt. Methlan eto, dyma drigfan un o'r gweinidogion yn amser Charles II; a Phlas Bodwrdda fu'n drigfod Huw Bodwrdda, gŴT mawr yn ei ddydd. Bu Trefgraig hefyd yn lIe o urddas mawr gynt. Am Flawty Llanfaelrhys, dywaid chwedl yn amser prinder ymborth, i un Rhys o'r Deheubarth ddyfod â llongaid o flawd a glanio yng nghyffiniau Daron a chymryd ystordy yn y gymdogaeth i gadw a gwerthu blawd. Wrth weled cymdogaeth eang heb dý i addoli Duw, fe gysegrodd y mael yn wirfodd i adeiladu llan fechan yno, ac fe'i galwyd yn Llan-fael Rhys. Ymgolli ym Mhenfro. Dilynwn yr arfordir i'r dehau heibio i Borth Uffern, Porth Neigwl, a'r trwyn acw sy'n ymestyn i'r môr — Pen Cilan-Porth Caered, Ynysoedd Tudwal a thraeth Aber- soch a Llanbedrog, ymlaen am draeth Pwllheli, at y pwynt main a elwir yn drwyn Penychain, am Gricieth a Phorthmadog. Yr ochor draw i'r dwr i dueddau Meirion dacw Forfa Harlech, Talsarnau, ac i lawr mor bell â'r Borth, Aberystwyth a'r Ceinewydd nes yr ymgollwn ym Mhenfro. A chymryd yr holl wlad a welir o ben y Garn yma, mor bell â'r Bermo beth bynnag, gellir dweud nad oes unrhyw ran o Gyrnsu wedi cynhyrchu cynifer o feirdd a llenorion, a safai yn rheng flaenaf eu dawn a'u gallu â'r rhan hon. Dyna William Llýn, awdur "Llyfryddiaeth y Cymry," Siôn Llvn, Morus Daron, Morus Dwyfach, Pedrog, yn Llyn. Bro Siarl Marc a William llyn. Ym Mryncroes y bu Siarl Marc, a Ieuan Llyn yn byw. Yr oedd Ieuan yn wyr i Siarl. Gyda llaw, Siarl Marc a ganodd yr emyn adnabyddus hwnnw, Daeth inni Iachawdwriaeth drwy eithaf chwvs a gwaed." Efô a benodwyd gan Hywel Harris yn arolygwr Eglwysi'r Methodistiaid yn Sir Gaernarfon ac i anfon adroddiad i'r Sasiwn am ystâd yr achos yn yr Eglwysi yn y cyfnod hwnnw. Yn nes atom eto, dyma ardal a phentre Llaniestyn. Yn y fro hon y bu Robert Jones, Rhoslan, yn byw. Efô yw awdur Drych yr Amseroedd," a Grawnsypiau Canaan." Ymdrechodd y gwr hwn lawer dros addysg Cymru yn amser yr anwybodaeth fwyaf. Yn nes i'r môr, ychydig i'r dde, gwelwn ardal Botwnog a'i phentre sydd yn enwog am ei hysgol Ramadeg, lJe yr addysgwyd amryw o Gymry adnabyddus, yn eu plith yr Esgob Evans, Bangor, Esgob Owen, Tδ Ddewi, Owen Owen, Prif Arolygydd Ysgol- ion Cymru, a'r Canon Cambrensis Williams. Eglwys heb dai. I'r chwith eto o'r ardal yma dacw Nant Nanhoron a'r coed, a'r plas yn y coed, aneddle Lloyd Edwards, Yswain, un o dir- feddianwyr mwyaf Llýn, a disgynnydd o Robert Edwards, yr Ymneilltuwr a ddi- oddefodd lawer o erlid oherwydd ei gysylltiad ag Ymneilltuaeth. Ar ochr Nant Nanhoron gwelwn eglwys heb dai yn agos ati, yn sefyll fel beudy mewn ffridd, a dim ond mur ei mynwent o'i chylch ei henw yw Llan- fihangell Bachellaeth. Trown eto fwy i'r un cyfeiriad, daw ardal a phentre Rhydydafdy i'r golwg, bro sydd yn enwog yn hanes crefydd, am mai yno y pregethwyd gyntaf gan Hywel Harris yn Ll\n. Gyda llaw. y mae'r garreg y tra- ddododd Harris ei bregeth gyntaf oddi arni yn y rhan hon o'r wlad wedi'i gosod yn ddiogel o flaen Capel Rhydyclafdy. Y bregeth hon fu'n foddion i wneud Llŷn yn foesol ac yn ddarllengar. Edrych i fae Caernarfon. Edrychwn yn awr i gyfeiriad yr Eifi, neu'r Aflau, a bae Caernarfon, er cael trem ar ardaloedd cylchynnol y Garn, cyn mynd ymhellach oddi wrth ei godre. a gwelir oddi tanom hen blasdy Madryn, cartref un oedd yn ei ddydd yn anwylddyn Sir Gaernarfon, sef y Capten Love Jones-Parry. Heddiw, y mae'r lIe yn eiddo Cyngor Sir Gaernarfon, i hyfforddi merched a meibion mewn gwahanol orchwylion ynglyn ag amaethyddiaeth a garddwriaeth. (I dudalen 117.)