Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Stori Yr Hen Oruchwyliaeth-Parhad. 'Dydi hi ddim wedi dwad i hynny, chwaith," ebe Isaac, fel petai'n ysu am wrthwynebiad o rywle, a Mari mor dawedog. Y NOSON honno, wedi gostwng y llenni coch dros ffenestr y siop, tynnodd yr hen fachgen sypyn o filiau o'r gornel, a dechreu- odd gymryd cyfrif o'i stôr er gweld sut yr oedd ef a Mari'n sefyll. Nid oedd pethau mor obeithiol ag y mynnai un rhan o'i feddwl dybio. Yr oedd ochr y Dyledus bron, bron gorbwyso ochr y Mewn llaw." A gwaethaf y modd, y cyfoeth mewn llaw oedd yr esgidiau nad oedd ar fawr neb eu heisiau. Hwyr y bu ef a Mari cyn mynd i'r gwely y noson honno. Yn y bore, cyn agor y siop, aeth Isaac i weld William y Saer. Post ? ebe William. Sut bost, dwad Wel, wyddost ti,post i ddangos y ffordd. Wyt ti'n gweld, William, mae pobol yn holi'n dragywydd ar hyd y Ffrynt yna sut i gael gafael ar y siop acw a dylid bod rhywbeth i'w rhoi ar ben ffordd. Mi gaf ganiatâd y Cyngor, wrth gwrs." AC felly y bu. Rhoddwyd bys o bren gwyn ar ben un o'r strydoedd a arweiniai o Heol y Môr ag enw Isaac Jones arno, ac awgrym i'r sawl a'i gwelai i ddilyn cyfeiriad y bys pren. Wedi iddi dywyllu'n drwm un noson, aeth Isaac a Mari, fraich-ym-mraich. i fyny tua Heol y Môr i weld y post pren. Daethant o fewn hanner can troedfedd iddo, ond fel petai'r un meddwl i'r ddau, arhosodd eu camre yn y fan honno. Plygodd y ddau eu pennau a throi'n ôl. Breuddwydiai Isaac y nos am y bys pren, a'i weld yn pwyntio i fyw ei lygaid ef. Deffrôi vn chwys domen, a throi at Mari am gysur ei hwyneb crych-welw yng ngolau'r lleuad. Am y bys pren, chymerodd neb sylw Yr oedd trigolion Llanedeyrn newydd yn gwybod y ffordd i siop Isaac er eu babandod a phetai'r ymwelwyr am brynu esgidiau yn y lle o gwbl, yr oedd siop Marks ar y ffrynt. Y )!AE dynion i gael sydd fel cudyllod y diffeithwch. Y mae iddynt yr amynedd hwnnw a gyfyd o hir wanc Arhosant i weld teneuo'r corff a suddo'r gruddiau. Ymdawelant tra gweitbio'r an- obaith ar ysbryd y prae. Yna, pan orweddo'r truan yn ei nych, heb ynni i fynd gam ymlaen, syrthiant arno a'i ddifetha. Ni ddaeth yr Iddew yn ôl i siop Isaac am fisoedd lawer. Gadawodd i'r hen grydd deneuo ac anobeithio. Un bore gwlyb o ddechrau Hydref, daeth y gnoc drom ar y cownter. Aeth rhyw gryndod dros gorff Mari tra phenliniai i lanhau'r lle tân. Edrychodd ar Isaac gyda thosturi anobeithiol. Ceisiodd ei gŴT yntau osgoi ei llygaid di-asbri. Ymsythodd gymaint ag y gallai a phesychu'n bwysig ond crynai ei ddwylo fel dail gwelw ar freichiau'r gadair. Cododd ar ei draed; a chyda phob ym- ddangosiad o brysurdeb, aeth drwodd i'r siop. Pwysai'r Iddew mawr ar y cownter, a'r sigâr yng nghornel ei safn yn taeru ei natur anorchfygol. Edrychodd Isaac arno tan ei aeliau am eiliad, gan geisio ymddangos fel petai'n methu ei gofio. Ond nid oedd gellwair â'r Iddew y tro hwn. Gwyliasai ef Isaac ers misoedd, a gwybod ei helynt bron cystal â'r hen ŵr ei hun. O'R diwedd, agorwyd drws yr ystafell gefn iddo, a throediodd mab Abram ar fat Mari fel gŵr yn mynd i'w etifeddiaeth. Dihangodd yr hen wraig i'r gegin fach ac yno, â'i gruddiau'n llosgi a'i chlust yn dynn wrth dwll y clo yr arhosodd hi hyd ei fynd. Ychydig o'r Saesneg a ddeallai lîi — llai nag Isaac hyd yn oed. Ond amgyffredodd ei chalon ddymchwel byd yr hen wr a hithau. Ymhen hir a hwyr, aeth yr Iddew allan i Stryd y Mynydd yn fwy dyn nag y cerddodd i mewn. Gadawyd Isaac yn yr ystafell gefn, a'i lygaid yn syllu i'r simnai, a Mari yn gwibio Anhepgorion y I cyhoedd cymrodeddu hollol ofnadwy i gelfyddiaid fod yn euog ohono, oblegid na wyr y cyhoedd, at ei gilydd, beth sy'n wych na pheth sy'n gyffredin. Un o ddylet- swyddau pennaf y llwyfan yw gwella'r chwaeth boblogaidd ac nid cymrodeddu ag ef. Carwn alw'r cwmnïau gorau o ddiffyg enw gwell, yn Gwmnîau'r Gystadleuaeth Chwarae Drama. Er eu godidoced, ac y maent llawn cystal â chwmnïau gwirfodd Lloegr, nid lles i gyd yw'r cwmnïau hyn i fudiad y ddrama, oblegid credaf nad yw rhestr o wobrau, a'r rheini wedi eu casglu wrth deithio Cymru benbaladr, yn chwarae'r un ddrama, yn braw diymwad bod ganddynt ymwybod dramatig cyflawn, yn fwy nag y byddaf yn barod i gyd- nabod yr un a enillodd wobr am adrodd yn y Genedlaethol fel arch-adroddwr Cymru. Pa faint bynnag o feirniadu fydd arnynt,- a bydd digon yn barod i'w rhempicr-fe roes y cwmnîau hyn fri ar safon a gwnaethant fwy drwy ddangos odidoced gwaith y gellir ei gyflawni wrth ymroi yn ddiarbed i grefft. Am eu dylanwad ar gwmniau llai eu gwr- hydri, profasant fod yn rhaid cerdded cyn dechrau rhedeg, a bod chwarae glân a gorffenedig yn rhywbeth y rhaid ymboeni ynglyn ag ef, ond sydd yn bosibl, hyd yn oed mewn gwlad â chyn lleied o ymwybod o'r chwaraedy â'r eiddom ni. Profasant hefyd fod actio cynhyrfus a byw yn bwysicach nag offer llwyfan a gwisgoedd Uiwgar. Gallai'r cwmnïau hyn fod o wasanaeth mwy i fudiad y ddrama ped aberthent hunan-ddyrchafiad, weithiau, a mynnu gwasanaethu'r cwmniau sy'n brentis- iaid hollol o'u cymharu â hwy, rhag i'r ysfa gystadlu fynd yn drech na'u cariad at gelfyddyd. Bu cynnydd mawr hefyd yn chwarae'r cwmnïau llai profiadol, cwmniau a fyn fod byd o wahaniaeth rhwng eu cyfleusterau hwy a'r dosbarth gorau, er mai'r un mewn gwir- o'i gylch gan gymryd arni nad oedd dim wedi digwydd. Yn hwyr iawn, aeth y ddau i fyny tua'r môr fraich-ym-mraich heb ddweud gair wrth ei gilydd. Yr oedd bwyell fach yng nghesail Isaac. Safodd Mari gerllaw tra tharawai ei gŵr wrth fôn y post pren. Cymerodd yn hir, hir iddo wneud y gwaith. Yr oedd ei law a'i gefn yn llesteirio'i ymdrechion. Cludodd y ddau y post fel arch rhyngddynt drwy'r heolydd distaw i lawr Stryd y Myn- ydd, i mewn drwy ddrws y siop i'r gegin, Ue 'roedd tanllwyth glo yn ei ddisgwyl. YCHYDIG o arian yr Iddew oedd ar ôl wedi talu'r biliau. Ychydig ryfeddol Mae'n hen bryd i mi riteirio," meddai Isaac wrth William y Saer a Thomas Hughes y g!°- Ydi, ydi," meddai'r hen gyfeillion, gan syllu ar wisg*}lwydaidd Isaac, a rhyw led- wincio ar ei gilydd. Yn y rhan honno o Lanedeyrn a elwir Y Clwt y bu Isaac a Mari fyw ar ôl riteirio. Pobl hen ffasiwn, glên, ar eu gorau'n treio byw, sydd yn trigo yn y fan honno. lwyfan Parhad ionedd yw egwyddorion chwarae drama. Prentisiaid o gwmnïau yw'r rhain, ac nid yw hyn yn sarhad o gwbl, oherwydd bod yn rhaid i bob celfydd fod yn brentis rywbryd. Chwaraeant o gariad gwirfodd at y gwaith ac nid bob amser y bydd gwasanaeth cariad yn dda i gyd. Barnaf y cefnogir fy nadl gan y ffaith bod y cwmniau hyn yn barod iawn i chwarae comediau sy'n llawn o feddalwch, a mynnu aros gyda'r cyfryw a chofier y gall chwarae drama ddisafon gyflawni difrod mawr. Ond y maent yn bur wrthnysig i ymgymryd â llwyfannu Drama-boed brudd-ddrama dda, neu ddrama farddonol neu ddrama gyfnod megis Hywel Harris neu Hywel 0 Went — dramâu sy'n gofyn am lafur, dycnwch a diwydrwydd i'w llwyfannu'n effeithiol. Cais dosbarth arall chwarae dramâu mwy uchelgeisiol, a mynd i fyd o drafferth ynglŷn â phethau megis dodrefnu llwyfan a'i oleuo, gwisgoedd a golygfeydd a chyda llaw, y maent yn bur hylaw gyda'r gwaith, ond ni bydd eu chwarae yn gyflawn, nac yn torri marc ar y galon. Gwell o'r hanner fuasai iddynt efelychu China yn hytrach na Ffrainc, ac aberthu pob addurn a dangos mai'r actio sy'n holl-bwysig. Rhaid cydnabod i chwaraewyr China sylweddoli mai enaid y ddrama sy'n hanfodol bwysig. A beth bynnag all barn y Chineaid fod am ddysgeidiaeth y Testament Newydd, y maent yn hollol barod i dderbyn gwirionedd yr adnod Onid yw'r corff yn fwy na'r dillad," o'i gymhwyso at chwarae drama. Gwyn fyd na sylweddolai pob cwmni yng Nghymru y gwirionedd pwysig hwn, oher- wydd dau anhepgor chwarae effeithiol yw actwyr ysbrydoledig byw-pobl a fyn actio yn hytrach nag ymddwyn ar y llwyfan- a'r rheini yn hyddysg yn nechneg y llwyfan. [Oyda chyẁtyniad y B.B.C.]