Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y LLYFRAU DIWEDDARAF O WASG HUGHES A'I FAB ER CLOD SAITH BENNOD AR HANES METHODISTIAETH YNG NGHYMRU. DAN OLYGIAETH THOMAS RICHARDS, M.A., D.Litt. TEYRNGED I NERTHOEDD MAWRION AC ARHOSOL Y DIWYGIAD METHODISTAIDD. 176 tt. Byrddau, 3S. 6d.; Lliain Ystwyth, 2s. 6d. Llyfr campus drwyddo yw'r llyfr y fath wledd amheuthun sy'n aros darllenwyr y llyfr, a'r fath fwnglawdd o ffeithiau newyddion ydyw." _r Parch. E. Tegla Davies, M.A., yn Yr Efrydydd. Cefais flas mawr ar ddarllen Er Clod, y mae hanes yr arloeswyr hyn gystal ag ychwanegu llyfr at y Testament Newydd Llwyddodd y Pum Hanesydd i osod ysbryd y dyddiau gynt yn y Saith Bennod,' ac nid oer mo allor Trefeca a llawer lle arall chwaith." — Y Parch. Tom Beynon, yn Y Cymro. Wele bump o'n haneswyr wedi cyhoeddi Er Clod, y mae enwi'r awduron yn ddigon o ernes o waith safonol. Heblaw eu bod yn hyddysg yn eu materion, meddant ddawn i ysgrif- ennu yn fyw a diddorol nes teimlir bod y digwyddiadau megis ar waith ar hyn o bryd. Ac yn sicr cawsant weledigaeth ar ysgrifennu darn o hanes Methodistiaid Cymru mewn ffordd newydd." — Y Tyst. Cyfrol nodedig yw hon drwyddi." — Gwili, yn y News-Chronicle. Y LLWYBR ARIAN A SAITH O STORIAU ERAILL. Gan E. TEGLA DAVIES, M.A. Lliain, 2s. 6d. The title story is a characteristic fantasy, beautifully written. There is excellent reading in the other s'tories. Weindio'r Cloc, in particular, is a very simple and very effective picture of rural life." — Liverpool Post. CYFRINACH YR AFON Gan STEPHEN OWEN TUDOR, M.A. Y STORI GYFFROUS FUDDUGOL YN EISTEDDFOD GENEDLAETHOL FRENHINOL CYMRU, WRECSAM, 1933. Lliain, 2s. 6d. Yn ddiddadl, dyma'r stori ddetectif orau a gawsom yn Gymraeg, a gellir ei chymharu â chynnyrch gorau'r Saeson yn y math hwn o lenyddiaeth. Bydd darllen helaeth ar y stori hon."— Y Brython. Ar werth gan lyfrwerthwyr ym mhobman HUGHES A'I FAB, WRECSAM