Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYFROL V, RHIF 8 MEHEFIN 1935 JUNE Yn y Rhifyn Hwn: YNG NGHYMRU HEDDIW (D. Llewelyn Walters) CYFANSODDI LLUNIAU LLAFAR (J. Ellis Williams) CHWILIO AM HARLECH Y MABINOGION (Timothy Lewis) ANRHYDEDD Y BRODYR DAVIES BRYAN A. Lewis) CAERGYBI'R MEINI A'R CAPELAU SANT (J. H. Roberts) CYMRO A'R BRIFEGLWYS OTHIG FWYA (T. Wynn Thomas) I'R FFYNHONNAU ELENI (Mattie Rees) CYFOETH EIN CELFYDDYDAU CAIN (D. Arthen Evans) GALL POBUN WELLA AR EI GYMRAEG (W. H. Harris) DEHONGLI MAEN MADOG (W. D. Morgan) A'r holl atyniadau arferol Misolyn Mwyaf Poblogaidd Cymru a'r Cymry drwy'r Byd i Gyd PRIS 6D I SICRHAU iechyd cadarn ac egni cyforiog bob tymor, gwnewch Ovaltine yn ddiodfwyd dyddiol i chwi. Yn yr haf y mae'n arbennig werthfawr oherwydd y Hunia, mewn ffurf ddwysedig, y maeth sy'n ddiffygiol mewn bwydydd haf ysgafn. Cofiwch nad oes raid arlwyo OvaItine yn boeth. Fe wna lymaid o r mwyaf hyfryd ac adnewyddol pan arlwyer ef yn oer — ac y mae ei werth maeth goruchaf yn union yr un fath. Y mae 'Ovaitine' yn faeth iechydol hollol. wedi'i baratoi'n wyddonol o rinoedd uchaf brag haidd, llaeth ac wyau. Y mae'n cynnwys pob elfen faeth sy'n eisiau at adeilio addasrwydd corff perffaith ac at gynnal egni cyforiog. ÖVALTINE yn Boeth neu'n Oer Prisiau ym Mhrydain a Gogledd Iwerddon, 1/1, 1/10 a 3/3. P 54a Arlwyir yn awr ymhob Caffe a Bwyty.