Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYFROL V. RHIF 8. MEHEFIX, 1935. YFORDGRON GWASG Y DYWYSOGAETH, WRECSAM. TeUffôn Wrecsam 622. London Agmey Thanet House, 231-2 Strand. Tanysgriflad Chwe mis, 3s. 6d. Blwyddyn, 76. Ymgymreiéio NID heb dir cadarn dan ei draed y cynigiodd y Parchedig Ellis Aethwy Jones, mewn cwrdd cyn- rychiolwyr o'i enwad ym Maes- hafn, sir y Fflint, ganol y mis, bod gofyn ar i bob ymgeisydd am y weinidog- aeth basio arholiad mewn Cymraeg, cyfartal i arholiad canol Prifysgol Cymru cyn ei dderbyn i'r coleg, fel y ceffid traddodi dar- lithiau yno yn Gymraeg. Y mae safle'r iaith yn peri anhwylustod ers llawer dydd i'r rhai a addysgir ar gyfair bywyd cyhoeddus yn y colegau hyfforddi. Gyda rhai eithriadau anrhydeddus, buont yn elfennau estron ym mywyd y genedl, yn ddiwerth i'w priod ddiben, sef cyfoethogi profiad a chymeriad yr efrydwyr. Rhodd- wyd mwy o bwys ar farn gyfnewidiol yr athrawon a mympwy disgyblion unigol nag ar les y mwyafrif ac egwyddor a thraddod- iad a phwrpas y sefydliadau. Da gennym y cydwelwyd â'r cynigiad ac y'i gosodir gerbron llysoedd eraill am ystyr- iaeth bellach. Y mae'n amlwg bod ein cyrff crefyddol yn cydsymud â'r genedl tuag at ymgymreigio. Cyn bo hir fe ystyrrir dar- lithiau Saesneg mewn coleg hyfforddi mor wrthun â beirniadaethau awdlau yn yr iaith honno. Dwyrain yn Newid YMAE'R dwyrain yn newid. Mewn noswaith megis fe ddadwreiddir arfer- ion fu am filoedd o flynyddoedd mewn grym. Etholir merched i'r senedd yn Angora drwy gjTnorth pleidleisiau merched. Diweddar- wyd iaith Twrci a darogenir yr un peth i lun- lythrennau China a Japan. Diflannodd fez Twrci a gorchudd merched o Fahomedan- iaid ni welir mwy gynffyn gwallt y Sineaid na thraed rhwymedig y Sineësau. Arwydd o egni a grym yw cyfnewidiadau ynddynt eu hunain, ac nid oes le i neb ofidio amdanynt yn y rhan fwyaf o wledydd y dwyrain. Oddi mewn y mae'r atrefnu i gyd. Ond Ue bo'r rhod yn troi oherwydd gor- fodaeth pwerau oddi allan nid oes dichon na chollir mwy nag a enillir. Bethir bywyd newydd unffurf ac anniddorol ac erddo fe aberthir naws gwerthfawr a hynafol yr hen. "Y bobl i ddysgu'r bobl," meddai'r Parch. Thomas Charles wrth gynllunio'r Ysgol Sul. Yr un gyfrinach mewn cylch arall piau hi yn y dwyrain. Eisiau Llyfrgell GWEITHRED dda yn ei phryd oedd eiddo'r Dr. H. Idris Bell ac awdur- dodau Amgueddfa Brydain yn trefnu arddangosfa yn Llundain ar achlysur chwe- chanmlwyddiant y prifardd Dafydd ap Gwilym. Gobeithio y ceir arddangosiadau tebyg bob amser y bydd dathliad Cymreig o bwys ar dro. Byddai adran fenthyg llyfrau Cymraeg yn Llundain o fwy o fudd na hyd yn oed arddangosfeydd achlysurol. Yng Nghymru fe werir symiau aruthr gan awdurdodau'r trefi i ddarpar detholiad o lyfrau at alwad Saeson a Saisgarwyr. Ar yr egwyddor hon dylai bod o leiaf un ganolfan i ugeiniau o filoedd Cymry Llundain gael hyd i gynhyrchion diweddaraf, a chynharaf, gwasg eu gwlad. Er bod yn yr Amgueddfa stôr fawr o lyfrau Cymraeg," meddai trefnydd yr ar- ddangosfa, ni chaiff neb eu cymryd i maes o'r adeilad ac er bod llyfrgell Gymraeg gyda'r Cymmrodorion yn Chancery Lane, dim ond yr ychydig a wyr amdani. Byddai Llyfrgell Gymraeg yn Llundain yn hynod ddefnyddiol." Y Peth Rhyfeddaf HEB ei fai heb ei eni mewn Cymraeg llafar heddiw," meddai Arthan yn ei anerchiad ar gymysgu'r iaith, a gyhoeddir yn y rhifyn hwn o'r Ford GRON. Yn ymgyrch ddilesg ein Cymreigwyr dros buro'r iaith, calondid yn ddiau yw canfod bod celfyddiaid o ysgrifenwyr y dydd gan mwyaf yn gadarn o'r unfarn â hwy. Gwir bod cwmni cymysgryw lled niferus o ysgrifenwyr yn gweld yn dda fritho'u cynhyrchion â geiriau estron sydd cyn amled yn ddiystyr ag ydynt hyll i lygad a chlust. Meddai'r Dr. T. H. Parry-Williams Iaith yw'r peth rhyfeddaf yn y byd nid drwy dynnu lluniau na thrwy gerddoriaeth y daeth dyn yn wâr, ond drwy greu iddo'i hun iaith. Offeryn gwyrthiol a thra defnyddiol ydyw. Gwnaeth pregethwyr y cenedlaethau sydd wedi'n gadael lawer i gadw purdeb iaith bob dydd. Dilynodd caboliad dyn iaith, ac y mae'n rhaid wrth ddisgyblu cyson i gadw arucheledd, dygnwch a phurdeb mewn iaith lafar ac ysgrifen. Sicr yw bod ein iaith wedi'i hamgylchynnu gymaint gan ei gelynion nes grymuso llawer ar y ddadl i gau'r drws yn gwbl ar bob newydd-ddyfodiaid ac i droi at gyfuniadau o wreiddeiriau priod yn eu Ue. Y Wers Olaf A\VYR arweinwyr y gwledydd mawr eu meddyliau eu hunain ynglýn â heddwch rhwng y cenhedloedd ? Os e, pam y mae eu llaw aswy mor aml fel pe bai'n dadwneuthur yr hyn a wna eu deheu- law ? Dywedodd Herr Hitler ar ei anerchiad diweddaraf nad yw'r Almaen yn fodlon arwyddo'r un cytundeb na ellir mo'i gadw. Ac ar yr un anadl haera fod eisiau diwygio cytundebau o dro i dro. Yr un wythnos fe ymddengys Mussolini fel crafangwr eiddo brodorion yr Affrig, deis- yfwr tiroedd y diallu, heriwr pob rhyw lywodraeth oddi allan a gyfodo fys cyhuddol ati. Drannoeth, yn tynnu'i eiriau'n ôl. Bron nad euthum yn llythrennol sâl," meddai yntau, Mr. Baldwin, yr un wythnos eto, wrth feddwl bod fy nghyfeillion a minnau yn treulio'n hamser i ystyried pa fodd y gellir symud cyrff maluriedig plant i'r ysbytai a chadw nwyon gwenwynig rhag mynd i lawr gyddfau'r bobl. Credaf y gall bod cyfle inni yn awr ar yr unfed awr ar ddeg l ‘ ‘ Eto gadewir yn ddisylw addewid unben yr Almaen i gyd-ddiarfogi, a threblir Uu awyr Prydain mewn dwy flynedd. Efallai mai un o wledydd bychain y byd a amlyga gyfrinach cydoddefgarwch parhaol a chynhyddol i lywodraethau'r byd. Pwy wyr nad y wlad a ddysg y wers olaf a mwyaf hon i ddynolryw fydd Cymru fach, y wlad, chwedl Renan, a wrthsafodd bob gor- esgyniad. Gwnaeth Iwerddon eisoes gyf- raniad sylweddol at y traddodiad heddwch.