Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gwelwch Ny-ni, meddai Cywion y Ddylluan LLYTHYRAU SYTH O'R SWYDDFA J. E. Roberts, Ysw., (Ap HeU), Lerpwl. ANNWYL Ap Heli, — Fy mhrofiad i fel beirniad yw bod nifer fawr o rieni yn awyddus i ddysgu Cymraeg i'w plant yng nglannau Merswy. Y mae gen i ddigon o brawf bod Cymraeg yn mynd ar gynnyddyno." Dyna'ch geiriau calonogol wrth feirniadu arholiadau llafar y plant yn eisteddfod flyn- yddol adran o Ysgolion Sul Cymraeg Lerpwl. A bod safle'r iaith mor rhagorol, achos llawenydd yw y cyhoeddir hynny fel y clywo'r bobl, ac nid cuddio'r ffeithiau dan orchudd digalondid. Hyd yn oed pe na bai'r safle cystal, gwell meddyleg fyddai edrych ar yr ochr olau i bethau. Drwy hynny fe ddeuid ryw dro i gyrraedd tir a ddymuner. SYR LAWNSLOD. Y Ford Gron. Mr. A. Duff-Cooper, A.S., Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys, Uundain. SYR,—Enghraifft o gannoedd a miloedd o achosion tebyg oedd Cymro fu'n dweud ei gwyn wrthym ynglŷn â'r driniaeth a dder- byniodd gan swyddogion y dreth enillion. Aeth yng nghyntaf i adran y prisio, er mwyn cael cywiro amryw bwyntiau oedd yn amryfus yn ei daflen. 0 blith y degau swyddogion yn y swyddfa honno yng Nghymru, ni chaed un a'i deallai efyn ei iaith ei hun. Aeth wedyn i'r adran gasglu. Nid oedd neb yno ychwaith a ynganai na bwm na be wrtho yn Gymraeg. Pe buasai'r gŵr hwn yn Sais ac yn mynd i swyddfa drethu yn Lloegr, naturiol fuasai iddo ddisgwyl cael ei ddeall gan swyddogion y'u cynorthwyai ef i gadw mewn swydd. Chwychwi, Syr, yw'r gŵr a all weddnewid y safle yn hyn o beth. Ond i chwi roi cyson- deb a rheswm cyffredin ar waith, gan drin Cymru fel gwlad ac nid fel talaith o Loegr, ni bydd y gorchwyl ond syml. SYR LAWNSLOD. Y Ford Gron. Y Uywydd, Pwyllgor Llyfrgelloedd y Dref, Merthyr TydfiL Syr, — Wrth hysbysebu am lyfrgellydd new- ydd i'r dref, dywaid eich pwyllgor y rhoddir y flaenoriaeth i Gymro os yw'r cymwysterau eraill yn gyfartal. Methem ddeall pa gymwysterau a all fod yn bwysicach na'r gallu i arwain ymofynwyr ieuainc a hen i borfeydd gorau llên eu gwlad. Os yw cyfartaledd darllenwyr Cymraeg yn fach mewn rhai lleoedd, eto dylid cofio bod y dyfodol, yn ôl pob arwydd, yn eiddo iaith a diwylliant y tir. SYR LAWNSLOD. Y Ford Gron. W. E. D. Jones, Ysw., Trefnydd Amaeth Sir Benfro, Hwlffordd. ANNWYL MR. Jones, — Buoch yn cynorthwyo sefydlu diwydiant newydd yn eich sir, a da y gwnaethoch. Y sir acw sy'n ymwthio bellaf i Fôr Iwerydd o holl siroedd Prydain a hi yw'r agosaf i'r Amerig ohonynt i gyd. Mewn man sy mor ddeheuol ac mor ynysaidd daw'r gwanwyn yn llawer cynt nag yn y gweddill o'r wlad a phan fo pobman arall dan eira ceir llecynnau gwyrdd ym Mhenfro. Pan benderfynodd nifer o amaethwyr o'r cylch gymryd mantais ar liniarwch yr hinsawdd i gynhyrchu mwy na'u rhaid o lysiau cynnar, yn arbennig o gloron-cododd un amaethwr, gydag aradr ddwygwys ar- bennig, dros 150 o dunelli o gloron eleni­ rhoesoch bob cymorth iddynt i gynllunio pa fodd orau i farchnata'r cnydau. Dyma ddatblygiad a all fod o gryn fantais nid i'r gwerthwyr yn unig, ond i'r prynwyr hefyd. SYR LAWNSLOD. Y Ford Gron.