Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yng Nghymru Heddiw T mae dwy elfen yn ein diwylliant, un Gymraeg ac un Saesneg, 0 T mae dau fath ar Gymro, un gyda thraddodiad ac un didraddodiad. 0 Y mae ysbryd adeni yn dadebru'r bobl. Gan D. Llewelyn Walters YNG Nghymru heddiw y mae rhyw ysbryd adeni, rhyw ymdeimlad newydd o fywyd cenedlaethol. Efallai bod llawer Sais neu Gymro Seisnig nad yw'n gwybod amdano, ond y mae'n dadebru'r Cymro sy'n cymryd diddordeb," ac yn fwy na hynny, yn meddwl. Y mae'r adeni hwn i'w ganfod, yn bennaf oll, yn ein llenyddiaeth, a chan y cynhyrchir rhan helaeth o'r Uenyddiaeth hon gan ddyn- ion sydd yng nghanol y symudiadau a'r cynhyrfiadau sydd wedi ennyn yr adeni, y mae'r llenyddiaeth hithau yn cynnwys yr agweddau bron i gyd. Gwelwn yn elfen amlycaf i'n Uenyddiaeth y meddwl hwnnw sydd rhaid ei ddatblygu cyn y gellir gobeithio achub rhywfaint ar ddiwylliant Cymreig, sef didwylledd, ac wynebu ffeithiau fel y maent yn hytrach nag fel yr hoffai'r llenor eu gweld. Cydnabyddiaeth o'r pethau y sydd yw'r cam cyntaf tuag at adeiladu unrhyw gym- deithas. Er bod barn pawb ohonom wedi ei liwio gan ddylanwadau anodd eu hesbonio, os cuddir y pethau a'r amgylchiadau sy'n bod gan orchudd rhagfarn a chasineb ni fydd ond difrod yn dilyn. Traddodiad yn sylfaen. Y mae'r hyn ydym hefyd wedi'i sylfaenu ar y traddodiad sydd y tu cefn i ni, sef yr hyn oeddym. Siaredir llawer am orffennol Cymru, mai hi yw Gwlad y Gân, Gwlad y Menyg Gwynion, a Gwlad y Deffroadau. Pa faint bynnag o wir sydd yn yr honiadau Gŵyl Ddewi yma, dylem wybod am yr amser fu drosom ein hunain, gwybod am ein gorffennol fel Cymry ac nid fel rhan o Loegr. Y mae rhai yn meddwl mai teimlad- eiddiwch noeth yw hyn ac nad oes wahan- iaeth bod y Cymry wedi eu llyncu gan y bywyd Seisnig. Bod gwahaniaeth a bod y gwahaniaeth yn werth ei gadw, ni a'i gwelwn drwy dystiolaeth meddyleg. Dywaid y meddylegwyr fod yng Nghymru heddiw ddau fath ar ddyn-y dyn â thra- ddodiad y tu cefn iddo a'r dyn di-draddodiad. Yr amaethwr cefn gwlad a'r glowr. Nid yw'r glowr, druan, yn teimlo'i bod yn werth byw, nad yw'n werth ymdrechu i fyw. Teimla nad oes dim y tu cefn iddo. Urddas yr Amaethwr. Ond y mae'r amaethwr yntau â rhyw fath o urddas nad yw'n dibynnu ar amgylchiadau gwaith a masnach. Y mae ganddo rywbeth i roddi asgwrn cefn iddo. Y mae wedi'i wreiddio yn nhraddodiadau priod ei wlad, heb yn wybod iddo, efallai, ond nid yn llai sicr oherwydd hynny,tra mai dibynnu ar draddod- iad newydd yr oes weithfaol a wna'r glowr. Ategir hyn gan dystiolaeth Esgob Llanelwy yn Nhv'r Cyffredin beth amser yn ôl. Y mae hen gymdeithas nodweddiadol ardaloedd Morgannwg a Mynwy," meddai, yn gwywo o'r gwreiddyn i fyny. Yr oedd- ynt wedi cynhyrchu teip na ddylid ei golli." Gan fod y bobl yn ddi-waith, ac nad oes fywyd cymdeithasol i'w cryfhau, y maent yn dirywio o ran corff, meddwl ac ysbryd, yn suro rhag popeth ac yn suddo i anobaith. Celfyddyd anrhanadwy byw. Wedi gwybod am ein sefyllfa yn awr ac am ein gwreiddiau yn yr amser fu, y mae un peth eto'n eisiau i gyfannu bywyd ac i roddi amcan sylweddol iddo. Y mae celfyddyd byw," ebe L. P. Jacks, yn un ac yn anrhanadwy." Nid wedi'i wneud o rannau mân, megis y gallu i chwarae, i lunio barddoniaeth ac i gyfansoddi cerdd- oriaeth. Cynnwys dyn y rhain gyda'i gilydd. Pwy ä'n Harwain i PFèll GanFEDDYG. Iechyd RHAID cyfaddef, yng nghanol yr ugein- fed ganrif, fod yn ein plith fwy nag sydd raid o annwyd a phesychu, o gur a phoen, o gryd cymalau a chloffni, o bryder a diffyg cwsg yn sicr y mae rhai afiechydon babanod a phlant, a phobl ieuainc a hen, yn gyfryw ag y gallwn eu hosgoi. Fe ddylai Cymru fod yn wlad iach. Y mae Natur yn dda wrthi caiff heulwen yr haf, a gwynt yr hydref caiff oerni'r gaeaf a glaw y gwanwyn, i gyd yn gymhedrol. Bob borau y deuant o'r newydd," ein hawelon, ein dyfroedd, a'n llysiau. Prin y gall unrhyw Gymro orfoleddu mewn llawenydd am ei fod yn grefyddol ac yn ddiwylliedig, os bydd ei gorff yng ngafael rhyw afiechyd blin. Yr ydym fel cenedl yn grefyddol ein hysbryd fe gysegrir llawer o ddoniau, o amser, ac o dda gennym i gadw'n traddod- iadau crefyddol yn fyw a graenus nid oes Nid A wyf yn chwarae'n dda," neu A wyf yn cyfansoddi'n campus ? a ddylai ofyn, ond gan roddi amcan i'w waith, A wyf yn gwneuthur fy ngorau ? Cynnyrch gorau cenedl yw ei diwylliant. Yn niwylliant Cymru heddiw y mae dwy elfen yn milwrio yn erbyn ei gilydd beunydd ­yr elfen Gymraeg a rhyw adlewych o'r diwylliant Saesneg. Y mae'n bywyd wedi ei hollti'n ddwy, a theimlwn o lywio'n cwch rhag un graig yr awn yn deilchion ar y llall. Y mae'n bywyd wedi'i rannu yn ei erbyn ei hun. Yr ydym fel y dyn sydd yn gofyn, A wyf yn chwarae'n dda ? "A wyf yn cyfansoddi'n dda ? yn Ue A ydym yn gwneuthur ein gorau ? Ni ellir cyfrodeddu. A ydym yn perffeithio'r diwyUiant Cym- raeg, neu a ydym yn perffeithio'r diwylliant Saesneg ? Y mae'r allwedd i'r dyrysbwnc yn eglur-ni ellir cyfrodeddu rhyngddynt, mor hanfodol wahanol yw'r ddau ddiwylliant fel mai cyfrodedd arwynebol fyddai'r ymgais. Paham na ellir cymhwyso'r diwylliant Seisnig i ni ? ebe rhai. Ceisir gwneuthur hynny er amser Harri'r VII, ond nid yw iau diwylliant Seisnig yn eistedd yn esmwyth ar ysgwyddau Cymry. Nid oes achos mynd yn ôl i safonau a syniadau oes Harri, ond dylid meithrin a datblygu'r ymdeimlad ein bod, nid yn genedl well nag un genedl arall, ond ein bod yn genedl. Oni wneir hynny, damcaniaeth fydd diwylliant Cymru. ardal drwy ein gwlad heb ei theml, na theml heb ei ffyddloniaid. Y mae ein diddordeb fel cenedl mewn addysg a diwylliant yn eglur i'r byd dengys hanes ein hysgol Sul a'n hysgol bob dydd, ein colegau a'n prifysgol, mor barod i aberthu er eu mwyn yw'r Cymro. Ond y mae ocheneidiau filoedd heddiw yn esgyn o ddyfnder calon ein cydgenedl sy'n gorwedd mewn cystudd a gwaeledd yma a thraw dros ein tair sair ar ddeg. 0 froydd dedwydd a hyfryd ynys Afallon, Ue pery pob calon yn heiny a llon," y mae ysbryd Arthur yn dyheu am weld Cymru Iach yn iachach. Ymuna ysbryd Dewi Sant yn y dyhead. Ymuna hefyd ysbryd pob Cymro fu farw cyn ei amser, pob Cymro fu 'n dihoeni mewn poen ac anhwylder, pob Cymro na allodd fwynhau ei yrfa mewn byd o amser. Oes rhywun a dywys Cymru i Well Iechyd ?