Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cerdded Môn i chwilio am "ELV henwau lleoedd ydyw'r unig dystion sydd gennym o lawer pennod o'n hanes." Er hynny llygrir hwy bob dydd gan fesurwyr tir y Llywodraeth a chan y miloedd mân swyddogion uniaith sy'n Ilanw'r wlad a neb ond ambell offeiriad a sucanicyr llygat- coch rhyngom a'r diliw hum." YMFFROSTIA'R Monwyson mai Môn yw mam Cymru, a gwelais fod Môn am gadw gŵj'l i goffa ei hanes eleni- a da yw'r naill a'r llall. Edrych arni fel Uysfam wnaethant ac nid fel mam er hynny, a gadael dros gof rai o'r pethau gwychaf yn ei hanes. Nid wyf yn anghofio mai hi oedd un o'r siroedd cyntaf i gael cyfrol ar ei hen hanes. Cyhoeddodd Henry Rowlands, Llanidan, ei Mona Antiçua yn 1723, ac yr oedd hynny dri chwarter canrif a mwy o flaen Mynwy, Coxe a Brycheiniog, Theophilus Jones a Cheredigion, Meyrick a Phenfro, Fenton. Y mae'n wir mai glaswenu a wna'r Mon- wyson heddiw wrth sôn am Mona Rowlands, oherwydd nid ydyw'n siarad yn iaith yr ysgolion. eithr pe cawsid dim ond un o'i fath bob hanner canrif i gasglu hen ysgrifau a choffa hen greiriau buasai Môn yn fam i Gymru mewn ystyr newydd. Cerdded Sir Fon. Yn haf 1933 yr oeddwn i yn cerdded Sir Fôn i chwilio drosof fy hun am rai pethau oedd yn ddirgel imi a'r Monwyson heb sylwi arnynt. Safwn un tro sr ganol y ffordd rhwng llys y sir a thý Dr. Edwards, gerllaw gorsaf y Valley," a gwelwn ŵr ieuanc serchog gerllaw. Dechreuais ei holi ynghylch rhai pethau yn y Valley," ac meddai Duw, Duw, does neb o Gymry sir Fôn yn gwybod na malio dim am ei hanes." Enwais dri neu bedwar o wŷr amlwg ynglŷn â Chymdeithas Hynafiaethau'r Sir, ond yn ofer, ac meddai Dyna i chwi fynydd Caergybi acw­ pwy 'ddyliech chwi alwodd hwn-na yn Holyhead ? Addefais na wyddwn i. Na wyddoch 'n debyg," meddai. "Wel, yr oedd yna Sais o'r enw George Borrows yma tua 1550, a phan welodd adfeilion pump neu chwech o eglwysi yno, galwodd y lle yn Holyhead, a dyna ydyw byth." Aroswch chwi," meddwn, ond tua 1850 y bu Borrow yna," ond nid oedd dim yn tycio — ef a wyddai orau. Gweld Gwr bonheddig tyluaidd. Drannoeth yr oeddwn mewn rhan arall o'r ynys mewn lIe go unig, ond lle llawn o adfeilion. Gwelwn ŵr boneddig tyluaidd yn eistedd gerllaw. Yr oedd cnap mawr o aur heb ei goethi yn ei gadach gwddf, a golwg fel gŵr o wlad bell arno. Er hynny cyferchais ef yn Gymraeg. 0, Cymro ydach chi," meddai. Dowch yma i eistedd inni gael sgwrs. Yr oeddwn i'n meddwl mai un o'r Saeson hollwybodol yna oeddych chwi. Y mae 'nhw yn gwybod pob un dim a llawer mwy na hynny, a mi fydd pobl y wlad yma yn deud pob math Gan TIMOTHY LEWIS o druth wrthyn hw." Teithiasai'r gŵr bed- ryfannoedd byd a rhoddodd â'i ddwylo imi yn ddibrin o'r hyn a wyddai am hen drysorau Môn. Y Survey ar daith. Daeth y pethau hyn yn ôl imi fel cawod wrth glywed Brigadier Winterbotham ar y di-wifr y nos o'r blaen yn sôn pa fodd yr oedd ei weision ef yn llunio mapiau'r llywodr- aeth. Meddai'r gŵr yn Saesneg Efallai eich bod ehwi'n ymddiddori mewn enwau lleoedd. Os e chwi gewch yr enw ar bopeth wedi'i ddodi ar eich plan. Gwnaeth enwau Gaeleg a Chymraeg i'r arolygwyr grafu eu pennau yn lled aml, ond y maent hwythau, gan mwyaf, yn hynod gywir. Yr enwau yw'r rheini a arferir gan y bobl a rhaid wrth warant awdurdodau--ddim llai na thri- eu bod yn gywir. Gan amlaf yn y lle cyntaf bydd Arolygwyr a Mesurwyr Tir y Llywodr- aeth yn troi at glerigwyr. Dysgasom eu hystyriaid hwy yn awdurdodau ar a fu yn ogystal ag ar a fydd. Pan ddechreuodd ein mesuriad fe roddwyd inni'r gallu i ofyn gwas- anaeth yr hen bobl-ac i'w harwain oddi amgylch fesul dau. Tasg hirfaith ydoedd, ond yr ym ni yn bobl hynod resymol a byddai i ddadl wedi'i blasu'n iawn yn y tafarnau ddatrys y pwyntiau mwyaf cymhleth fel rheol. Yn ddiau dylai Mapiau Cymru fod yn gyfryw ag y gellid dibynnu yn rhesymol arnynt. Does neb yn dwyn enw Cymraeg ymhlith prif swyddogion yr Ordnance Suroey. 'Rwy'n cofio'r rhai oedd yn teithio Dyfed flynyddoedd yn ôl. Ysgotyn oedd y pen, a'r unig Gymro oedd y gŵr a gludai'r drybedd Ffydd y Brigadier. Yr oedd yno bum Offeiriad yn y cylch, ond y mae'n amheus gennyf os oedd yno neb yn gwybod llai o hanes Cymru na hwy. Yr oedd y sucanwyr yn brin yno ac yn fwy o gampwyr ar lunio straeon na darllen hen hanes-eithr y gwvr hyn ydyw awdurdodau'r Brigadier ar enwau lleoedd Cymru a'r Iwerddon, a gwelir uchod be ddywedir wrthynt. Eithr y mae gan y Brigadier ffydd ddisigl fod yr enwau'n gywir. Yr oedd Syr John Rhys yn nes i'w le pan ddywedodd yn 1892 am wyr y Mapiau yn sir Gaernarfon Y mae gwneuthurwyr mapiau yn mynnu defnyddio'u huch-wybod- aeth i wella ar enwau traddodiadol Cymru neu ddyfeisiau cyffelyb y baldorddwyr." Yn ddiau nid yr offeiriaid a'r llymeitwyr parablus ydyw'r awdurdodau terfynol ar enwau lleoedd. Gwyddai'r Suroey am ffordd arall pe mynasent ei dilyn. Yn yr Iwerddon y datblygwyd y dull newydd o wneud mapiau, ac un o'r Colby's, Ffynhonne, Dyffryn Teifi, a luniodd yr offer newydd, a thano ef y triniwyd hwy gyntaf. Wrth reswm, llunio mapiau ar gyfair codi trethi oedd yr amcan ar y dechrau. Ceir yr hanes gan Thomas Davis yn ei draethawd ar Irish Topography, a phwyllgor y Grand Jury Presentments yn 1815, oedd yn gwasgu am gael Survey newydd yno. Er hynny yr oedd gwyr llygadog yn Nulyn ar y pryd, a ffurfiwyd adran hanes- yddol i gangen y Surrey, ac mewn ystafell yn Charter Street, heb fod ymhell o'r Four Courts, y byddai Wakeman ac O'Donovan ac eraill yn cyfarfod, a George Petrie ath- rylithgar yn llyw arnynt. Yn hytrach na gadael i'r Saeson oedd o dan Colby ddibynnu ar sucanwyr ffraeth y cilfachau, yr oedd O'Donovan, O'Curry ac eraill yn mynd allan i'r priffyrdd a'r heb- ffyrdd ac yn chwilio pob cerpyn o ysgrif a allai daflu dim golau ar yr enwau. Ysgrif- ennent hanes cyflawn o'r cwbl yn gyson o ddydd i ddydd i Ddulyn, ac y mae cant a thair o gyfrolau trwchus o'u gwaith yn yr Academy yno. 200 0 lyfrau hanes. Dywedodd Thomas Davis o'r gadair mewn cyfarfod yn y Conciliation Hall, Dulyn, yn 1844, fod y gwyr hyn wedi ysgrifennu dau gant o lyfrau ar greiriau'r Iwerddon, dros dair mil 0 lyfrau enwau, dros fil o fapiau, a thros ddau gant a hanner o lyfrau ar hanes plwyfi. Y mae copi o'r gyfrol ar Offaly o'm blaen, ac mewn llythyr o Roscrea, Chwefror, 1838, dywaid O'Donovan Gorflennwn yfory. Mayo fydd yn nesaf. Ofnadwy Y mae fy iechyd yn isel iawn, a does gen i ddim amheuaeth na fydd i ymgyrch gaeaf eto roi pen ar fy hoedl, ond does gen i ddim awydd, gan fy mod wedi mynd cyn belled, i gael fy lladd nes y byddaf wedi archwilio pob hen Ie yn Iwerddon a'r chwedlau ynglŷn â hwynt. Yr wyf wedi teithio, er yr wyth o Fai diwethaf, ar draws yr holl wlad o Lough O'Gara i Garlow cylch pur eang, ond yr wyf wedi ysigo fy ngïau drwy ysgrifennu cymaint ac aros ar fy nhraed mor hwyr y nos. Gallaswn ysgoi hyn drwy beidio a gwneuthur cymaint; ond oni weithiaf i yn awr, ni allaf weithio ymhen ychydig flynydd- oedd, pan fyddaf yn druan hen heb na nerth nac egni. Cofier bod O'Donovan yn un o wvr mwyaf dewisol ei oes, ac ef a ddysgodd Wyddeleg i Whitley Stokes, eithr yr oedd yn cerdded ugain milltir ganol gaeaf yn hytrach na gwario swllt o arian y Survey oherwydd ei gariad at yr Iwerddon. Gwyddai O'Donovan yn dda am oraclau'r pentrefi, ond nid oedd at eu trugaredd fel Saeson uniaith, a dywaid am un Y mae gan yr hen Alich Ogilby reol eirdarddol ac y mae wedi penderfynu peidio byth â gwyro oddi wrthi; sef gwneuthur i enw pob treflan ddisgrifio'r gymdogaeth." Wrth reswm gwyddai yn dda y medrai gwyr felly dalu'r hen chwech am beidio â gwrando arnynt. Ni a allwn ddisgwyl,"