Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Harlech y Mabinogion meddai yn y gyfrol ar Fermanagh, ein cystwyo ac ni fydd i'n cywirdeb a'n cariad at y gwirionedd ein cadw ni, oherwydd gall beirniaid wawdio'r gwir a'r cywir yn ogystal â'r anwir a'r gau." Yn anffodus, dim ond un gyfrol o'r gwaith gwerthfawr hwn a gyhoeddwyd-y gyfrol ar Londonderry a phlwyf Templemore yn ei chylch. Yr oedd y British Association i gyfarfod yn Dulyn yn 1834, a bu'r Survey fel beili mewn ffair yn brysio i gael un gyfrol yn barod erbyn hynny, a bu canmol mawr ar y gwaith, a'r farn oedd Ei fod, mewn gwirionedd, y dernyn gorau o ymchwil i ddaearyddiaeth leol a gyhoeddwyd yn y Deyrnas," yn ôl Thomas Davis. Ysywaeth aeth y cwbl ar ôl hynny i'r us, er bod amryw wedi ennill gair da eu hoes wrth gyhoeddi darnau o'r llythyrau a rhoi eu henwau eu hunain wrthynt Chwilio am Harlech. Mynd i Sir Fôn a wnaethwn i gyntaf i chwilio am Harlech y Mabinogi. Yr oedd yn amlwg nad yn Ardudwy yr oedd yr Harlech honno, er bod y gair yn dweud hynny yn bendant. Pa reswm oedd glanio yn Aberalaw, gerllaw Caergybi, er mwyn mynd i Harlech Meirion ? Gwaeth na HORROCHSES Y mae plodiau i fwynhau iymor poblogaidd eio. Dewiswch y defnydd Horrockses deniadol h wn PITVSCa-at eich gwisgoedd bach haf, ai flowsiau, ac ai addurniadau llon ar ffrociau plaen teiliwr. Chwi ellwch ei gael mewn amryw batrymau eraill hefyd. At hwyrnosau haf paratowch i chwi wisg hyfryd ramantus o ORGANDIE newydd Horrockses gyda'i gynlluniau hudol ar gefndir hunan-batrwm gwyn. At ddilladau traeth a gwyliau chwi hoffwch piqué priniiedig HorrQckses-COLONa, hynod lon a ihelaid, a SPORTSCORD, mewn stribiau o liw llachar effeiihiol iawn gyda gwrthliwiau plaen ar ffurf coiiau ac addurniadau. Cymysgwch Colona plaen a'r Sporiscord hwn ai wisg-fordaith hardd. Ac os edrychwch yn orau mewn GINGHAM, teflwch olwg ar gyfres 1935 Horrockses lliwiau lledrithiol, pasielau clir hygar a gwawriau iywyll disglair. Rhed prisiau'r Defnyddiau hyfryd hyn o 1/- i 1/9 y llath. HORROCKSES CREWDSON & CO. LTD., 107, PICCADILLY, MÀNCHESTEI? hynny lawer-pa frenin a ddaethai o'r Iwerddon i Harlech yn llawn serch at Franwen a pharch i'w Brawd a'u gadael i ymlwybro am wythnos drwy'r trigain milltir o anialwch o Harlech i Aberffraw, ac yntau ei hun yn hwylio'n rhugl mewn ychydig oriau yno ? Gwyddwn i fod Harlech gerllaw Aber- alaw, ac ar ôl cerdded tywyn a morfa diau gennyf bellach mai Harlech Môn yw Harlech y Mabinogi. Mor wahanol Y mae Harlech Môn rhwng Aberalaw ac Aberffraw ac Aberalaw oedd y Ue mwyaf cyfleus iddo i lanio o'r Iwerddon neu i gymryd llong i'r Iwerddon ohono. Gallai Brân a Branwen gerdded o Harlech i Aber- ffraw i'r Uys yng nghynt nag y gallai Math- olwch a'i lynges fynd yno dros y môr — taith fach hyfryd ar lan y môr rhwng dwy cigarette. Heblaw hynny y mae'n amlwg mai yma y cynhaliwyd yr hen Dal-ebolion, ac onid yw Buarth y Person yn tystio hyd y dydd hwn fod gwyr Môn yn arfer cynnal eu twrnament a'u cymanfaoedd chwarae yno ? Eithr mor wahanol fuasai pethau pe dilynasai'r Survey yng Nghymru ddull y Gwyddyl, ac i minnau gael cyfrolau rywle tebyg i'r can cyfrol sydd yn Nulyn. Ar ôl i'r Wlad Rydd gael trefnu ei thy ei hun, trosglwyddwyd y mapiau i Phoenix Park, a gwnaed yr un fath yn Belfast. Os gwir a ddywedwyd wrthyf-methodd Belfast a danfonwyd y swyddfa Fapiau yn ôl i Southampton. Uygru'r Enwau. Ymdaflodd gwyr Dulyn at eu gwaith, er y darogan yn eu herbyn, a gwnaethant yn rhagorol iawn. Y mae'n amheus gennyf a gyhoeddwyd dim rhagorach o'i fath yn Ewrob yn ei amser na Christian Art in Ancient Ireland, Dr. A. Mahr, a Swyddfa'r Mapiau yn Phoenix Park a wnaeth hyn. Nid peth ar gyfair swyddogion toll a threth ydyw'r mapiau, ond pethau anhepgor ar gyfair gwybod hanes gwlad. a bydd tref- tadaeth y Cymro yn y niwl hyd nes y ceir trefn newydd ar bethau. Ni ddaw hynny tra fo Saeson yn fodlon ar air hen sucanwyr ac yn tystio ar goedd gwlad fod hynny'n ddigon da i Gymry. Yr enwau lleoedd hyn ydyw'r unig dystion sydd gennym o lawer pennod o'n hanes. Er hynny llygrir hwy bob dydd gan weision llywodraeth y Sais a'r miloedd o'r mân swyddogion uniaith sy'n llanw'r wlad, a neb ond ambell i offeiriad a sucanwyr llygatgoch rhyngom a'r dilyw hyn.