Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYMRO #> Brifeglwys Othig Fwyaf Eglwys Sant Ioan y Diwinydd, Efrog Newydd. Y МАЕ bellach 50 mlynedd er pan YME bellach 50 mlynedd Sant Ioan y Diwinydd, Efrog Newydd, oddi wrth gynlluniau'r Dr. R. A. Cram a phenseiri eraill ac yn ystod y rhan fwyaf o'r amser hwn, Cymro oedd un o'i phrif adeiladwyr, sef y diweddar Mr. Edward Bell. Ail fab ydoedd y prif adeiliwr i'r Capten Edward Bell, postfeistr Aberdyfi gynt. Bu'r Capten ei dad yn morio am flynydd- oedd ar hyd y byd cyn ei apwyntio yn gapten agerlong yr Elimbeth, o dan gwmni'r hen Cambrian Railway, ac am bedair blynedd y Capten a'i briod a rydiai'r afon Ddyfi o'r Ynys Las i Feirion, a gofalu am fywydau'r fforddolion a'r nwyddau, heb golli'r un bywyd na phwys." Oes euraid Aberdyfi oedd hon, pan groesai'r rheilffordd yr afon yn syth fel bwa saeth, o'r Borth dros yr hen afon Ddvfi, cyn bod sôn am Landyfi na'r Cyswllt. Helpu ei dad. Hannai Mrs. Bell o deulu hynafol Tal- garreg, Meirion, ac yr oedd yn gyfnither gyfan i'r adnabyddus Ddr. Egryn Jones, Melbourne, Awstralia, ac i'r diweddar Mr. Richard Jones, mcddyg anifeiliaid Tywyn. Rhedai gwaed gorau'r Alban yng ngwyth- iennau'r Capten Bell. Cafodd Edward y mab ei ysgol gyntaf yn yr Ysgol Frytanaidd, Aberdyfi. Bu'n helpu ei dad am ysbaid, yn y llythyrdy, ac un diwrnod, yn ddamweiniol, wrth fynd heibio i Eglwys Pedr Sant, Aberdyfi, sylwodd fod y naddwyr cerrig a'u meistr yn brysur yn adeiladu cangell newydd i'r llan Yn ddireidus, cafodd afael yn y morthwyl, a bu'n curo'r marmor, ond caru'r marmor a wnaeth, oherwydd i ffwrdd â fo adref a'r gennad i'w dad a'i fam mai naddwr cerrig a fynnai fod ar ôl hynny. Cafodd ei brentisio i'r pen naddwr a welodd yn y llan, sef Mr. Richard Davies, Tywyn. Yn Nhywyn, arferai fynychu yn gyson ysgol i ddysgu tynnu llun a bu'n Ilwyddiannus i fynd trwy'r arholiad Celf- yddyd a Gwyddor Cafodd Ie er gwell wedi hynny yng Nghaer, ac aeth oddi yno i Ben-ar-lag, i oruchwylio adeiladu'r llyfrgell er cof i Mr. Gladstone, ac wrth reswm daeth o dan swyn y teulu urddasol hwnnw. Glanio yn yr Amerig. Glaniodd yh ddiweddarach yn yr Amerig, lle'r oedd ei frawd hynaf William yn barod yn dal swydd bwysig yn Efrog Newydd. Dechreuodd ei gysylltiad â'r Brifeglwys ym Mehefin, 1912, pan arolygodd godi Capel Iago. Yn Hydref yr un flwyddyn codwyd y deondy, ac yn Nhachwedd, Ty'r Esgob; yr un mis, cychwynnwyd gwaith ar Gapel Mvrddin o Tours. Pan orffenner hi, hon fydd yr eglwys fwyaf yn y dull Gothig. Fe gyst tua thair miliwn o bunnau wedi'i chwpláu, ac y mae dros filiwn eisoes wedi eu gwario arni. Cyfraniad i bensaerniaeth. Fe wahoddwyd y Dr. Cram, o ganol prysurdeb cylchdro eang yn ninas Efrog Newydd i gwpláu cynllunio'r brifeglwys yn 1907. Dewisodd y dull Gothig o adeiladu eglwysi, a welir yng ngogledd Ffrainc,- Rheims, Amiens, Chartres, Rouen, Notre Dame (Paris). Ond ni bu iddo gopio'r Gan T. Wynn Thomas Fferyllfa Ddyfi, Aberdyfi enghreifftiau gwreiddiol ­nid oes un eng- hraifft arall o'r un patrwm ag eglwys Efrog Newydd­a gweithiodd ymlaen hyd yr awr hon yn perffeithio'i gynlluniau. Yn wir, bu mor Uwyddiannus a chyw- rain fel yr hawlir gan athrawon Americanaidd fod ei orchest yn rhagori ar v campweithiau canol oesol en hunain ac yn gyfraniad Mr. Edward Bdl. i olud pensaermaeth. Cynlluniwyd yr eglwys ar ffurf draddod- iadol y groes ac yn wynebu haul y dwyrain, arwydd o Atgyfodiad Crist. Uwchben corff yr eglwys ceir bwâu maen heirdd yn sbïo ar eu hadlewych yn y lloriau marmor. Cyfyd colofnau gwychion ymhen y corff, o amgylch yr Allor Uchel, a rhyngddynt ceir cerfddelwau o Grist a'r Patrieirch a'r Saint. Rhed saith o gapelau o'r Seintwar ag ym mhob un ffenestri lliw gorwych. Bydd dau dŵr yn y gorllewin a thwr uwch yn y canol yn ymddyrchafu 470 troedfedd i'r nen. Gofalodd Mr. Edward Bell am raddio'r adeilad yn 1914 a'r cloddio at y graig i sylfaenu'r Corff yn 1916. Yna bu'n edrych ar ôl adeiladu'r Fedyddfa, y Corff a'r Wyneb Gorllewin a gosod seiliau Croes y Gogledd. Pan ddatgysylltodd y ty o adeiladwyr a wasanaethai, dair blynedd yn ôl, cymerodd Mr. Bell arno waith anorffenedig y cwmni hwnnw, ac yn ddiweddarach rhoed iddo gymeriad pellach i gwpláu Croes y Gogledd. Felly gwelir bod ei gysylltiad ag adeilio'r brifeglwys yn ymestyn dros 23 blynedd. Rhagor nag adeiladydd." Yn ystod yr amser hwn," meddai coflyfrau'r brifeglwys amdano, fe roddodd ei orau i'r brifeglwys. Yr oedd ei allu a'i fedr yn eiddom ni i'r eithaf. Yr oedd yn rhagor nag adeiladydd, yr oedd yn gyfaill difri a llawenfryd i'r brifeglwys Bu farw Mr. Edward Bell ar y pumed dydd o fis Mawrth diwethaf, a mawr fu galar ei briod (Miss Winifred Williams o Borthmadog gynt), ei ferch Wenonah, sydd ar ei blwyddyn olaf yn y coleg, ei frawd a'i ddwy chwaer sydd yn yr hen gartref yn Aberdyfi ar ei ôl, yn ogystal â Uu yn y ddwy eglwys Gymraeg yn Efrog Newydd, a'i hadnabu hefyd fel celfydd mewn cerddor- iaeth, Uên a barddoniaeth Gymraeg. Buasai'n gyfrwng cael ei frawd ieuengaf David i ymuno ag ef yn Efrog Newydd, ac ef yn awr sy'n goruchwylio adeiladu prif eglwys Othig fwya'r byd.