Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Caergybi'r Meini a'r Capelau Sant Os dymuna neb weled golygfeydd rhamantus, creigiau ysgythrog, tonnau'n ymwylltio, neu os myn neb ymddiddori meu-n digonedd o olion hen hanes neu ynteu os cais ym- iachau dan driniaeth aweloti hyfryd a heulwen gynnes deued i Ynys Gybi. OGAERGYBI i Gaerdydd. o Lan- andras i Dyddewi," meddir, wrth sôn am hyd a lled Cymru. Heblaw bod vn ben terfyn y gogledd ac yn ddolen gydiol rhwng Prydain ac Iwerddon, y mae i dref Caergybi hynodrwydd mewn llawer cyfeiriad arall Nid anniddorol yw hen hanes sydd iddi. Ymestyn hwn ymhell yn ôl i niwl y bore, a chaiff yr hynafiaethydd faes cyfoethog i ymddiddori ynddo, yn y dref ei hun ac o'i chwmpas. Ychydig ffordd y tu allan gwelir clwstwr o Gytiau Gwyddelod nad oes olion perffeith- Y Mnr Rhufeinig a'r Eglwys. iach o'r math hwn yn yr holl wlad mewn cyfeiriad arall dacw Feini Hirion i ddvnodi beddrodau rhyw benaethiaid anhysbys mewn cyfnod annelwig, a cherllaw, ym Mhonciau Trewilmod (Tre William Wood) mae Gorsedd Gwlwm Ue dywedir gladdu Coluim (Columba) gan y Brythoniaid. Heb fod yn nepell hefyd saif cromlech ddwbl Trefignath sy'n perthyn i gyfnod bore iawn. Sylfaen Rufeinig i'r porthladd? Bu dadlau cryf yn ddiweddar dros y gred mai sylfaen Rufeinig sydd i'r porthladd a adnabuwyd yn ddiweddarach wrth yr enw Caergybi. Ni thâl bod yn rhy bendant ar hyn, oherwydd sigledig yw'r dystiolaeth. Ond pan ddeuwn ymlaen i'r chweched ganrif, gwelwn gilio peth o'r niwl rhoes Cristnogaeth ei throed i lawr ym mhob congl o'r sir, a'r sant enwocaf ymhlith seintiau Môn oedd Cybi, oblegid, y mae'n debyg, mai ei hanes ef yn unig sydd ar gof a chadw. Yr oedd ei ddylanwad ef a'i goleg yn fawr dros ranbarth eang, a chydnabyddid o'r Trefi Cymru- VIII Gan J. H. Roberts o Ysgol Ganol Cybi dechrau ei hawl ar y mân gapelau oedd yn britho Ynys Gybi, ac ar eglwysi plwyfi Bodedern, Llandrygarn a Bodwrog, a was- anaethid gan offeiriaid o St. Cybi mewn oes ar ôl hynny. Diau mai amledd y capelau a sefydlesid ynddi a barodd alw Ynys Gybi yn Ynys Santaidd (Holy Island). Ar Fynydd y Twr safai Capel Lochwyd, Capel Ulo yn Kings- land, Capel Gwyngenau a Chapel Ffraid yn Nhywyn y Capel (a gyfenwir Trearddur Bay yn y dyddiau ffasiynol hyn). Ymddengys mai santes o Wyddeles o'r enw Bridgit oedd St. Ffraid neu St. Bride yn Saesneg. Y saint a'r uchelwyr. Nid oedd seintiau'r chweched ganrif, er Uuosoced oeddynt ac er maint eu dylanwad, yn rhydd oddi wrth ymrafaelion yn erbyn uchelwyr traws ac ymhongar. Yr unben a fygylai yn erbyn Cybi Sant a'i gymrodyr oedd y pennaeth cadarn hwnnw, Maelgwn Gwynedd. Fel arfer, diweddai pob rhyw ffrwgwd o blaid yr eglwys, canys ganddi hi yr oedd y pen praffaf i'r ffon, a gorfu ar Faelgwn ymddwyn yn weddaidd tuag at y sant. Y gymwynas a wnaeth y pennaeth â Chybi er ennill ei ffafr oedd rhoddi y gaer, lle'r adeiladodd y sant ei eglwys, ac o'r adeg honno, Caergybi fu enw'r Ue. Nid newydd mo'r enw Holyhead chwaith, canys ceir crvbwyll am Holy Hede cyn gynhared â 1394. Fe dâl yn dda roddi darn o ddiwrnod i ayllu ar Eglwys Cybi, sef eglwys y plwy. Tybir yn gyffredin mai Caswallon Lawhir, yn y chweched ganrif, a adeiladodd wal y fynwent, a honno'n fynwent gron, ond nid yw haneswyr yn unfryd o lawer ynghylch ei hoedran nac ychwaith ei phwrpas. Yr eglwys hen. Ac er hyned yr eglwys, dywedir wrthym nad oes garreg o'r eglwys gyntefig yn aros ym muriau'r adeilad presennol. Ar hyd yr oesoedd bu'r un duedd ar waith, sef tynnu i lawr eglwysi, yn ogystal ag ysguboriau, a'u codi drachefn yn adeiladau mwy yn ôl y cyfle a'r moddion. Felly bu hanes yr eglwys hon, yr olaf o'r rhai a godwyd y tu fewn i'r gaer, ac adeilad- wyd y rhan fwyaf ohoni, fel y gwelir hi heddiw, rywdro yn y 16 ganrif. Yn 1658 y codwyd y twr anolygus sydd i'r eglwys, wedi i gorff yr adeilad gael ei orffen ar 61 cyfnod o syrthni a ddilynodd y Diwygiad Protestannaidd. Cain odiaeth yw'r cerflun marmor o waith Hamo Thornycroft, a osodwyd yn 1897. (I dudalen 188.)