Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

STORI FER GYFLAWN Yr Herwheliwr I NI, blant Llanarllwyn, yr oedd rhyw fath ar ramant rhyfedd yn perthyn i fywyd Bob Robets, neu fel y gelwid ef amlaf yn ei gefn, "Bob Talc." Ni chlybûm i erioed o b'le y daeth na phwy oedd ei deulu. 0 ran dim a wn i, ni feddai na pherthynas na thy. Bwyd a diod yn ogystal â'i nwyd a'i nod mewn bywyd ydoedd dal pysgod, cwningod a giâm a'r da pluog pendefigaidd diwethaf a nodwyd oedd ei ddewis lwydd. Er garwed yr olwg arno o ran ei ddyn oddi allan, curai calon dyner o dan y wasgod nafi, frest ddwbl a wisgai bob amser. Am ei wrhydri, ei ffraethineb, a'i ddiangfâu rhag marwolaeth onid ydynt yn ysgrifenedig hyd heddiw yn llyfr traddodiadau Llanarllwyn ? Gwyddai oddi ar brofiad am du fewn i garchar y sir. Yno y cafodd aml ginio Nadolig. Unwaith yn unig y bu achos ei garcharu am beryglu bywyd cipar, a'r tro hwnnw, eb efô wrthyf, y cwbl a wnes i â'r braddug cas oedd rhoi trochiad iddo fo." NEWYDD orffen talu'r bennyd am hynny yr oedd pan gyfarfûm i ag ef un bore o haf. Glaslanc oeddwn yn cerdded wrthyf fy hun i lawr ffordd serth y mynydd tua'r dref. Encyd o ffordd cyn ei gyrraedd, gwelwn yr herwheliwr yn dringo'n llafurus i'm cyfarfod. 'Wedi nghyrraedd, safodd i sychu'r chwvs ac meddai Aros di, fachgen, pwy wyt ti ? Debyg iawn. Onid ydw i'n adnabod dy deulu di erioed. Os byddi di hanner cystal â dy nain mi nei'r tro. Sut mae dy dad ? 0 b'le'r ydwi'n dwad ? O'r coleg debyg iawn. A tawn i byth o'r fan yma mae'r cnafon wedi fy llwgu fi'r tro yma. Mi fydd yn rhaid cael lot o giâm i ddwad â fi i'r lle'r oeddwn i. Welaist ti Wil Williams yn ddiweddar ? Ydi o'n edrych ar 61 Siw ? (daeargast yr herwheliwr oedd Siw). Ar ei derm ? Y lleban ganddo fo. Meddwi 'mae o er pan ydw i'n i gofio fo, ond rhyngot ti a finne, go wan ydi i ben o, ddeil o fawr FEL hyn yr ymgomiai'r potsiar yn ddi- ymatal, wedi gorfod bod ohono yn ddistaw cyhyd, yn y coleg, chwedl yntau. Gan mai â my-fi y cyfarfu gyntaf nid rhyfedd hyn, ac yntau'n arfer bod yn ymgomiwr doniol ar bob adeg. Dyn byr o gorff, llydan ei ysgwyddau ydoedd, a chyhyrau fe_"dur ganddo. Meddai ar wyneb llyfndew a chnwd o wallt crych caled ar ei wyneb yn ogystal ag ar ei ben. Yr oedd Bob Robets yn hoff gan bawb yn Llanarllwyn oddieithr y cipar, y plismon a'r person, a chlywais y llechai ym mynwes un o'r tri wyr hyn fath ar edmygedd ohono. Os digwyddai i'r cipar ei anghofio'i hun a brolio" ar y mwya ei dda pluog a'u diogelwch, yn y "Cross Guns," byddai'n debyg iawn o gael colled go fawr cyn diwedd y tymor hwnnw. DIGWYDDODD hynny unwaith. Aeth mor bell â rhoi her i'r herwheliwr i wneud ei waetha, y gwnâi ef yr Ysgotyn o'r gore â Bob a'i griw. Cyn diwedd y tymor daeth cerbyd o dref ddeuddeng milltir i ffwrdd. Tref enwog yr adeg honno am y nyth o herwhelwyr a oedd ynddi, a dis- gynnodd pedwar o wýr arfog profiadol ar gwrr y coed tan lenni'r nos. Yr oedd yr ymgyrch wedi'i threfnu ymlaen llaw yn ofalus, a gair wedi cyrraedd i law'r Ysgotyn mai mantais i'w iechyd fyddai iddo gadw i mewn y noswaith honno Bu lladdfa fawr yng nghoed y plas ar ddofed- nod y cipar hwnnw. Ond er rhyfedded y gall hynny ymddangos, clywais ddywedyd i Bob Talc a'r Ysgotyn hwnnw ddyfod yn gyfeillion mawr. CARIAI Bob ei rwyd i'w ganlyn ymhlith y maglau a'r taclau a oedd ganddo, yn y pocedau mawr oddi mewn i'w siaced felfed. Ai i'r gwrych a thorrai ddwy ffon gref i'w dal, yna cerddai i ganol yr afon i'w rhwydo o bwll i bwll, hyd at ei wddf weithiau ar 61 y pysgod. Plentynnaidd i'r eithaf yn ei olwg ydoedd pysgota â genwair. Wedi'r ddalfa fe'i hysgydwai ei hun ac âi at dwll yn y gwrych Ue cuddiasai ei bibell a'i faco, a'i hosanau bras. Yna eisteddai i ysmygu i aros i'w ddillad ddiferu, a'i esgidiau wedi eu troi a'u gwadnau i fyny. Ymhen ysbaid gwisgai ei hosanau sych a'i esgidiau am ei draed, ac ai i'w daith. Di- bynnai ar yr haul a'r awel i orffen sychu ei ddillad! Os byddai ar rywun claf awydd brithyll, dim ond awgrym i Bob a dyna ddigon. YR oedd Bob Talc yn debyg i Paul mewn un peth, er anhebyced y gaUai fod mewn pethau eraill. Yr oedd wedi dysgu bod yn fodlon ar ei fyd mewn llawnder a phrinder. Yr oedd yn weithiwr di-ail nes yr anesmwythid arno gan y nwyd o herw- hela, ac i hon yr oedd yn gaethwas mewn -cadwyn. Pan fyddai wedi rhedeg allan o gregin," chwedl yntau, byddai cyn sirioled ag aderyn ac mor ddiofal â phlentyn. Gwelais ef fwy nag unwaith yn cnithio dimai dros y gwrych. Arwydd oedd hynny fod ei bres wedi darfod, ac yn unol â rhyw hen ofergoel o'r eiddo, gwell bod heb ddim na bod ar ddim ond dimai. Byddai'n benthyca yn aml oddi ar hwn a'r llall, ond cyn sicred â deddf am dalu. Unwaith yn unig, hyd y gwn i, y bu'n siarad â Pherson y Plwy, ac er ei waetha y bu hynny. Cawr o ddyn cyhyrog oedd y Person hwnnw, yn hannu o sir Aberteifi. Bu'n ddarn o fywyd Llanarllwyn am lawer o flynyddoedd a rhaid ei fod yn well dyn Gan H. JONES DAVIES na'r gair cyffredin oedd iddo, er gwaethaf ei ran yn rhyfel y degwm. Rhobet," ebe'r offeiriad, fydda i byth yn ych gweld chi yn yr eglwys ? Na fvddwch, svr, fydda i byth yn dwad." Wefpam, Rhobet ? Dwn i ddim. svr. Dim dileit mae'n debyg." Fyddwch chi ddim yn meddwl am ych diwedd weithie, Rhobet ? Bvddaf, syr, bob tro bydda i yn y coleg.' Yn v coleg,' Rhobet, beth ydych vn feddwl ? Wel, yn y cwad sjt." Yn y coleg ac yn y cwad,' 'dydw i'n deall mohonoch chwi." Deud 'roeddwn i, syr, taswn i'n deud hefyd, mai pan fydda i yn y clinc am botsio y bydd rhw feddylie annifyr felly yn dwad i mi." Rhobet Robets oes arnoch ddim ofn marw yn ddigrefydd ? Nag oes, diolch i'r tad, marw raid i mi a chwithau hefyd o ran hynny, syr. Ac am grefydd, chymrwn i mo grefydd llawer yn y Llan yma pe tase hi i'w chael am ei chymryd; mae hi mor sâl." Ond crefydd neu beidio, Robet, y mae potsio yn anonest, a dal giâm y sgweiar, a fyntau'n ddyn mor ffeind, yn beth drwg iawn. Lladrad ydyw, yn union yr un fath â dwyn ieir." Amryfus fu'r gymhariaeth yma ar ran yr offeiriad, collodd yr herwheliwr ei dymer a dywedodd fwy o lawer nag oedd wedi ei fwriadu. Esgusodwch fi, syr. Chi ydi'r cyntaf i ddweud bod Bob Talc yn lleidar. Yr ydw i'n botsiar, dyna nhrad i, fel mai dweud gweddi gyffredin a chladdu ydi'ch trad chwithe, syr. Ac am yfed cwrw, yr ydw i'n gwneud hynny hefyd gystal ag ambell i berson A chyda llaw, yr ydw i'n gweld hanner balir o gwrw o dan yr hugan yng nghefn y'ch car chwithe, syr, yn ddigon amal. Pwy sy'n yfed hwnnw, tybed ? Y gath a'r morynion, mae'n debyg Yr ydych chwi wedi codi 'ngwrychyn i, a mi ddweda beth arall na hoffwch chwi mo'i glywed o mae'n siŵr. Petaswn i yn berson a bod eisio llawr newydd ar y sgubor, a fuaswn i'n mynd â cherrig beddau pobol o'r fynwent ac yn i rhoi nhw â'r llythrenne i lawr i wneud llawr sgubor ? Na fuaswn, syr, er gwaethed dyn ydyw i Siarad am botsio a dwyn ieir ar yr un gwynt! Mi wyddwn o'r blaen bod Mr. Wilkinson y Plas a chwithe'n gryn bobol, ond wyddwn i ddim mai chwi oedd yn edrych ar ôl i giâm o." Eu hysgoi ei gilydd a wnaeth Bob a'r offeiriad am flynyddoedd wedi hyn. A oedd sail i'r ofn oedd ym mynwes y potsiar fod Person y plwy wedi rhoi ei fryd ar ei (I dudalen 192.)