Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GYRFA DDISGLAIR BARNWR Y LLYSOEDD SIR YNG NGWYNEDD EI BRIOD HAWDDGAR ösg^^S&^YDD yn dda gan bob Cymro a Chymraes ddeall bod y ddeiseb at gael chwarae teg i'r Gymraeg yn y llysoedd barn a wneir yn yy^S^SS^^W awr yn mynd rhagddi o nerth i nerth. I'r Barnwr Syr Thomas Artemus Jones, K.C., yn fwyaf arbennig, yr ŷm i ddiolch am gychwyn y symudiad yn erbyn anwybyddu'r Gymraeg. Rhoddodd dystiolaeth rymus ac argyhoeddiadol ar y mater pwysig hwn ger- bron y Comisiwn Brenhinol sy'n ceisio hwyluso gweinyddu barn. Yn ôl fy addewid ddeufis yn ôl, rhoddaf yma ychwaneg o fanyhon am yrfa Syr Thomas. Gadael ysgol YN Ninbych y ganed Syr T. Artemus Jones, yn ieuengaf o chwech o feibion i Thomas Jones, saer maen. Wedi gadael yr ysgol elfennol yn ddeuddeg oed, dysgodd law-fer iddo'i hun yn ei oríau hamdden, a chyn bo hir cafodd le yn ohebydd ar y Free Press, papur lleol y dre, ac yn y papur hwnnw disgrifiai derfysgoedd y degwm a oedd yn cynhyrfu dyffryn Clwyd ar y pryd. Canodd yn iach i dre Ddinbych yn wr ieuanc deunaw oed a dilyn y gwaith o ohebu ar bapurau lleol yng Ngwlad-yr-haf ac yn East Anglia. Fe'i gwnaed yn olygydd ar bapur lleol yn Norfolk cyn gadael ei 22 oed. Oddi yno aeth i Fanchester ac wedi hynny i Lundain. Ymunodd â staff seneddol y Daily Telegraph, yna bu ar y Daily News. Hyd oriau man y bore T" E journalisme sert à tout, à condition I s d'en sortir," meddai dihareb Ffrengig, ac nid oes dim yn ei gwirio yn well na gyrfa Syr Thomas. Tra gweithiai yn Nhv'r Cyffredin yn ohebydd i'r papurau dyddiol hyd oriau mân y bore, aeth ati i astudio Lladin a phynciau eraill ar gyfair yr arholiad rhagarweiniol i'r gyfraith. Ddwy flynedd wedyn, yn 1898, aeth yn efrydydd i'r Middle Temple ac ymhen tair blynedd fe'i galwyd i'r Bar ag ef yn ddim ond 30 oed. Bu mewn cysylltiad agos â Chymru o'r adeg hon ymlaen. Ymunodd â Chylchdaith Cymru, ac am flynyddoedd ymddangosai ar y naill ochr neu'r llall ym mhob achos o bwys. Ei ddyrchafu yn Farnwr PENODWYD ef yn Gwnsler i'r Brenin (K.C.) yn 1919, a choronwyd ei yrfa gyfreithiol drwy ei ddyrchafu yn Farnwr y Llysoedd Sir drwy ogledd Cymru ym mis Tachwedd. 1929, swydd y mae'n ei llanw yn awT gyda medr ac urddas. Tynera farn â thrugaredd. Caiff j' truan gyfaill ynddo, ond nid arbed y trahaus a geisio fanteisio ar y tlawd a'r diamddiffyn. Y Foneddiges Artemns Jones.. Trodd i fyd gwleidyddiaeth am ysbaid bu'n ymladd etholiadau dros y Rhyddfryd- wyr ym Macclesfield yn 1922 yn nwyrain Abertawe yn 1923, ac yn Keighley yn 1925. Yn 1928-1929, daeth iddo'r anrhydedd o gynrychioli Prydain ym Mexico ar Gomisiwn Gofynion Prydain a Mexico. Un achos enwog i Syr Thomas gymryd rhan ynddo oedd cyngaws Arglwydd Pen- rhyn yn erbyn Mr. W. J. Parry am athrod, yn codi o streic Bethesda. Enynnodd yr achos hwn ddiddordeb a chyffro mawr am amser. Cymerodd ran bwysig fel un o'r bargyf- reithwyr galluog a amddiffynnai Syr Roger Casement yn adeg y Rhyfel Mawr. Bu hefyd yn amddiffyn yr hynod Von Veltheim yn yr Old Bailey, Llundain, am fynnu arian drwy fygwth SoUy Joel, y mil- iwnydd diemwnt o dde Affrig. Y Foneddiges Artemus FEL y mae'n wybyddus ym myd cyfraith, enillodd ei briod hawddgar, y Fonedd. iges M. Artemus Jones, un o'r prif wobrau yn arholiad terfynol y Bar. Fel ynad heddwch bydd yn cyd-eistedd â'i gŵr, sydd yn is-gadeirydd Sesiwn Chwarter sir Gaernarfon. Y mae hi yn ferch i'r boneddwr adnabyddus Mr. T. W. David, Ely Rise, Caerdydd. Tair telynor i ganu SONIAIS eisoes yn y nodiadau hyn am briodas sydd i ddyfod rhwng Mr. Cecil Williams a Miss Olive Evans. Yr wyf yn awr yn gallu cyhoeddi darlun o'r briod- ferch ac ychydig yn rhagor o fanylion amdani. Cafodd Miss Evans ei haddysg yn Ysgol Hywel, Dinbych, ac yng Ngholeg Brenhinol Cerdd, Llundain. Bu'n dysgu canu'r crwth gydag Isolde Menges ac yn dysgu dawnsio gyda Josephine Bradley. Y mae yn fodurydd selog a bu'n cystadlu yng nghyrddau Cymdeithas Foduro Merched, gan ymgeisio mewn cystadleuaethau 24 awr o hyd. Gwnaeth lawer o waith i hyrwyddo Cym- deithas y Meysydd Chwarae a'r Gymdeithas Wirfodd er Gweini ar Gleifion, yn ogystal â thro3 amryw ysbytai. Cymer ddiddordeb dwfn ym mhethau Cymru ac yn ei diwyUiant. Bydd y briodas yn Eglwys Fererid, West- minster, ar y 22 o'r mis, a gweinyddir gan y Parchedig H. Hartwell Jones, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. Morris Hughes, rheithor, Dinbych, a'r Parch. Gabriel Evans, rheithor, Cerrigydrudion. Nid yw trefhiadau'r derbyniad yn gyflawn eto, ond trefnir i gael tair telynor i ganu'r delyn yn eu gwisg Gymreig. Priodas arall PRIODAS arall o ddiddordeb Cymreig sydd i fod yn Eglwys Fererid yw honno rhwng Arglwyddes Gloria Vaughan, merch hynaf yr Iarll a'r Iarlles Lisburne, Trawscoed, ger Aberystwyth, a Mr. Nigel Fisher, ar y seithfed dydd o'r mis. Ganwyd Lady Gloria yn adeg y Rhyfel Mawr yn 1916. Y mae hi'n boblogaidd iawn yn yr ardal ac fe'i hanrhegwyd hi â llestri arian gan y tenantiaid, plat arian gan y gweithwyr, a stôl fach gan ferched y cylch.