Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BYD Y MERCHED. Gofal am "Bryd a Gwedd Defnydd rhad Qan MEGAN ELLIS IWELLA lliw croen gorfelyn y mae'n rhaid wrth ansawdd da i'r gwaed o flaen na hufennau glanhau na darpar- iaethau gwynnu. Pan adawo benyw ei hieuengoed, fe duedda'r croen i dywyllu a thywyllu nes daw'r dydd y gellir cymwyso'r gair salw at ei phryd. Nid oes raid iddi ddigalonni, serch hynny. Gellir llawer i'w wella, a rhagor byth i dynnu'r sylw oddi wrtho. 0 flaen dim gweithrediadau oddi allan, rhaid gofalu bod y gwaed mewn cyflwr da. Bydd i donig haearn neu fwydres wedi'i chynllunio'n ofalus gywiro unrhyw duedd at wendid. Rhagorol yw afalau, grawnwin, resins, moron, erfin a bara drwodd, a dylent gael Ue amlwg yn y fwydrestr ddyddiol. Dylid yfed gwydriad o ddŵr poeth ag ynddo sudd hanner lemon, yn y nos neu yn y bore i buro'r gwaed. Defnyddier hufen-lemon at lanhau'r croen, neu doder ychydig ddiferynnau o sudd lemon ar hufen oer суn ei osod. O'i ddefn- yddio'n gyson, dylai hwn wynnu'r croen. MWGWD GWYNNU. Unwaith yn vr wythnos dylid dodi mwgwd gwynnu—i groen fo'n sych a thyner dodwch ebran wedi'i gymysgu â llaeth enwyn yn bast tew a'i adael ar yr wyneb am ryw 15 munud, yna'i symud â dŴT cynnes. I groen fo'n gryf ac ychydig yn olewaidd dodwch magnesia powdredig a dŵr rhos a llond llwy de o sudd lemon, wedi'i gymysgu'n bast tew ar yr wyneb a'r gwddf nes sycho, a'i ysbwngio ymaith â dŵr oer. Bydd trwyth sylfaen melyn-goch yn aml yn ddigon i guddio gwawr salw'r croen, ond TREFNIANT HYFRYD I'R GWDDF i wisg ddu blaen coler rol feddal a siabod arianlliw wedi'i liwio â blodau du. os bydd eisiau rhywbeth yn rhagor gellir rhoi praw ar un o'r hufennau newydd eraill. Defnydd isel ei bris Defnyddir cryn lawer ar gotwm crêpe mewn ffroc- iau a siwtiau y misoedd nesaf yma, gan roi sylw neill- tuol i wrthgyfer- bynnu a chyd- doddi lliwiau. Hwn yw un o'r defnyddiau isaf eu pris sydd i'w cael, ac fe fydd gwnïad- wragedd cartref yn faicn o ddeall mai nwn neiyu yw ffefryn ffrociau'r ffasiwn. Y mae hyn cystal â dweud y gall hi gael, yn lIe dyweder, un wisg farocain neu grêpe-de-chine, gyfres o wisgoedd mindlws y bydd modd eu golchi yn hawdd. Nid yw crêpe o'r fath yma yn gofyn ond ei wasgu'n ysgafn, ac os yw'n wisg seml iawn, dim ond ei hysgwyd ar 61 ei golchi. Ond chwi ddylech ei sychu'n ofalus, rhag ei marcio gan begiau neu linell ddillad. Y mae'r siwtiau parod a ddangosir hefyd, lawer iawn ohonynt, yn grêpe cotwm rai wedi eu trymhau â brodwaith gwlân. Y mae'r got wrth gwrs yn hynod syml, a'r sgert yn fwy pwysig gan ei llawned, gyda botymau, addurn a gwregys llydan. A WISGIR GWREGYS? Ond oni bo'r gwisgydd yn fain o gorff, dylid gado'r gwregys o'r naill du, neu ei wisgo'n bur gul. Nid oes dim sy'n torri ar rediad llinell corff yn waeth na gwregys llydan plygedig, yn arbennig os yw o liw gwrthwyneb i liw'r wisg. Eto, y mae gwregys plyg gyda phob gwisg o Baris. Y mae gwregys felly o fantais i ferch denau a gall wisgo un chwech neu wyth modfedd o ddyfn. Ychwanega at ei swyn. Ond fe ddylai'r fenyw ganol-oed edrych yn y drych yn hir cyn penderfynu gadael gwregys ar ei gown. Temtasiwn fawr yw tynhau'r bwcwl gymaint ag a aller. Ond fe geir bod trefnu bwcwl ar du blaen y ffroc a gadael llonydd i'r gwregys yn llawer mwy effeithiol. GWREGYSAU LLYDAN. Y mae gwregys llydan yn gweddu'n well i'r ferch hon nag un syth wedi'i blygu. Gown defnyddiol iawn ydyw, glas printiedig a chrêpe gwyn wedi'i orffen ag organdi gwyn pìaen. SIWT BAROD GREPE COTWM. Dyma gostum bach effeithiol gyda blows organdi gwyn pleth rnân. Sylwch ar y gwregys pwyntiedig del. Heicwyr a'u Gwisgoedd Y mae rhyw syniad rhyfedd wedi codi ymysg rhai heicwyr ynghylch eu gwisgoedd. Y mae nifer wrth gwrs yn mynd i ymdaith mewn dillad cyfaddas a golygus. Ond ymddengys eraill fel ped ymfalchïant mewn cotiau-rhag-glaw budr, sgertiau neu lodrau gwerog, esgidiau na welsant yr un brws ers llawer o amser. Nid oes fawr a wnelo pwrs dyn â chotiau a sgertiau glânwaith gall hen ddilladau fod yn hynod atyniadol ond iddynt fod yn ddi- lwch. Ai rhyw gymhleth isradd yw bod pobl olygus yn dewis gwisgo pethau anolygus —i ddangos eu hannibyniaeth a'u diystyrwch o arferion ? GWISGOEDD CHWARAE RHAI POBL, = Y mae rhyw syniad rhyfedd wedi codi ynghylch dilladau chwarae."