Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

I b'le eleni ? Y Ffynhonnau, wrth gwrs Gan Mattie Rees MAE'N wylie am unwaith eto, Siân- p'le mae i fod eleni ? Wel, y ffynhonne, wrth gwrs. Llanwrtyd amdani eto." Rhyfedd fel yr aeth yn draddodiad gan ugeiniau o deuluoedd yng Nghymru i dreulio wythnos neu ddwy yn Llanwrtyd bob haf, ac yn fynychaf eir i'r un gwesty bob tro. Clywais Gymry o fri yn ymffrostio iddynt fynychu Llanwrtyd yn gyson am dros hanner canmlwydd A chymaint yw swyn y Ue nes bydd llawer yn galw yno a threulio noson neu ddwy ar y ffordd adref o'r Eisteddfod Genedlaethol neu o Griws yr Urdd. Nid cyflawn mo'r gwyliau heb aíw heibio i Lanwrtyd. Paham y denir pobl i Lanwrtyd, tybed ? Y mae'n syndod mor amddifad yw'r lIe o'r atyniadau cyffredin i ymwelwyr. 'Does yno'r un cinema-gwarchod pawb !-heb sôn am chwaraedy. 'Does yma 'run parlwr hufen-rhew, na'r addurniadau a'r goleuadau hud sy'n denu cymaint, na'r un band chwaith. Gogoniant y mynyddoedd. Beth sydd yno, ynteu ? Y mae'n wir fod yno golff, tennis, rhwyfo ac ychydig nofio,—ond nid dyna'r atyniad yn ddiau. Rhaid cyfaddef bod y dyfroedd iaohusol yn denu a phwy na welodd ogoniant y myn- yddoedd yn eu hysblander a'u gwyrdd amryliw ar 61 y gawod Ac eto fe geir rhywbeth yn Llanwrtyd nas ceir yn unlle arall y gwn i amdano. Prif hynodrwydd y lIe yw'r bywyd cym- deithasol gwir Gymreig a geir yno yn anad un lle arall. Fe ddiogelir yno holl nod- weddion y bywyd Cymreig ar ei orau. Mor Gymreig yw holl awyrgylch y pentref, yn frodorion yn ogystal ag ymwelwyr ac oni cheir pentrefi heb fod nepell oddi yno sy'n hollol Seisnigaidd ? A dyna bobl gar- trefol, groesawgar a gwerinol sydd yno, yn hoff o ganu ac adrodd, a gwau englyn a chân, ac yn gallu mwynhau cwrdd gweddi bob bore. Mynd i'r cwrdd. 'Does dim sôn am dorri'r Saboth yno â pawb yn naturiol i'r cwrdd fore a hwyr, ac y mae gofyn mynd mewn pryd i gael sedd befyd. Nid cewri Holywood mo'r testun ar swper nos Sadwrn, ond hoelion wyth y pulpud. A dyna gartrefol y maent yno-ffynna rhyw agosatrwydd rhwng pawb a'i gilydd. 'Does 'na'r fath beth yn bod â "dyn diarth." 0 b'le 'rych i'n dod, merch i ? "0 Langyfelach." Ych chwi'n nabod Dafi Tomos, Tŷ Mawr, yno ? Nid merch William Hughes ychi, 'sbosib ? Fe ddowch i nabod pobun yno ymhen deuddydd neu dri,—dyna ran o swyn Llanwrtyd, 'does dim posib colli eich gilydd yno. A sôn am gydraddoJdeb—dyma'r lle amdano! Os ydych yn eich tybio'ch hun yn rhywun gartref, fe anghofiwch hynny'n bur fuan wedi dod i Lanwrtyd. 'Does na'r un lIe i snobeidd-dra. Yr un defodau. Diddorol yw arferion yr ymwelwyr, a rhyfedd fel y glynir wrth yr un defodau o flwyddyn i flwyddyn. Codi'n y bore bach i gael dw-r y ffynnon cyn brecwast; cwrdd gweddi am ddeg, ac oddi yno‘n hamddenol i ffynnon Dolcoed fel rheol, a dyna Ue bydd cleber a miri yn y tafarn dŵr wrth i un dalu am beint i'r llall, a sôn am hen atgofion melys. Rhown," meddai Dewi Hafesb, bunt i Dduw am beint o ddŵr." Wedyn crwydro i'r Ysgol Haf cyn cinio, i ganu alawon gwerin. Y llyn yw'r cyrchfan yn y prynhawn, neu efallai daith i Bantycelyn neu Gefnbrith neu Langamarch sy'n dryfrith â thraddodiad Cymreig. Ond rhaid dychwelyd erbyn chwech o'r gloch i'r cyngerdd neu'r eisteddfod yn neuadd Victoria. Tyrra'r bobloedd yno bob nos i glywed y canu a'r adrodd a'r englyna a'r straeon digri. Wrth gwrs 'does dim tâl i neb, ond cyfle i bawb wasanaethu. ac fe eilw buddug- wyr y Genedlaethol yno ar eu tro, i roi eu gWasanaeth yn rhad ac am ddim. I Ffynnon Henfron. Wedi swper, bron yn ddieithriad, mynd am dro i ffynnon Henfron i gael peint neu ddau o'r dŵr crisialaidd, ac yno ceir Cymanfa Ganu ddifyfyr. Sôn am eich Community Singing "-— dyma ganu hyfryd, un yn taro'r emyn a'r Ueill yn uno'n gytûn ac yn ail ganu'r cytgan nes bo'r lleisiau'n atseinio rhwng y bryniau. Yn wir fe geir profiad dihafal wrth dreuho gwyliau yn Llanwrtyd. Pa hyd tybed y cedwir allan yr elfennau estronol rhag goddiweddyd y pentref bach hwn yn ei symlrwydd naturiol a diledryw ? Ac eto, bydd pobl yn dal i fynd i'r ffynhonne o hyd, medden hw. Meddu gwallt hardd ydyw un o gaffaeliadau mwyaf ein hoes, ac y mae modd peri i- unrhyw wallt edrych yn hardd. Ychydig ddiferynnau o Rowland's Macassar r Oi1 a'i rwbio'n dda i groen y pen bob dydd-fe sicrha hyn fod y maeth angenrheidiol yno, y maeth sy mor fynych yng ngholl oherwydd golchi neu oherwydd cyflwr drwg Ar gael gan bob cemist neu siop neu dorwyr gwallt, pria at 6d., 7s., a 10s. 6d. Coch at wallt tywyll, aur at wallt golau neu wallt gwyn. A. ROWLAND & SONS, LTD. 22, Laystall St., Rosebery Avenue. London, E.C.l. J. H. & CO.