Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyfoeth ein Celfyddydau Cain Yjn ly nentro 1 yng ngodre (Jeredigion sonnir yn aml am stori neu wheddel yn cerdded o ben i ben ac yn fater siarad rhwng pob dou." Yr wythnos o flaen Gwyl Ddewi nesaf hyderaf yn fawr mai'r chwedl a gerdd o ben i ben ac a fydd yn bwnc ymddiddan rhwng llawer dau fydd yr Wyl Lyfrau a'r Arddangosfa, a agorir bob blwyddyn gan Arglwydd Faer Caerdydd yn Neuadd y ddinas. Ein hamcan pennaf drwy'r Wyl Lyfrau o flwyddyn i flwyddyn ydyw argymell pob un i brynu o leiaf un llyfr Cymraeg yn ystod wythnos Gwyl Ddewi. Yn wir, yn wir, ni chyrraidd na'r Arddangosfa na'r Wyl Lyfrau na Gŵyl Ddewi Sant eu hamcan pennaf oni chefnogom ein hawduron, ein cyhoeddwyr, a'n llyfrwerthwyr, drwy brynu llyfrau Cymraeg a'u darllen. Felly mewn gwirionedd y cyflawnwn arwyddair mawr yr Wyl Lyfrau Ni bydd doeth ni ddarlleno Lleufer dyn yw llyfr da. Yn yr Wyl Lyfrau eleni. Rhydd Gŵyl Lyfrau fel hon gywair pwr- pasol iawn i Wythnos Genedlaethol ac i ddathlu Gŵyl Ddewi Sant. Yn yr ŵyl eleni rhoddes y Parchedig Gwilym Davies, cadeirydd pwyllgor yr ŵyl a'r arddangosfa, anerchiad ar eu prif amcan ac ar eu pwnc arbennig. Hon oedd y chweched ŵyl ac arddangosfa yn y gyfres. Ni chyfnewid y prif amcan ddim o'r naill flwyddyn i'r llall. eithr newidir y pwnc o dro i dro. Ni allsai Mr. Davies wneuthur ond proffwydo'r pethau a ddeuai a thraethu arnynt, eithr rhoddwyd i ni gyfle i gyfeirio at yr arddangosfa fel peth wedi dyfod ac wedi'i drefnu at wasanaeth gŵyl lyfrau. Ceisiaf roddi brasolwg ar brif gynnwys yr arddangosfa eleni; cymryd megis herc, cam a naid drwy neuadd yr arddangosfa, a thynnu sylw brysiog at rai yn unig o'r trysorau a eglurai'r celfyddydau yng Nghymru, sef pwnc mawr yr arddangosfa eleni. Yn yr arddangosfa. Cydweithiodd pwyllgor yr arddangosfa ag awdurdodau'r Amgueddfa Genedlaethol a saif gerllaw. Cerddid o'r arddangosfa i'r amgueddfa mewn eiliad neu ddau, a gwelid yn rhwydd yr hen bethau a gasglwyd er eglurhad i amcan a phwnc yr wyl. Cafwyd help y Cyngor Cerdd Cenedlaethol hefyd. Drwy'r arddangosfa, golygid tynnu sylw at rai o olion y celfyddydau cain yr ymhyfrydid ynddynt gan yr hen Geltiaid, trigolion yr ynysoedd hyn a'n hynafiaid ninnau Gymry. Y mae'r olion yn lluosog ym Mhrydain ac Iwerddon. Dygant dystiolaeth ddiam- wys i fedr a gallu'r Celt ganrifoedd lawer yn ôl i gynhyrchu cerfwaith tlws, i liwio'n gain ac i addurno'n deg femrynnau gwerthfawr ag aur ac owmal. Bu campweithiau can, arluniaeth, addurnwaith, a cherfwaith ar ddangos yn yr Wyl Lyfrau eleni yng Nghaerdydd Gan D. Arthen Evans r Barri Braidd na chyrhaeddodd y gelfyddyd neilltuol hon ei huchafbwynt yn yr oes bres ac yng nghyfnod Cristionogaeth fore ym Mhrydain ac Iwerddon. Yr oedd y Celt yn bensaer celfyddus yn ogystal. Rhag- orai'n ddirfawr yn ei gelfyddydau ar y Sacsoniaid a'i dilynodd ac a ddinistriodd, ysywaeth, lawer o gelfyddydwaith Celtaidd yr ynysoedd hyn. Darllen llyfr ein hynafiaid. Ond pa ryw gysylltiad sydd cydrhwng pwnc fel y celfyddydau yng Nghymru a gŵj'l lyfrau ? Ysgrifenna cenhedloedd mawr," meddai Ruskin, eu bywgraffiad mewn tair llaw- ysgrif, neu mewn tri llyfr, sef llyfr eu gweith- redoedd, llyfr eu geiriau, a llyfr eu celfydd- ydau. Ni ddeëllir ddim un o'r llyfrau enfawr hyn oni ddarllener y ddau arall yn ogystal. Eithr o'r tri llyfr yr unig un y gellir dibynnu arno yw'r olaf a enwyd, sef llyfr y celfyddydau." Dyna a wnâi'r arddangosfa a'r ŵyl lyfrau eleni, ein hannog i ddarllen llyfr celfyddydau ein hynafiaid Celtaidd. Ynddo y darllenid eu hunangofiant mewn maen a phres, ac y gwelid eu medr i ffurfio ceinwaith a bair inni synnu a rhyfeddu llawer. A pha ryw rai yw'r celfyddydau cain Wrth y rhain y golygir fel rheol y rhai hyn ? arluniaeth, barddoniaeth, cerddoriaeth, cerf- luniaeth a phensaerniaeth. Cynhwysir weithiau y ddrama hefyd yn eu plith. Nodweddir hwynt gan un elfen fawr, amlwg, sy'n gyffredin iddynt i gýd a'r nodwedd hon ydyw, y mynegant mewn dull cain deimladau dwysaf dyn. Neges y gwneuthurwr. Cynhyrchir hwynt drwy gydweithredu perffaith rhwng llaw, pen a chalon y celfydd a thrwyddynt yn ôl llaw yr ail gynhyrchir ac yr ail sylweddolir y mwynhad a'r weledig- aeth, yr ymdeimlad aruchel a'r neges arbennig a gymhellai'r gwneuthurwr i lunio'i gampwaith. Heb gur ni cheir addurnwaith — wedi poen Daw pinacl campwaith Ac wrth syllu o ben y pinacl meddiennir yr ysbryd a symbylai'r arlunydd pan oedd wrth ei waith a gwelir y gweledigaethau a welodd yntau. Gweddw crefft heb ei dawn," meddai arwyddair Coleg y Brifysgol Abertawe. Nid oes yng nghynnyrch honno ddim ysbrydiaeth i neb ac felly nid yw'r grefft honno yn gelfyddyd gain o bell ffordd. Y gelfyddyd gain bennaf yr ymhyfrydwn ni Gymry ynddi yn awr yw cerddoriaeth. Oherwydd paham rhoddodd yr ŵyl lyfrau le mawr i gerddoriaeth gynnar ein gwlad, i'n hen alawon melys, i'n caneuon gwerin ac i rai o'n cyfansoddwyr diweddar. Ein canu hen. Clywyd canu Cymreig ar y radio noson gynta'r arddangosfa. Sicrhawyd y Dr. Arnold Dolmetsch, hynafgwr o Normandi yn Ffrainc, i ddarlithio ar hen ganu Cymreig. Dehonglodd nodiant hen gerddoriaeth Cymru a welsai mewn llawysgrif ryw ddau gant oed o waith Robert ap Huw, yn yr Am- gueddfa Brydeinig. Drwy fawr ofal ac ymdrech, lluniodd delyn yn ôl y portreiad a ganfu mewn rhai darluniau hynafol; a thynnai Mr. Dolmetsch a'i briod fiwsig y blynyddoedd gynt o dannau telyn a chrwth, a ddarparesid ganddo'n arbennig i'r pwrpas. Onid oedd telynorion, crythorion, a phibyddion yn canu ac yn cystadlu yn eisteddfod Aberteifi, o dan nawdd yr Arglwydd Rhys, ryw saith gan mlynedd yn ôl ? Yn ôl Gerallt Gymro, canai Cymry'r ddeuddegfed ganrif nid yn unllais, megis cenhedloedd eraill llai eu diwylliant eithr mewn rhannau. Gwyddent am gynghanedd ac yn niwedd y cyfan, unai'r dyrfa mewn cytgan fawreddog a gorfoleddus. Erys yr hen arfer a'r hen anian hyd heddiw, canys onid yw'r tyrfaoedd ar faes eisteddfod ac ar faes pêl droed yn barod i ganu'n beraidd mewn pedwar llais ac i gytganu gyda hwyl emyn neu alaw boblogaidd? Tynn ein halawon a'n caneuon gwerin sylw mawr. (1 dudalen 189.)