Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gall Pobun Wella ar ei Gymraeg T mae'r clejyd Gymysgu ar yr iaith bellach ers 400 mlynedd Ebe'r Athro W. H. Harris ( Arthan) Coleg Dewi Sant, Llanbedr YMAE'R iaith Gymraeg mewn perygl. Ei pherygl yw, ei difetha gan ormod o eiriau benthyg o'r Saesneg. Dangosodd y Cyfrif diwethaf fod 900,000 yn medru siarad Cymraeg yng Nghymru ac un o bob naw o'r rhain heb fedru dim ond Cymraeg. Eto, ni ffurfìa'r holl Gymreigwyr ond un rhan o dair o boblogaeth Cymru. Eithr nid nifer y siaradwyr Cymraeg sydd yn fy mlino ond ansawdd y Gymraeg a siaredir ganddynt. Gwn fod dwy ochr i'r ddalen hon, fel pob dalen arall; a da fydd cofio hynny er ein cysur a'n calondid. O chyfyngaf fy sylw i ochr waethaf y sefyllfa, nid wyf yn gwadu bod ochr arall a ragorach ei gwedd. Pa fath Gymraeg a glywir yn rhy fynych yn ein plith ? Onid Cymraeg lled gymysg ydyw ? Cymraeg Cymysgryw fyddai'r enw cywiraf arno, rhywbeth heb fod y naill beth na'r llall-rhyw gawdel ys dywedir yng Ngheredigion. Gair Saesneg yw cawdel yntau, ond nid yw'r fath edlych yn haeddu enw gwell. Yn y baw a'r llaca. Nid tafodiaith yw'r perygl. Pwnc pwysig a pharchus yw hwn, ar wahân yn hollol. Y perygl yw'r lediaith ledryw lygredig sydd mor gyffredin-iaith sathredig yn ystyr waethaf y gair, wedi ei sathru dan draed yn y baw a'r llaca. Yn y Dwyrain pell, defnyddir Saesneg sathredig a elwir yn Pidgin English," sydd mor wahanol i Saesneg safonol ag y gellir dychmygu. Oni byddwn ninnau ar ein gwyliadwriaeth, ni bydd gennym ni ond Pidgin Welsh — clytiaith fraith, salw, wael-rhyw wrthunbeth rhyfedd ac ofnadwy. Dyna'r perygl. Iaith lafar safonol ac urdd- asol neu iaith lafar sathredig a dirmygedig- dyna'r dewis o flaen ein cenedl. Ac yn y dewis y gorffwys tynged yr hen Gymraeg. Hen glefyd. Mae'r clefyd cymysgu ar y Gymraeg ers pedwar can mlynedd bellach. Cymraeg glân gloyw yw'r iaith draddodiadol. Tafod- iaith taeogion oedd y Saesneg, pan oedd y Gymraeg ar ei gorsedd gyda thywysogion. Cymraeg coeth oedd Cymraeg gwr bonheddig yn yr amser gynt. Eleni gwneir coffa arbennig o Ddafydd ap Gwilym. Un o gellweirion hanes yw mai ef a agorodd y drws led y pen i ollwng i mewn eiriau Saesneg a Ffrangeg i'r iaith safonol. Dyma un linell fel enghraifft Lift o blanc o loft y blawd. Eithr teyrnasiad teulu Tudur a brysurodd y trychineb terfynol. Wedi Seisnigeiddio'r gwýr boneddigion, dirywiodd Cymraeg y werin nes troi yn llediaith lygredig. Dyma iaith Cannwyll y Cymry y Ficer Pritchard. Gwrandewch arni Crist yn unig yw'r had dinam A bromisiodd Duw i Abram. Crist yw'n rhanswm. Crist yw'n Prins. Pâr im gredu fod im bardwn Am fy mai, er mwyn dy bassìwn. Nid annhebyg i hon yw'n chwaer-iaith, y Llydaweg, heddiw, a hi yn frith o eiriau Ffrangeg. Tra gwahanol o ran purdeb iaith, er enghraifft, yw'r Pader a'r Afe yn Gymraeg, o'u cymharu â'r un gweddiau yn Llydaweg. Beth sydd i gyfrif am y gwahaniaeth amlwg hwn ? Yr esboniad yw, cyfieithu'r Beibl a'r Llyfr Gweddi Gyffredin i'r Gymraeg. Wedi ei halltudio o'r llys, cafodd yr hen iaith safonol noddfa yn y Uan. Dyma'r modd y trosglwyddwyd hi yn ddiogel o'r cyfnod canol i'r cyfnod diweddar, er gwaethaf trychineb a thryblith y cyfamser. Beth am yr iaith lafar,-y llediaith ledryw a grybwyllwyd uchod ? Trosglwydd- wyd hithau hefyd. Hon yw iaith lafar y rhan fwyaf ohonom heddiw-diddysg a hyddysg fel ei gilydd. Y mae llawer math ohonom, mi wn, ac y mae graddau o ragorion neu ddiffygion yn ein Cymraeg. Ond heb ei fai, heb ei eni yn hyn o beth. Ceisiaf ddangos fod hyn yn wir am y person unigol am bob rhan o'r wlad ac am bob dosbarth mewn cymdeithas. Cewch chwithau farnu ai cyfiawn y cyhuddiad ai peidio. Y Person Unigol. Dechreuwn gyda ni ein hunain. Pa sawl un ohonom a all gynnal ymddiddan, neu drin rhyw bwnc, heb syrthio i Saesneg, yn hwyr neu yn hwyrach ? Adroddaf ddarn o brofiad. Fel efrydydd yng Ngholeg Dewi Sant, ymunais â Chymdeithas y Brython- iaid yno. Casbeth y Brythoniaid oedd britiaith. Enw un o'r swyddogion oedd Amddiff- ynnydd yr Iaith." Ei waith oedd estyn Geiriadur i'r brawd a ddefnyddiai air neu ymadrodd Saesneg yn ystod y cwrdd. Gwnâi hwnnw yr un gymwynas â'r brawd nesaf i lithro. Rhywbeth tebyg i'r Welsh Not" oedd y drefn, ond taw English Not" oedd hon. Ar ddiwedd yr oedfa byddai rhaid i'r truan diwethaf â'r Geiriadur ganddo, dra- ddodi araith ddifyfyr ar Brydferthion yr Iaith Gymraeg. Anfynych y dihangai neb ohonom yn llwyr rhag cam-ddywedyd â'i wefusau, megis Moesen gynt. Gwlad gyfan. Ymhellach, nid oes un rhanbarth yn rhydd o'r clefyd. Holir weithiau pa le y clywir y Cymraeg gorau, a cheir mwy nag un ardal yn cystadlu am yr anrhydedd. Ys gwir bod rhagor rhwng sir a sir mewn gogoniant parablu: Myn rhai fod gwell Cymraeg yn y gogledd nag yn y dehau. Ebe Ceiriog Mae mwy o míxio'r Saesneg efallai, yn safn yr Hwntw." Ond mewn dadl â chyfaill o Wynedd un tro, llwyddais i brofi yn amgen. Holais ef fel hyn Beth a ddywedir gennych chwi am y gair Saesneg beefì" "Biff," ebe ef. Cig eidion yw gair Gwent," meddwn innau. I dorri'r ddadl yn fyr, i hyn y daeth hi Geiriau Gwynedd Veal, Lamb, Bacwn, Cacen. Geiriau Gwent Cig llo, Cig oen, Cig moch, Teisen. Gwn o'r gorau, serch hynny, y gellid profi'r gwrthwyneb gyda detholiad gwahanol o eiriau. Y mae Ceiriog yn go agos at y gwir ya. ei ddychan ysmala Stop ar Mixio'r Saesneg," lle y bydd Hwntw o Fynwy a Rolant o Fôn yn cyhuddo ei gilydd o lygru'r iaith Gymraeg. Hwntw I gadw'r iaith Gymraeg Rhag mynd i ruination Mae eisiau system well I spreado education, Mae mention yn y South Am gwnnu institution Neu Grammar School Gymraeg I stoppo pob pollution. Rolant A minnau, 'pon my word Mi leiciwn gael gramadeg, Y drwg afnatsan yw, Cymysgu phrases Saesneg Ac what a pity mawr Yw gweled Seisnigyddiaeth Yn spoilio natwe tongue Hen wlad ein genedigaeth. Ac ymuna'r ddau yn y gytgan I gadw'r iaith Gymraeg yn fyw, Waeth hynny nag ychwaneg, Rhaid i bob Cymro ddweud y gwir A pheidio mixio'v Saesneg. Dyna hi-" Y pair yn gweiddi parddu ar y pentan." Na y mae pob cwmwd yn y camwedd. Pob Dosbarth. Nid yw. "Cymraeg Cymysg yn gyfyng- edig i ryw un dosbarth. Nid dychmygu di-sail yw dychan Ceiriog. Cewch chwithau glywed enghreifftiau dybryd, ond dilys, a ddaeth dan fy sylw i fy hunan. Nid eithr- iadau eithafol mohonynt chwaith, ond ymadroddion digon nodweddiadol o gylch- oedd lluosog. Nid llunio bai Ue ni bo" yw fy amcan, ond bwrw'r bai ar ei berchen," pwy bynnag y bo. Cewch chwithau farnu a oes angen am y pethau hyn, a phenderfynu beth a ddywedech chwi yn eu Ue. Gan y werin, mynych y clywir y dywediad Mae Saesneg yn ysgawnach i'r frest." O ganlyniad, dyma bethau a glywir beunydd Tommy, go and fetch glo mân to put ar y tân." A gesoch chi good lime ? Mae e'n too bad." (I dudalen 189.)