Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Prydferthwch Ynys Lawd, Caergybi [Parhad o dudalen 178] Fe osodwyd y cerflun marmor hwn ar fedd William Owen Stanley yn y rhan ddeheuol o'r eglwys. Yn y fynwent ei hun ceir bedd Siôn Rhobert Lewis, yr Almanaciwr ac awdur yr emyn Braint, braint, Yw cael cymdeithas gyda'r saint." Ynddi hefyd y claddwyd William Morris, yr hoffusaf o'r brodyr enwog, y Morusiaid. Mawr oedd parch William i Eglwys Gybi, lle'r oedd yn addolwr cyson yn amser y personyn" Thomas Ellis, ficer y plwy. Ymddiddorai William Morris yng nghanu'r eglwys, ac efô, wedi'r helynt arferol ynglvn â blaenor y gân, oedd y pen cantor. Rym ni wedi ymadaw," meddai, â'r meistr canu, a dyma finnau wedi cymmeryd y llywodraeth yn fy llaw, ac yn ddiwagedd yr ym yn canu'n rhagorawl." Gwasanaethai William Morris fel Controller of the Customs-Gwilym Gontrowliwr y'i galwai ei hun-o 1736 hyd ddiwedd ei oes, ond y mae'n amlwg mai ei ddiddordeb pennaf oedd ei ardd yn Summer Hill. Cyn enwoced oedd honno nes bod yn wiw gan bendefigion y deyrnas dorri yn fynych ar eu siwrnai i Iwerddon er mwyn ei gweled. Codi argraffwasg. Bu Lewis Morris, yr hynaf o'r brodyr, yn y dref o flaen William, a threuliodd 14 blynedd ynddi cyn mynd i Geredigion yn 1743. Gofalu am Dollfeydd Biwmaris a Chaergybi yr oedd yntau, ond yn ddi- weddarach fe'i hapwyntiwyd ef gan y Llywodraeth i fesur arfordiroedd Cymru, a chael llong hwylus at ei wasanaeth. Yng nghanol nifer o orchwylion amrywiol, gosod- odd argraffwasg yng Nghaergybi yn 1735, a hon oedd yr argraffwasg gyntaf yng ngogledd Cymru. Ni bu fawr lwyddiant arni gan Lewis Morris, a gwerthodd hi i Ddafydd Jones o Drefriw, ac aethpwyd â hi wedi hynny i Lanrwst, lle y gwnaeth waith mawr am hanner canrif. 0 fwrw golwg dros y ddwy ganrif ddi- wethaf, canfyddir bod nifer da o wyr enwog wedi addurno hanes Caergybi a chyfoethogi bywyd y genedl. Ond beth, atolwg, yw'r rheswm fod y dref ei hun wedi cynhyrchu cyn lleied ohonynt ? Gydag ychydig eithriadau, gwŷr dyfod oedd y dynion y bu eu canhwyllau'n llosgi ac yn goleuo yma. Rhai o'r eithriadau oedd y Dr. Owen Thomas a'i frawd John, Morswyn ddawnus, a'r Athro David Williams, y bu Cymru'n galaru mor ddiweddar ar ei ôl. Eithr nid brodorion oedd y Morusiaid, na Huw Huws (y Bardd Coch), na'r cym- wynaswr hwnnw, Capten Skinner. Tren a llong. Un o'r wlad oedd Gweirydd ap Rhys, a dyfod i Gaergybi a wnaeth ei blant talentog, Buddug i ymbriodi, a Golyddan i fwrw'i brentisiaeth fel meddyg. Dieithriaid o fewn y pyrth oedd y Canghellor Briscoe, a gyf- ieithodd y Testament Newydd i'r Gymraeg, a Goleufryn, pregethwr nerthol, Cymreigydd da, ac yn ddiddadl un o ddychanwyr gorau'r genedl. Ac er nesed eu perthynas â'r cwrr yma o'r wlad, nid yng Nghaergybi na'r gymdogaeth y mae hanfod teulu'r Stanleys o Benrhos. Efallai bod safle ddaearyddol y dref ac amodau gwaith ynddi yn rhoi peth cyfrif am hyn. Rhyw fywyd mynd a dod, ansefydlog, ydyw bywyd toreth y trigolion. Dibynnant ar bethau mor symudol â thrên a llong, canys allan o 12,000 a throsodd o bobl, y drafnid- iaeth rhwng y dref ac Iwerddon a ddaw â ffon bara i ddwylo'r mwyafrif ohonynt. Gweledigaeth Nos PLYGAIS neithiwr yn ofidus Gan ymbilio'n daer ag Ef Ond ni chlywais lais yn ateb, Dim ond pellter sŵn y dref. Teimlais weithiau'i fod yn agos Agor llygaid yn llawn ffydd, Ond ni welais ddull ei Berson, Dim ond twllwch oer a phrudd. Mi orweddais yn anesmwyth Mewn cudd-freichiau, yn fy mriw, Ond ychydig a feddyliais Eu bod hwy yn freichiau Duw. Canys clywais lais oedd unsain A llais pêr f'anwylaf un, A chanfu-um ddull ei Berson Ar lun tlws fy mam fy hun. T. EMLYN EVANS. Y Coleg Diwinyddol, Aberystwyth. Gelwir ar y gweithwyr i droi allan ar bob awr o'r dydd a'r nos; nid ar yr un oriau y bydd niferoedd ohonynt yn dechrau eu diwrnod na chadw noswyl, ac yn aml nid yr un rhai fydd yn cydweithio â'i gilydd o wythnos i wythnos. Ni thuedda bywyd beunyddiol o'r math hwn, gyda'i delerau ansefydlog, i fagu gwreiddiau grymus cymhleth, ac nid yw'n syn canfod mai lled arwynebol yw diddordeb trigolion y dref. Tyrru i'r addoldai. Ni cheir arwyddion amlwg o ddiwylliant ymhlith ond ychydig iawn o'r bobl, sydd wrth natur yn hynod am eu hynawsedd, eu caredigrwydd a'u cymwynasgarwch. Ceir yma ddigonedd, os nad gormodedd, o addoldai yn y dref a'r cylch, a'r tyrfaoedd yn tyrru iddynt ar nosweithiau gwaith i wrando ar bregethau, ac fe'u mwynhant eu hunain yn fawr. Ond nid yw'r llyfrgell gyhoeddus yn deilwng o dref lai o lawer ei maint, a phrin yw'r gefnogaeth i unrhyw fudiad addysg. Sylwer hefyd ar agwedd nifer mawr o Gymry glân tuag at y Gymraeg. Ym mhen draw Môn, gellid disgwyl clywed siarad iaith weddol loyw ac urddasol. Fe geir mesur da o hynny ar ddydd Sadwrn, pan ddaw trigol- ion ardaloedd gwledig yr ynys i'r dref i werthu cynnyrch y tir, ond Cymraeg garpiog ac amhersain a glywir yn yr heolydd weddill o'r wythnos. Nid yw hynny'n rhyfedd pan yw'r Cymry yn ddiystyr o'u hiaith eu hunain, yn parablu ar eu haelwydydd ryw fath o Saesneg, ac yn ffroenochi oherwydd dysgu'r Gymraeg yn yr ysgolion. Y mae'n wir bod rhai cannoedd o Saeson a Gwyddelod yn preswylio yn y dref, ond parchant hwynthwy yr iaith, a diystyrrant ninnau, Gymry, am ein hynfyd- rwydd barnol yn dibrisio'r trysor â roed yn ein dwylo gan ein hynafiaid. A da y gwnânt. Awelon a heulwen. Na thybier, er hynny, nad oes yn y dref amryw â'u bryd ar wneuthur pob ymgais i adferyd a chadw'r diwylliant Cymreig yng Nghaergybi. Adnewyddwyd asbri rhai o oreugwÿr y gymdogaeth gan ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1927 i hogi arfau er ymladd o blaid yr amcan hwn, a rhwng gwaith yr ysgolion a'r eglwysi, diau y llwyddir yn y man. Ac nid rhaid anobeithio chwaith na chaiff yr ymwelydd y mwynhâd o glywed Cymraeg lafar raenus yn heolydd ac ym mhwyllgorau'r dref cyn bo hir, a diwylliant gwir Gymreig yn blodeuo yn yr ardal. Ers tro bellach nid oes ball ar ymdrechion y trefwyr i ddenu ymwelwyr i Ynys Gybi i fwynhau awelon adfywiol a'r heulwen y ceir mwy ohoni nag yn unrhyw dref lan y môr yn y deyrnas. Un o'r hafanau diogelaf yw'r Harbwr Noddfa a gostiodd I;150,000 i'r Llywodraeth o 1810 i 1824, ac yn fuan wedyn fe bender- fynwyd, wedi dadlau gwyllt, mai Caergybi, ac nid Porthdinlleyn, oedd i fod yn ben i'r ffordd haearn i gario'r drafnidiaeth rhwng Prydain ac Iwerddon. Ynys Lawd brydferth. Yn 1845 dechreuwyd adeiladu'r Morfur cadarn sy'n filltir a hanner o hyd, a gorffen- nwyd ef yn 1873, a dyna ef fel braich estynedig i'r eigion, a'r llongau'n llechu'n dawel dan ei gysgod. Yr ochr arall i'r harbwr y mae Ynys Halen, lle ceid gynt weithdy i dynnu halen o'r heli. Dywedir mai un o'r saith llecyn pryd- ferthaf ym Mhrydain yw Ynys Lawd (South Stack). Cyrhaeddir hi trwy gerdded dros bont grog a thrichant a hanner o risiau amldroellog. Ar gwrr yr ynys cyfyd y goleudy enwog ei ei ben, a phensyfrdannir dyn gan ysgrech- iadau'r miloedd adar a welir ar y clogwyni erch uwchben y tonnau brochus,-y môr- ieir, y gwylanod a gweilch y penwaig.