Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GALLAI ugeiniau o bentrefi a threfi glannau môr Cymru, genhedlaeth yn ôl, ymffrostio bod rhywun o bob t5- ar y môr, ac y mae'n aros eto bentrefi sy'n tynnu torch am nifer y capteniaid y gallant ymffrostio ynddynt. Dyddiau'r llongau hwyliau oedd dyddiau gogoniant Cymru fel gwlad y morwyr, ac erys enwau llongau hwyl- iau, nad ydynt mwyach, o hyd ar ugeiniau o dai ym mhentrefi'r glannau. Aeth yr enwau'n enwau teuluoedd hefyd, canys wrth gysylltiad taid neu hendaid â rhyw long hwyliau yr adwaenir ami deulu o hyd. Yn y pentrefi hyn fe adroddir llawer hanes diddorol a chyffrous am y môr­}am antur- iaethau anhygoel bron ac am waredigaethau gwyrthiol. Ac y maent yn storîau gwir. Gwreiddioldeb a Glywir ar Dafod Leferydd CLYWIR yn ami mewn ardaloedd canol gwlad ddywediadau ar dafod leferydd y sy'n eiddo parhaol i'r broydd hynny. Efallai nad oes llawer o ystyr gwirioneddol iddynt, ac yn sicr ni ellir eu trosi air am air a chael synnwyr ynddynt felly. Y mae mesur o wreiddioldeb i'w ganfod ynddynt, a diddorol fyddai eu holrhain a chael gafael yn eu tarddle cyntaf i gyd, a'r meddwl neu'r syniad a roes fod iddynt. Clywyd y cwbl o'r enghreifftiau a ganlyn, yng nghanolbarth Ceredigion. Cawn eu bod gan amlaf yn mynegi teimladau neilltuol, yn enwedig math ar gerydd neu watwar. Y mae mewn eraill elfen o ddygasedd ac weithiau o arabedd. Hyfryd yw blas y dafodiaith sydd arnynt. Clywir ceryddu plentyn ar brydiau am wneuthur rhyw ddrwg mwy na'r cyffredin, drwy ddefnyddio'r geiriau y cynllwn can- llath ato. Yr ystyr yn ddiamau ydyw ei fod yn bechadur go fawr ar y pryd. Cyferchir ef hefyd am drosedd go debyg hwyrach, fel yr hen andras â thi," a sonnir am blentyn eithriadol fywiog a chwareus ei fod "fel y miriman," sef ffurf ar y gair Saesneg merry- man." Diddorol yma ydyw'r cyd-ddigwydd â'r gair Cymraeg "miri." Yn NyddiauT Llongau Hwyliau "P. M." Drigain mlynedd yn ôl-ar Chwefror 1, 1873, a bod yn fanwl— fe gafodd criw o Amlwch waredigaeth y bu sôn amdani yn y cylch yn hir. Yr oedd y llong Daslier dan ofal y Capten John Hughes o Amlwch, ar ei mordaith o'r Felinhelli i Cork gyda llwyth o lechi. Pan ddynesai'r llong at dir Iwerddon, cododd yn storm ddychrynllyd ac ymchwyddai'r tonnau fel mynyddoedd o amgylch y llestr. Erbyn pedwar yn y prynhawn yr oedd y storm wedi cyrraedd uchafbwynt ei chyn- ddaredd, a daeth un don aruthrol a thorrodd y bulwark nes yr oedd y cyfan yn gyd- wastad â'r dec. Yr oedd y llong fechan y pryd hyn o fewn tair milltir i ddannedd creigiog y lan. Nid oedd wawr o obaith am gadw bywyd neb bellach. Gan J. M. Edwards Waunfawr, Aberystwyth Cofiaf yn dda am hen ŵr fy nhad-cu yn ein hannerch ni gynt pan oeddym yn fechgyn digon drygionus, 'Rych chwi'n ddigon i nyrddo'r wlad Y gair wrth gwrs, ydyw anurddo, a golygai ein bod yn ddigon i ddistrywio ac anharddu popeth y deuem i gyffyrddiad ag ef. Ac os byddai i un ohonom ymddwyn yn dwp ac ymddangos yn ddi-weld ar adegau, deuai allan o'i enau fel saeth flaenllym 'Rwyt ti fel hwrdd hydre." Mor ddwl a hic a how. Clywir weithiau sôn am bobl hoff o siarad gwag, hirwyntog, a di-bwynt, nad ydynt yn gwneuthur dim ond siarad lot o sofl haidd." Rhyw glebran ofer, heb angen amdano, dyna ergyd y gair mi dybiwn. Brawddeg arall a ddefnyddir am berson yn ymddwyn yn ffôl ydyw dweud ei fod mor ddwl â hic a how." Nid peth hawdd ydyw cael gafael a dod o hyd i ddywediadau fel hyn bob amser. Y ffordd orau i'w casglu at ei gilydd ydyw Fechgyn bach," meddai'r capten, y mae'n ymddangos nad oes gennym ond ychydig funudau cyn wynebu'r byd arall, ond gadewch i ni wneud ein gorau- gollyngwch y cwch." Yr oedd y gorchymyn yn un ffôl yng ngolwg y dynion. Ni all y cwch ddal hanner munud yn y fath fôr cynddiriog," meddai'r mêt. Ond yr oedd y llong yn suddo'n brysur, ac fe ollyngwyd y cwch i'r berw trochionog. Erbyn hyn yr oeddynt o fewn milltir a hanner i'r lan, a honno'n ysgythrog a pheryglus, ac yn fwy o ddychryn na'r môr dicllon. Yn fuan suddodd y llong yn eu golwg, a hwythau yn y cwch bach, weithiau i fyny yn yr awyr a'r foment nesaf i lawr yn y dyfnder rhwng y tonnau anferth. Gwnaeth y dynion eu gorau i gadw'r cwch i ddal codiad y tonnau arswydus. Dacw don anferth yn dod, a'u codi i fyny i uchter mawr. Yr oeddynt erbyn hyn mor agos i'r lan fel nad oedd dim i'w ddisgwyl ond caer eu hyrddio'n ganddryll yn erbyn dannedd creulon y creigiau. Er syndod i bawb, taflodd y don honno y cwch a'r dynion dros ben mur oedd yn bedair llathen o uchter, a'u gadael ar gae glas yr ochr arall. Wedi dyfod atynt eu hunain, y peth cyntaf a wnaethant oedd codi eu llef mewn diolch i'r Nefoedd am eu gwaredu mor wyrthiol o safn angau. Daeth amryw o'r Gwyddelod yn fuan atynt a chawsant garedigrwydd mawr oddi ar eu dwylo. Aeth rhai o'r hen bobl ar eu gliniau ar y cae i ddiolch i'r Arglwydd am y waredigaeth. drwy ymwrando parhaus a chyson ar lefer- ydd pobl fo'n debyg o'u defnyddio i bwrpas ac ar adeg drawiadol, ac nid myned allan gyda'r amcan o chwilio amdanynt. Y dydd o'r blaen clywais y dywediad a ganlyn gan un oedd yn prysur chwilio am rywbeth ac yn methu cael hyd iddo, Wn i ddim am glawr y ddaear pa le y mae cael gafael ynddo." Mewn ambell ardal mae'r gair "clawr y ddaear" yn y cysylltiad hwn yn mynd yn clawdd y ddaear." Yn awr ac yn y man clywir yn wlyb sopen pan fyddir wedi bod allan yn y glaw a chael gwlychfa dda mawr dda iddo pan ddymunir i lwc neu ffawd wenu ar rywun ac weithiau mewn rhyw syndod anarferol, Wel, y brenin daearol ac os bydd i arall gael y syndod, mi fydd yn synnu yn ei facse." Defnyddir y gair aflawen hefyd, yn enwedig gan hen bobl, a dywedir yn oer aflawen," neu yn glos aflawen." Er mai anfynych y clywir y dywediad cwtws lonni," fe'i defnyddir weithiau i ddisgrifio ci, un bychan yn enwedig, pan fo'n dynesu atoch gan ddangos ei lawenydd drwy ysgwyd ei gynffon. A pha rai ohonoch a glywodd ddisgrifio cysgu yn ddiweddar yn y bore fel cysgu nes bod un llygad yn gweld y llall ?