Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

STORI FER GYFLAWN YR oedd Anne ar y trydydd llawr, yn tannu'r gwelâu. Nid oedd Anne yn gwybod fawr am y Byd a Ddaw, ond yr oedd hi yn aml iawn yn meddwl a fyddai hi yn tannu gwelâu ai yn gorwedd arnynt yn y Bywyd ar ôl hwn. "Anne! rhedwch 'lawr ac atebwch y drws, yr wyf i rhi anghryno Ac felly y bydd hi byth Anne, tyrd yma, Anne, cerwch draw Trwm gerddodd i lawr y grisiau. Ond yr oedd rhyw gân yn rhywle yn dweud am filwr ar ryfelgyrch wedi gwallgofi bron gan weled dim yn y byd ond esgidiau'r milwyr o ddydd i ddydd; i lan i lawr, ymlaen ymlaen. Yr oedd Anne wedi gwallgofi bron gan weled y grisiau o un awr i'r llall. Anne Dyna'r llais eto. Dyna amser ych chi'n gymryd a 'dyw'r cinio ddim ar y tân eto. Brysiwch, er mwyn tad." 0, byddwch ddistaw," ebe llais yr Anne danllyd dan sgrechian oddi mewn. Ond yr oedd y llais hwn yn cael ei fygu'n fuan gan lais tawel yr Anne ddaionus. Canys felly yr oeddynt yn siarad amdani Anne, merch dda ('mam a 'nhad) Anne, sort dda (y brodyr). Edrychodd i maes o'i ffenestr. Dim llawer o olygfa. Mynydd du a llwch glo wedi'u taenellu ag ychydig brysgoed, yn ymdrechu am fywyd ac anadl. AC wedyn, ryw ddydd, daeth rhamant i Anne. Fe ddaeth ar lun dyn bach, tew, Italaidd — Maestro Carmine. Dyna enw rhyfeddol, ebe Anne yn ei meddwl. Itali awelon heulog lliwiau gwych wynebau melynddu dannedd yn disgleirio miwsig dawns. (A Maestro, yr ydych wedi dod â lliwiau i batrwm bywyd Anne!) A rhyw fore, digwyddodd iddo fod wrth ei ffenestr, ac fe glywodd Anne yn canu wrth ei gwaith yn yr ardd. Fe redodd i'r ty yn llawn cyffro. A, Signor, eich merch hyfryd, y mae llais perffaith ganddi. Fe ddaw yn gantores enwog. Rhaid iddi fyned i Lundain i gael addysg. Fe ddaw yn enwog, — cantores fwya'r wlad." Ac felly i Lundain yr aeth Anne. Safodd i gael gwrandawiad, yn teimlo'n ofnus ac yn anesmwyth. Ar y terfyn daeth un o'r prif bobl ati. Y mae llais swynol iawn gennych, 'merch i. Ond y mae cystadleuaeth yn uchel iawn heddiw. Cerwch adre. Chwi fyddwch yn fwy hapus o lawer." AETH Anne i maes i'r stryd. Cerddodd ar y palmant, poen diflas yn ei chalon. Mewn ychydig amser digwyddodd daro ar fenyw yn ymdrechu â chwd trwm a baban ar ei braich. Y Bathodyn Gadewch i mi eich cynorthwyo." Cymerodd Anne y plentyn. Teimlodd y bysedd bychain yn crafangu am ei gwddf. Diolch yn fawr. 'Rwyf yn mynd i'r Tŷ Iechyd. Heddiw ydyw diwrnod y mamau. ac yr ydym yn cael amser dedwydd iawn." Ac felly aeth Anne gyda'r fam. Yr oedd y Tv Iechyd yn orlawn, mamau a phlant bach, rhai yn siriol, ychydig yn crio. Aeth Anne tuag at ystafell y feistres. A ydych chwi yn ceisio cynhorth- wyydd ? Edrychodd y feistres i fyny, gwên beraidd ar ei hwyneb. Ydym, yn ddirfawr, ond ac arhosodd yn y fan hyn yn arwydd- ocaol. Yr oedd ugain punt gydag Anne — ei holl gyfoeth yn y byd. Fe fydd hynny'n iawn. Mi weithiaf i heb ddim tâl." YR oedd Anne yn berffaith hapus wrth ei gwaith yn y Tŷ Iechyd, ac nid oedd yn pryderu fawr am y llythyrau yr oedd yn anfon adref-llythyrau yn llawn celwyddau gwyn. Anfonodd y teulu lythyrau iddi'n ôl, yn holi'n fanwl iawn am waith Anne- y canu-a faint o arian yr oedd hi yn ennill ? Ydych chi yn canu yn y cyngherddau mawr yn Llundain ? ebe 'mam, yn ei nodau bach byr. Beth ydyw'r tâl ych chi'n gymryd ? -oddi wrth 'nhad. A ydych chwi wedi ennill bathodyn, un aur ? /­oddi wrth y brodyr. Wel. Yr oedd hi wedi canu mewn cyngerdd-un a gafwyd un prynhawn i'r mamau. Ac aeth y plant bach i gyd i gysgu ar y nodynnau grisial pur oedd yn perthyn i lais Anne. Anghofiai Anne byth y cyngerdd na'r Dr. Roy yn canu iddi ar y piano. Caeodd Anne ei llygaid tywyll, a daeth Dr. Roy o'i blaen a'i wyneb cryf, llygaid gleision, disglair, ei ddwylo mor sicr, mor ddianwadal. Yr oedd gan y mamau berffaith ffydd yn Dr. Roy. Wrth feddwl amdano, fe neidiodd i fyny oddi mewn iddi yr Anne danllyd. Ond yr oedd Dr. Roy yn briod! Yn briod i wraig^yn glaf o'r parlys. Rhaid i'r Anne danllyd roi lle i'r Anne â'r rheswm da. Nid ydwyf yn cymryd tâl am ganu, achos yr wyf o hyd yn efrydydd," ebe Anne wrth derfynu'i llythyr yn ddisymwth. RAI wythnosau ar ôl hyn, clywodd Anne fod Dr. Roy yn gadael y Tŷ Iechyd, yn gorfod mynd â'i wraig i wlad bell, lle mae'r haul yn tywynnu trwy'r dydd. Ni chaiff fynd," ebe llais yr Anne danllyd. Ond fydd rhaid iddo fynd, onid hon yw'r ffordd gywir ? ebe llais distaw yr Anne ddaionus. Aeth yr wythnosau heibio ar draed trymllyd. Y dydd olaf, aeth Anne i mewn i ystafell y meddyg. Safodd yn y drws. Gan M. LYNWOOD JONES Yr wyf wedi dod i ddweud ffárwel." Edrychodd y Dr. Roy i fyny. Dewch yma. Yr wyf yn ceisio rhoi diolch i chwi am eich cân brydferth. Y mae llais hyfryd gennych, Anne. Cymerwch hwn, yn deyrnged i'ch llais swynol." Rhoddodd yn ei llaw swyngyfaredd o ruddemau heb ei dorri. SAFODD Anne o flaen y teulu. Wel A oes ryw obaith dy fod di'n dod yn prima donna ? Oddi wrth 'nhad. Ydych chi'n mynd i'n gwneud ni'n dlotach, neu yn fwy cyfoethog ? Oddi wrth 'mam. Beth am eich bathodyn, Anne ? Dang- oswch e i ni! Ai un aur ydyw ? Oddi wrth y brodyr. 'Does gennyf ddim ond hwn." Agorodd Anne ei llaw. Disgleiriodd y groes ruddemau yn goch yn erbyn ei bysedd main. Yr oedd Anne ar y trydydd llawr yn tannu'r gwelâu. Tu allan oedd y mynydd uchel 0 lwch glo yn taflu cysgod tywyll i mewn i'r ystafell. Gongl Holi ac Ateb B'le y gellir cael hyd i'r stori Wyddelig am (i) Kate Rearney, a (ii) Deirdre? (Ieuan, Llundain). A oes sicrwydd b'le y mae safle ddaearyddol Ynys Afallon? (D. J., Llangefni). A oes lyfr meddygol yn Gymraeg i'w gael ? (T. T., Pengwern). Ap RHYD, Rhydycymerau Rhoddid gwersi gohebiaethol Cymraeg hyd yn ddi- weddar gan Wolsey Hall, Oxford, yr University Correspondence College, a'r Nor- mal College, London. Yr unig wersi Cymraeg sydd ganddynt i'w cynnig yw'r rheiny ar gyfair Matriculation Llundain. Cyst rhyw 15 gwers £ 2/2/ (L., Treorci, Rhondda). E. L., Llanberis Goronwy Owen yw awdur y gwpled. Mewn gwawdodyn hir yn ei farwnad i Lewis Morus y'i ceir A fynno gyrraedd nef, wen goron, Dwy ran ei helynt drain a hoelion, Pigawg, dra llidiawg fawr drallodion, Croesau, cryf-loesau, criau croywon, Erlid a gofid i'w gyfion-ysbryd, Ym myd gwael bawlyd ac helbulon. (0. M., Caerdydd).