Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYFROL V. RHIF 10. AWST, 1935. Y FORD GRON GWASG Y DYWYSOGAETH, WRECSAM. Teleffôn Wrecsam 022. Swyddfa Lundain 47. Gresham Street, London, E.C.4. Tanysgriflad Chwe mta, 3s. 6d. Blwyddyn, 7s. Arwyddion Gwanhad DAETH o leiaf ddau arwydd i'r golwg yn gynnar fis Gorffennaf o dreiglad graddol cyfoeth ac adnoddau o Gymru i barthau eraill o Brydain. Y mae hyn yn digwydd yn gyson ers blynyddoedd bellach, ac nid Cymru yw'r unig wlad sy'n dioddef oddi wrtho. Haera gwleidyddion craffaf yr Alban fod pethau cyffelyb yn digwydd yn frawychus o gyflym yn eu bro hwythau. Beth ellir ei wneuthur i'w rwystro, meddai gwyrda'r ddwy wlad, ar eu cyfyng-gyngor. Gwrthdystiodd cyngor tre'r Fflint yn erbyn symud y swyddfa dreth enillion o'r Wyddgrug i Gaer. Y^tebyg yw," ebe Sais ar y cyngor, y llenwir y swyddfa yng Nghaer â Saeson a bydd Cymry a êl yno ynglvn â'u trethiant mewn andros o anhaws- ter." Cwynai aelodau eraill y gwanheid hawliau'r fro yn y dyfodol. ac y tynnid swyddogion o'r cymundeb Cymreig i awyr- gylch Seisnig. Symud gweithfeydd llafnau alcam o Lan- eUi, Gorseinion a Threforris, i Redbourne, swydd Lincoln, gan daflu 4,000 o ddynion a llawer eraill o lowyr ar y ddogn, sy'n hyll- dremu ar drigolion dwyrain sir Gaer. Wedi cael cymorth gan y llywodraeth yn yr amser fu wedi ennill miliwn o bunnau yn yr hen weithfeydd yng Nghymru, eu gwario yng nghwr eithaf LIoegr-dyna y cais y cwmni hwn o ddiwydianwyr ei wneuthur os cânt lonydd. Pob hwyl i'r Aelodau Seneddol gael gan y LIywodraeth ymyrryd, os bydd raid, yn yr achos. Y mae ganddynt bob hawl a dyled i wneuthur hynny. Ond y mae'r gwanhad cyson ar ddiwydiannau'r genedl yn gofyn Uawer mwy o adeiladu, o gynllunio ac o wylio nag a wneir yn awr. Twyll y Tonnau BU mwy o sôn nag arfer ganol y mis hwn am bobl yn cwrddyd â'u diwedd wrth ymdrochi yn y môr ac mewn afonydd. Bydd hyn yn digwydd drwy gydol y flwyddyn bron, ond yr oedd nifer y marwol- aethau annhymig a ddigwyddodd gyda'i gilydd-bu pump ohonynt yn ystod yr un deuddydd neu dri-yn bwnc sylw a braw ar bob llaw. Collodd Arthur Jones, athro, ei fywyd yn Nyfrdwy ger tre Fflint, Ue ceir pyllau twyllodrus yng ngwely'r afon cafodd tonnau'r môr y gorau ar Gareth Roberts a Florence Garland ar draeth Llanddulas, heb fod yn nepell o Abergele, mewn gwter peryglus, â'r Jlanw'n dyfod i mewn bodd- odd dau frawd, Emlyn ac Ifan Puw, dan gerynt cryf, mewn Uyn ym Morfa Mawddach. I aros y dyddiau dedwydd hynny pan dderpyr yr ysgolion ganolfan i ddysgu pob plentyn i nofio fel pysgodyn, sicr yw na ddylid ystyriaid yr un gyfres o ymarferiadau corff yn yr ysgolion yn gyflawn heb hyffordd- iant trylwyr am weithrediad trai a Uanw'r môr ac amrywiol beryglon afonydd a mor- feydd i ymdrochi ynddynt. Beirniad ni ddaeth ACHOSWYD cryn syndod yng nghwrdd ^j^ cyntaf Eisteddfod Gadeiriol Môn pan gafwyd nad oedd y prif feirniad cerdd- orol wedi dyfod i gyflawni ei genhadaeth. Eglurwyd wedyn mai camgymeriad oedd y cwbl, a bod y beirniad wedi hwylio i'r America ar neges arall. Dadleuai rhai fod gwers i bwyllgorau eisteddfod yn y digwydd- iad bod rhaid dethol i gerdd ŵr gyda'r un cymwysterau â'r beirniad llên-un â chanddo wybodaeth drwy brofiad am hanes a chefndir y sefydliad, ei ddyrysleoedd a'i dueddiadau, ei ddefodau a'i ddelfrydau un a fedrai draddodi beirniadaeth goeth mewn Cymraeg pur digymysg un a roes eisoes gyfraniad i adnoddau a datblygiad ei wyddor yng Nghymru un a ddyry feithriniad sefydl- iadau ei wlad ei hun yn gyntaf yn ei feddwl, a'r eiddo gwledydd eraill wedyn. Os oes rhaid cael estron i feirniadu, meddent, rhodder ef yn gynorthwyydd-yn ail neu drydydd, ac nid yn ben. Casglu Ffyddloniaid YMAE'N ddigon tebyg mai methu a wna y ymherodr Abysinia yn ei ymgyrch yn erbyn bygythion Mussolini. Gall y gorchfyga unben yr Eidal y genedl hanes- yddol hon, sydd yn honni olrhain ach ei breninoedd i Selyf frenin. Yna trefhir y deirongl hon o wlad yn union yr un fath â'r meddiannau Ewrobeaidd sy'n ei llwyr am- gylchu. Diwedderir ei ffyrdd a masnacheir ei hadnoddau. 0 un i un fe ddiflanna'i thraddodiadau oesol fe'i mwydir â diwyll- iant estron. Yn y cyfamser fe wasgerir ben- dithion y dyn gwyn yn ogystal â'i felltithion, ymysg y trigolion. Dwg y bendithion hyn arnynt eu hunain, yn ddiau, beth o liw'r fro ac ymateb fwy a mwy i angenion y genedl. Yng ngolau newydd dulliau'r gor- llewin fe ail godir y bywyd cynhennid a goll- wyd ennyd awr, a'i berffeithio a'i gryfhau. Cyn bo hir bydd aelodau'r lleiafrif hwn wedi dysgu cystal â'u trechwyr y gwyddorau fu'n foddion i'w caethiwo. Eithr drwy'r dysgu a'r cyfnewid syniadau, a gollir yr hen dân, yr awydd gynt i fod yn wahanol, y dyheadau greddfol cynhenid ? Pwy wyr ? Un peth sydd sicr, y mae cyfnewidiadau mawr yn aros y deng miliwn brodorion hyn. Mawr na chofiai'r ymosodwr, yntau, mai Ue y mae Ymherodr Abysinia yn awr, yn ceisio casglu ynghyd ei ffyddloniaid i ddiogelu delfryd ac ymddiriedaeth ei genedl, yr oedd yntau, ddeuddeng mlynedd yn ôl, pan gasglodd ei luoedd egwan i ymgyrchu ar Rufain. Y Dawnsyddion Bach YR oedd gwaith y ddwy eneth fach yn agor basged ac yn gollwng dwy golomen heddwch i'r byd gerbron 1,500 o ddawnsyddion bach yr Urdd, yn y Mabolgampau yn Aberystwyth, yn arwydd- ocaol ar fwy nag un ystyr. Fel y dywedodd Mr. Tom Davies, y gwr hyddawn oedd gan mwyaf yn gyfrifol am drefniadau'r digwyddiad disglair, Y mae hwn yn fudiad newydd yng Nghymru, sy'n dwyn hen ddawnsîau Cymreig o'r tafarnau a'r ffeiriau i festrrau'r capeli ac i'r ysgolion." Dacw hwy, reng ar ôl rheng o ieuenctid gwenus ac ysgafhdroed, yn canu Ymdaith yr Urdd. Dacw hwy yn jTnffurfio ar gyfair y ddawns gyntaf, yn eu gwisgoedd gwyrdd a choch. Cân seindorf Llanelli ganeuon gwerin i'r dawnsyddion hoyw hyn. Y mae rhai o'r dawnsiau yn anghynefin i'r genethod bach o Feirion a Cheredigion a Mynwy, ond cyd-symudant fel awrlais, heb i'r un gorchymyn gael ei roddi yn unman. Ac nid am wobr nac anrhydedd y dawnsir, ond o gariad at y difyrrwch-dyma lond maes o yni ac egni bywyd dan feithriniad gofalus yn torri allan mewn dawns. Beth a addawa'r miloedd mabolgampwyr hyn am y dyfodol ? Y maent yn addo gwawr newydd o gydymgais a chydfwyniant o fywyd sydd i dorri ar genedl y Cymry ac ar genhedloedd y byd, pan ddefnyddir ffrwythau masnach fel y dylid eu defnyddío-í ddat- blygu diwylliant.