Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Pennaf heb ddysgu yn gyntaf iddynt am Hywel Dda, y ddau Lywelyn, Owain Glyn Dẁr, Tomas Prys Plas Iolyn, Salesbury a'r ddau Esgob, yr Hen Ficer a Gruffydd Jones ? Hanes Cymru a'i daearyddiaeth. Hanes Cymru yn unig a ddylid ei ddysgu i blant dan un-ar-ddeg oed. Pam lai ? Y mae'n ddigon o faes. Y mae ei lond o ddig- wyddiadau diddorol i lenwi dychymyg plentyn, ac i'w gipio'n gyfan oll. Nid rhaid cwyno ychwaith nad oes lyfrau i'w cael. Ydynt, y maent i'w cael, oddi allan i ysgolion y rhan fwyaf o'n siroedd ni. Gellir cymhwyso'r un awgrym at ddaear- yddiaeth. Am ddaear Cymru y dylai'r plant glywed yn gyntaf-am ei hafonydd hi a'i mynyddoedd, ei threfi a'i phentrefi a'i chartrefi hi, am ei mwnau, ei glo a'i haearn, ei halcam a'i chwareli, ac am fywyd ei gweithwyr. Gellid dysgu hanes a daearyddiaeth gyda'i gilydd, cychwyn o'r hanes a'r ardal Ueol, hyd at gyffiniau'r sir-neu, gwell fyth, yr hen raniadau, Gwynedd, Powys, Deheubarth— ac ymestyn allan ac ymlaen dros Gymru. Beth ddylai lle Saesneg fod yn yr ysgol- ion hyd un-ar-ddeg oed? Ni chredaf fod lle iddi o gwbl yn y parthau gwledig a Chymreig. Ar hynny, mewn gwirionedd, y dibynna cadw'r Gymraeg yn fyw o gwbl. HORROCHSES Y mae plodiau i fwynhau tymor poblogaidd eto. Dewiswch y defnydd Horrockses deniadol hwn-PITUsca-at eich gwisgoedd bach haf, at flowsiau, ac at addumiadau llon ar ffrociau plaen teiliwr. Chwi ellwch ei gael mewn amryw batrymau eraill hefyd. At hwyrnosau haf paratowch i chwi wisg hyfryd ramantus o ORGANDIE newydd Horrockses gyda'i gynlluniau hudol ar gefndir hunan-batrwm gwyn. At ddilladau traeth a gwyliau chwi hoffwch piqué printiedig Horrockses-COLONa, hynod Ion a thelaid, a SPORTSCORD, mewn siribiau o liw llachar effeithiol iawn gyda gwrthliwiau plaen ar ffurf cotiau ac addurniadau. Cymysgwch Colona plaen a'r Sportscord hwn at wisg-fordaith hardd. Ac os edrychwch yn orau mewn GINGHAM, ieflwch olwg ar gyfres 1935 Horrockses — lliwiau lledriihiol, pasielau clir hygar a gwawriau iywyll disglair. Rhed prisiau'r Defnyddiau hyfryd hyn o 1/- i 1/9 y llaih. HORROCRSES CREWDSON & CO. LTD., 107, PICCADILLY, MANCHESTER Beth yw'n delfryd ieithyddol ni yng Nghymru ? Cymru ddwy-ieithog ? Dyna'r ddelfryd sy'n gyfrifol am holl ddrysni ein haddysg heddiw, addysg heb ronyn o weled- igaeth. Y mae gwlad ddwy-ieithog yn ddelfryd wrthun ac amhosibl. Pe delai'r dydd-Duw a'n gwaredo rhag- ddo !-y medrai pawb yng Nghymru siarad Saesneg gweddol, fe ddarfyddai am ein diwylliant Cymraeg a Chymreig ni bob tamaid. Y mae'n ddihareb gan economeg- wyr fod arian gwael yn bwrw allan arian da o gylchrediad. Dyna a ddigwydd i'r iaith Gymraeg — fe'i bwrrir o gylchrediad. Fe'i tarewir yn ei phen. Fe fydd farw'n gelain. Nid oes yr un syniad mwy peryglus a chyfeiliomus y chwaraea addysgwyr Cymru ag ef megis â thân, na'r syniad am Gymru ddwy-ieithog yn ddifrif ac yn daer, cyn yr elo'r dydd yn rhy hwyr, boed iddynt ail- ystyriaid pethau yn ddwys iawn. Y Gymru y mae'n iawn, yn gall- ac yn ddoeth inni gyrchu ati ydyw Cymru uniaith Gymraeg. Y porth aur, yr unig borth aur, i gyrraedd at y Gymru honno ydyw'r ysgolion elfennol. Yn y rhannau Cymreig, na foed iddynt ddysgu Saesneg o gwbl. Y mae dysgu Saesneg yno yn fradychu Cymru. Dysgu Saesneg yno ydyw myned allan o'r ffordd i ladd y Gymraeg a dinistrio Cymru. A fynnwn ni hynny ? Ein noddfa-Cymry uniaith. Na ddadleuer o gwbl fod gwledydd dwy- ieithog i'w cael, bod Belgium yn ddwy ieithog, a Swistir yn ddwy-ieithog. Ydynt y mae'r ddwy wlad honno yn ddwy-ieithog. Nac anghofier paham. Y maent yn ddwy- ieithog am fod yr ieithoedd a siaredir gan- ddjnt hwy yn cael eu siarad gan genhedloedd i ryfion o'u cwmpas. Y rheini sy'n cadw eu hieithoedd hwy'n fyw. Hebddynt hwy ni buasai dwy iaith nac ym Melgium nac yn Swistir. Yng Nghymru, nid oes gennym yr un wlad arall wrth gefn lle y siaredir y Gymraeg. Deuai tranc y Gym- raeg pe bai pawb yng Nghymru yn gwybod Saesneg. Ein noddfa ni ydyw Cymry uniaith. Un peth sydd yn olau fel canol dydd yn hanes Cymru ydyw mai ysgolion Cymraeg yn unig a adawodd ôl dwfn ar ein pobl. Methu a wnaeth y Ueill. Ond bu ysgolion Gruffydd Jones a Charles o'r Bala yn llwyddiant di- lediyw am eu bod yn ysgolion Cymraeg. Tynnwn ysbrydiaeth oddi yno. Dysgwn ganddynt hwy. Ac wrth ddadlau am roddi Cymru gyfan ger bron plant yr ysgolion elfennol, rhaid dweud hefyd ei bod yn hen hen bryd bellach ddysgu rhif a mesur, hanes a daearyddiaeth, Lladin a Ffrangeg, yn yr ysgolion sir drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Yn y colegau a'r Brifysgol, Ue ni ddysgir dim ond Cymraeg drwy Gymraeg, dylid weithian fynd i'r un cyfeiriad. Pan ddechreuir ar hynny, ac nid cynt, gallwn ddechrau ymffrostio bod gennym ar waith Gyfundrefn Addysg Gymraeg a Chymreig. Os oes gweledigaeth yng Nghymru heddiw, yna fe wneir hyn. Os nad oes, y mae'r dyfodol yn bur dywyll.